Archif Newyddion

08.06.22 Taith i Lerpwl

Trip i LerpwlWel am drip da! Tra yn Oriel Lady Lever ym Mhort Sunlight cawsom weld y llun enwog 'Salem' a baentiwyd gan Sydney Curnow Vosper yn 1908. O'r fan yno aethom ar daith ar gwch fferi ar hyd yr afon Mersi gan lanio yn Lerpwl. Roedd cyfle i gael bwyd a siopa yn y ddinas cyn i ni droi am adra ar fws cyfforddus Arvonia. Diolch i'r Loteri Genedlaethol am noddi'r diwrnod, a diolch yn arbennig i Anne Elis, Liz Watkin a Gwyneth Jones am drefnu trip diwedd tymor mor arbennig.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r digwyddiad

Cliciwch yma i weld y lluniau


12.05.22 Taith Gerdded

Taith GerddedBu rai o aelodau'r gangen ar daith gerdded cyn gorffen yng nghaffi Perthyn, Bethel. Braf oedd cael llongyfarch Bet a Seiriol oedd yn dathlu 60 mlynedd o fywyd priodasol heddiw!

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r digwyddiad

Cliciwch yma i weld y lluniau


13.04.22 Yoga Cadair

Cinio DoligDaeth Wendy Ostler atom i gynnal sesiwn o gadair yoga yn y Neuadd. Gwnaeth fyd o les i ni i gyd cael cyfle i ymestyn, troi a phlygu, ac wedyn ymlacio'n braf.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson




04.03.22 Bore Coffi

Cinio DoligRoedd cyfarfod o’r gangen yn wahanol y mis yma gan i ni gynnal bore coffi oedd yn agored i holl bentrefwyr Bethel. Cynhaliwyd y bore coffi yn y Neuadd Bentref o 10.00 tan 12.00 fore Gwener y 4ydd o Fawrth. Bwriad y bore coffi oedd rhoi cyfle i’r pentrefwyr o bob oed ddechrau ail gymdeithasu wedi cyfnod hir y Covid. Derbyniodd y gangen grantiau gan Gyngor Gwynedd a Chronfa’r Loteri Genedlaethol at gostau cynnal y digwyddiad.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r digwyddiad

Cliciwch yma i weld y lluniau


09.02.22 Yr Orsaf, Penygroes

Cinio DoligCynhaliwyd cyfarfod nos Fercher y 9fed o Chwefror ar Zoom. Daeth nifer dda iawn o’r aelodau i wrando ar Ben Gregory a Gwenllian yn son am y datblygiadau cyffrous sydd yn digwydd yn Yr Orsaf ym Mhenygroes.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

 


12.01.22 Elen Lloyd

Cinio DoligCynhalwyd cyfarfod Ionawr o’r gangen nos Fercher 12 Ionawr ar Zoom. Croesawyd pawb  gan y llywydd Anne Elis gan ddymuno Blwyddyn newydd dda i bawb a nodi mor braf oedd gweld cymaint wedi ymuno am y noson.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

 


09.12.21 Cinio Nadolig

Cinio DoligCawsom groeso cynnes a bwyd da yn Perthyn pan aeth nifer ohonom yno i ddathlu'r Nadolig. Braf oedd gweld ffrindiau a chael dal i fyny gyda newyddion bawb.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau

 


10.11.21 Y Bethel 'Bake Off

Cyfarfod yn y Neuad'Mae Llinos Angharad Owen yn adnabyddus i amryw o'r dudalen Curo Corona'n Coginio. Daeth draw i'r neuadd atom i drefnu y Bethel 'Bake Off' a buom yn gwylio chwe aelod yn addurno teisennau bach. Roedd teisennau pawb yn hynod o ddel ond Mair Read oedd y 'Star Baker' ar y noson.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


13.10.21 Noson Blodau Gobaith

Cyfarfod yn y NeuadBuom yn creu Blodau Gobaith yng nghyfarfod Hydref. Roedd grŵp Rhian Hughes ac Anwylyd Jones yn creu blodau o ffelt, grŵp Mair Read yn creu blodau wrth grosio, a grŵp Valmai Owen yn gweu eu blodau. Diolchwyd i’r pedair am rannu eu doniau gyda’r aelodau. Roedd cyfle i sgwrsio a chymdeithasu, a bydd Anne Elis ein Llywydd yn trosglwyddo'r blodau i Aberystwyth iddynt gael eu harddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron flwyddyn nesaf.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


08.09.21 Cyfarfod yn y Neuadd

Cyfarfod yn y NeuadCawsom gyfarfod yn neuadd Bethel i gychwyn tymor newydd, a braf oedd clywed Anne Elis ein Llywydd yn croesawu pawb yn ôl yn dilyn cyfyngiadau Covid19. Diolch i Liz Watkin ein Hysgrifennydd am baratoi Asesiad Risg fel bod mesurau yn eu lle er mwyn ein diogelwch. Dyma'r ddwy gyda Gwyneth Jones ein Trysorydd. Mae rhaglen wedi ei pharatoi am y flwyddyn ac mae croeso cynnes i aelodau newydd yn y cyfarfod nesaf ar Hydref 13.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau

09.06.21 Taith Gerdded a Te Prynhawn

Taith Gerdded a Te PrynhawnO'r diwedd cawson gyfarfod - y tro cyntaf ers Mawrth 2020! Mae cyfarfod dros Zoom yn ystod cyfnod Covid19 wedi bod yn dda,ond does dim byd i guro cerdded a sgwrsio gyda hen ffrindiau. Ac i goroni'r cyfan daeth ychwaneg o aelodau i ymuno gyda ni
yng nghaffi Perthyn yma ym Methel am de prynhawn bendigedig!

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


12.05.21 Anwen Iorwerth - ‘Ar Ysgwyddau Cewri’

Gwerfyl Eidda - Gofal CroenEstynnodd Anita groeso cynnes i’n gwraig wâdd, Awen Iorwerth sy’n Llawfeddyg Orthopedeg. Ganed Awen yn y Rhondda cyn i’w theulu symud i Rydymain ac yna i Fôn. Derbynniodd ei haddysg gynradd yn Rhydymain a Llandegfan cyn mynd ymlaen i Ysgol David Hughes ac yna i Brifysgol Caerdydd i astudio meddygaeth. Testun sgwrs Awen oedd ‘Ar Ysgwyddau Cewri’.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson.


16.04.21 Gwerfyl Eidda - Gofal Croen

Gwerfyl Eidda - Gofal CroenEin gwraig wadd ym mis Ebrill oedd Gwerfyl Eidda, yn wreiddiol o Ysbyty Ifan, ond erbyn hyn yn byw yn Llanrwst. Mae hi’n swyddog datblygu Clybiau Gwawr MYW, yn gweithio i gwmni Tropic ac yn fam i ddau o blant. Testun ei sgwrs oedd cynnyrch gofal croen ‘Tropic’.

 

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson.


10.03.21 ‘Cwpan a Soser’ Angharad Price

Angharad PriceCyfarfu rhai o’r aelodau ar ‘Zoom’ nos Fercher, 10fed Mawrth. Croesawodd Anita, ein llywydd, pawb i’r cyfarfod a mynegodd pa mor braf oedd gweld ffrindiau pell ac agos. Wedyn treuliwyd orig ddifyr iawn yng nghwmni'r darlithydd ac awdur llwyddiannus Angharad Price a fu'n sôn am ei hysgrif ‘Cwpan a Soser’ o'i llyfr diweddaraf, 'Ymbapuroli'. Gofalodd yr aelodau fod ganddynt baned mewn cwpan a soser tra’n gwrando ar Angharad.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson.


10.02.21 Cyfarfod ar Zoom

picnic wedi wauCyfarfu rhai o’r aelodau ar Zoom, nos Fercher, 10fed Chwefror. Croesawodd Anita, ein Llywydd, pawb i’r cyfarfod Zoom. Rhoddodd groeso arbennig i Glenys oedd wedi ymuno â ni o Dde Cymru. ‘Roedd pawb yn falch o weld Glenys ac yn falch o glywed ei bod hi a Jenkin yn cadw’n ddiogel. Anfonwyd cofion a gwellhad buan i Mabel, Eryl a Gwyneth (Llain yr Ardd) sydd yn Ysbyty Eryri.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson.


11.12.20 Neges Nadolig 2020

picnic wedi wauAnnwyl gyd-aelod,

Gair byr ar drothwy’r Nadolig. Diolch i bawb am dalu eu tâl aelodaeth, mae gennym 35 aelod, un newydd sbon, croeso i ti Ceri o Gaernarfon, yn falch i dy gael yn aelod o gangen Bethel. Llongyfarchiadau i Jen ar enedigaeth ŵyr bach newydd, Morgan Michael Garrod. Yn falch clywed fod Deio, ŵyr Mair y Ddol adref o’r ysbyty ac yn gwella. Yn naturiol danfonwn ein cyfarchion at bawb fu ag achos i ddathlu, ddim yn teimlo gant y cant, yn wynebu triniaeth, neu mewn galar, ar gyfnod fel hyn mae’n anodd dod o hyd i hanesion am ein haelodau.

Gweithgareddau’r tymor nesaf -

Dydd Iau Ionawr 14eg/21ain 2021:

Pawb sy’ n dymuno mynd am dro i gyfarfod o flaen y neuadd ar Ionawr 14eg, os yn glawio, gohirio tan yr 21ain.

1. Tro cylch i’r Felinheli ac yn ôl, cyfarfod am 2.00pm
2. Tro llai, fyny lôn Gwyndy ac yn ôl, cyfarfod am 2.30pm

Ar ddiwedd y daith gall pawb sy’n dymuno fynd am baned a chacen/ te prynhawn i gaffi Perthyn, mae fyny i chi’n bersonol i gysylltu â Perthyn i gadw bwrdd (hyn yn dibynnu ar reolau covid). Yn naturiol byddwn yn cadw at bellter cymdeithasol wrth gerdded ac ar hyn o bryd gallwn rannu bwrdd yn 4.

Nos Iau, Ionawr 14eg 2021

Bydd cyfarfod yn cael ei drefnu dros Zoom, cawn gyfle i sgwrsio ac i drafod arferion ‘croesawu’r flwyddyn newydd.’ I gael mynediad i Zoom bydd Rhian yn danfon e-bost atoch ar Ionawr 13eg, gyda chyfarwyddiadau, mae’n hawdd. Bydd angen llawrlwytho Zoom i’ch ffôn, ipad neu gyfrifiadur.

Cyfarfod Chwefror/ Mawrth/Ebrill 2021 ar Zoom, gwybodaeth i ddilyn.

Gawn ni felly ddymuno NADOLIG LLAWEN i bob un ohonoch a BLWYDDYN NEWYDD DDA, cadw’ch yn ddiogel,

Cofion cynnes,

Rhian, Liz, Eleri ac Anita


20.11.20 Neges gan Tegwen Morris (Cyfarwyddwr Cenedlaethol)

picnic wedi wau
Carwn ddiolch o galon i chi fel swyddogion ac fel aelodau am eich cefnogaeth i waith ein mudiad eleni. Mae wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd, ond trwy gydweithio rydym wedi llwyddo i gynnal nifer fawr iawn o weithgareddau a digwyddiadau. Mae’r diolch cyntaf i bawb sydd wedi "Ffonio Ffrind" neu anfon gair at eraill, yn ail i bawb sydd wedi arddangos yr enfys fel arwydd o ddiolchgarwch ac arwydd o obaith. Ac yn sicr carwn ddiolch i bawb sydd wedi bwrw ati i greu "Blodau Gobaith" mae'r lluniau dwi wedi gweld yn rhyfeddol - ac os fydd yn ddiogel fe fydd yna gasgliadau o flodau yn lleol ar Fawrth 1af. 

Neges gan Tegwen Morris (Cyfarwyddwr Cenedlaethol) -  cliciwch yma



02.11.20 Neges Bwysig

picnic wedi wauHelo Bawb, Gair bach gan obeithio fod pawb yn cadw’n iawn yn ystod y cyfnod anodd sy’n ein hwynebu. Yn ôl yr arfer mae angen i ni dalu ein tâl aelodaeth. Penderfynodd y pwyllgor y byddem yn rhoi gostyngiad o £18 i £14 eleni. A fyddech cystal â rhoi’r arian mewn amlen gyda’ch enw a’i roi drwy’r drws i Eleri, Rhian, Liz neu i mi erbyn Rhagfyr 1af os gwelwch yn dda. Gofynnir yn garedig i chi drosglwyddo’r wybodaeth yma i ffrind sy’n aelod ond ddim yn defnyddio’r we.

Os na fyddwn yn medru cyfarfod gyda’r nos, yna gobeithiwn drefnu gweithgareddau yn yr awyr iach, e.e. taith gerdded yn ystod y dydd i groesawu’r flwyddyn newydd. Cewch fwy o wybodaeth yn agosach i‘r flwyddyn newydd. Yn y cyfamser cymrwch ofal, a chofion cynnes at bob un o’n haelodau. Os oes unrhyw un ohonoch angen cymorth yna cysylltwch.

Anita


05.10.20 Gohebiaeth Mis Hydref

picnic wedi wauGan nad ydym yn gallu cyfarfod ar hyn o bryd dyma rannu y gohebiaeth sydd wedi dod i'r gangen:

Neges gan Tegwen Morris (Cyfarwyddwr Cenedlaethol) yn cynnwys manylion Podlediau - cliciwch yma
Poster Ffair Aeaf 2020 - cliciwch yma
Cystadleuaeth Cynllunio Carden Nadolig 2020 - cliciwch yma
Creu Blodau Gobaith - cliciwch yma

18.08.20 Pwyllgor Yn Cyfarfod

picnic wedi wauCyfarfu pwyllgor presennol y gangen mewn gardd. Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith, i Mair R am arwain mewn modd hamddenol a ddifyr, i Jen a Mair W am eu gwaith trefnu gofalus fel ysgrifenyddesau ac i Nan edrych ar ôl ein cyllid.
Penderfynwyd mai doeth oedd peidio â chyfarfod dros dymor yr hydref gan drefnu rhaglen ddifyr o fis Ionawr ymlaen. Edrychwn ymlaen felly at sgwrs a phaned ar yr ail nos Fercher yn Ionawr.

Dymunwn arferiad buan i bawb na fu’n dda eu hiechyd gan longyfarch ieuenctid y pentref ar ganlyniadau arholiad. Pob dymuniad da i drigolion y pentref yn ogystal â’n haelodau wrth i ni ddod allan o’r cyfnod cloi.


11.06.20 Newyddion O'r Gangen

picnic wedi wau

Mis Mehefin ac rydan ni’n dal dan glo! Pawb yn parhau i grwydro’n lleol a gweiddi sgwrsio o bell. Gawsom ni ddim mynd am Nefyn i orffen y tymor, ond, wedi’r holl dywydd braf, doedd hi fawr o dywydd trip neithiwr. Sawl un yn diolch am y glaw i ni gael sbario rhoi dŵr i’r ardd.

Tipyn o fraw clywed fod Liz, PenParc, wedi dal yr haint ac yn Ysbyty Penrhos Stanley ers rhyw wythnos. Yn ôl a ddeallaf, tydy hi ddim yn dioddef yn wael oddi wrtho a’n gobaith i gyd ydy y caiff hi ddod adra reit handi. Brysia wella Liz.

Trist oedd clywed hefyd fod Joyce Roberts, Felinheli, wedi’n gadael. Fu na erioed gymaint o chwerthin na phan oedd Joyce yn aelod o’r gangen! Coffa da amdani a’n cydymdeimlad llwyraf efo Anwen a’r teulu.
Ar dymor arferol byddai swyddogion eleni wedi diolch i chi gyd am eich cwmni yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, ac wedi trosglwyddo’r awenau i dîm flwyddyn nesa yn y swper wedi’r trip diwedd tymor. Mae swyddogion flwyddyn nesa eisoes wedi cytuno i gymryd at eu swyddi ac rydym ni am sticio efo’r un pwyllgor tan y bydd yn bosib i ni gyfarfod eto.

Mae wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn! Diolch i chi gyd am eich cyfeillgarwch a’ch cefnogaeth, yn arbennig dros y tri mis diwethaf yma. Edrych ymlaen i gael cyfarfod go iawn rywbryd tymor nesa.Efallai y gallwn fynd am dro efo’n gilydd gan fod cynifer ohonom wedi dod i adnabod llwybrau’r cylch yn well yn ystod y cyfnod clo. Meddyliwch, rhes hir o Ferched y Wawr, gwallt gwyn, yn nadreddu’i ffordd rownd Bro Bethel!

Daliwn i gredu - gan ddyheu i’r hen haul yna ddod ar y bryn go iawn eto,

Mair a’r swyddogion

Llun: Anita Owen, Llywydd 2020-21


19.05.20 Newyddion O'r Gangen

picnic wedi wau

Helo, sut hwyl sy ar bawb? Sawl wythnos sy wedi mynd heibio ers y bwletin diwethaf? Os ydych chi rwbath tebyg i mi rydych wedi hen golli cownt! Gawsom ni ddim mynd i drio chwarae croce yn Llanfairfechan a fydd yna ddim trip i Nefyn. Gobeithio cawn ni gystal tywydd pan fydd ein traed yn rhydd i grwydro i'r llefydd yma eto.

Mae'n gysur ein bod i gyd i weld yn cadw reit iach ond mae rhai wedi gorfod mynd tua'r ysbyty'n ddiweddar serch hynny. Falch iawn na fu'n rhaid i Lisabeth, Pen Parc aros yn yr ysbyty'n rhy hir wedi'r pwl gafodd yn ddiweddar ac iddi ddod yn ôl adra reit handi. Bu Cecile yn Ysbyty Gwynedd am dridiau efo Dylan, y mab hynaf, ddechrau'r mis hefyd. Cafodd dynnu ei bendics ar frys ac mae wedi dod ato'i hun yn dda iawn erbyn hyn.

Mae'n bwrw glaw felly does dim rhaid teimlo'n euog am beidio mynd i'r ardd heddiw. Beth am greu ychydig o flodau ar gyfer enfys o flodau'r mudiad - unrhyw grefft. Dyma ychydig wnes i ddechrau'r flwyddyn, rhaid mynd ati i wneud mwy rwan yn lliwiau'r enfys.

Hwyl, Mair.


22.04.20 Newyddion O'r Gangen

picnic wedi wau

Sut hwyl bawb? Ychydig o newyddion da i chi, a Duw a ŵyr ein bod ni angen dipyn o hwnnw dyddiau yma!

Mae Mabel yn nain, unwaith eto! Cyrhaeddodd Macsen, mab bach (plentyn cyntaf) i Gwenan a Robin, yn Ysbyty Gwynedd fore Llun. Gobeithio y cewch ddod adra reit handi i Fethel. Rydan ni gyd yn edrych ymlaen i weld y goets yn mynd heibio pan fydd Macsen yn mynd am dro rownd y pentref.

Wel, mae yna arddio wedi bod yn digwydd rownd y lle yma! Welais i erioed cyn lleied o chwyn a gymaint o hau a phlannu. Ella mai sioe flodau a chynnyrch gardd fydd ein cyfarfod cyntaf o'r tymor newydd! Jam a Chutney fydd hi erbyn mis Medi a phawb yn holi Eleri be mae'r hen lyfr coginio ddaeth hi ar ei draws yn ei awgrymu.

Daeth neges o Aberystwyth yn son am gynllun sy gan y mudiad i greu blodau lliwiau'r enfys, a'u casglu i gyd at ei gilydd i wneud arddangosfa o enfys fawr i ddathlu pan fydd yr aflwydd yma wedi mynd heibio. Felly cerwch ati i wau, gwnïo, crosio, neu greu blodau allan o unrhyw ddefnyddiau sy gennych chi pan fyddwch yn y tŷ. Blodau a garddio oedd y thema ar gyfer y Sioe eleni felly ella bod rhai ohonoch chi wedi bod wrthi'n barod yn meddwl am syniadau.


14.04.20 Newyddion O'r Gangen

picnic wedi wau

Helo ledis, Sut ydach chi'n dygymod efo'r caethiwed mawr yma? Mae rhywbeth reit braf mewn cael aros adra a gwneud bob dim wrth ein pwysau - dim rhuthro yma a thraw! Rydan ni'n lwcus iawn o'n cartrefi clud a'n gerddi ac yn cael tywydd braf i'w mwynhau. Gawsom ni ddim cyd-greu cardiau Pasg dan arweiniad Nan ond mae nifer ohonoch wrthi'n creu fel slecs a'ch campweithiau i'w gweld ar y dudalen FB Curo'r Corona'n Crefftio. Roedd picnic wedi wau Rhian yn tynnu dŵr o'r dannedd!

Mae Rita a'r teulu wedi cael cyfnod gofidus iawn dros yr wythnos ddiwetha efo Gareth, gŵr Manon, wedi bod yn yr ysbyty yn dioddef o effeithiau'r firws felltith yma. Daeth adref yn ôl ddoe, diolch byth, a rydym yn dymuno adferiad iechyd buan iddo fo. "Gan bwyll rwan GWG - mi ddoi di dow dow, mae yna dîm o nyrsys da yn gofalu amdanat ti!" Mae'r pwyllgor yn dymuno Pasg cartrefol, gwahanol iawn i'r arfer ond hapus serch hynny i chi gyd. Dim gormod o'r wyau siocled neis na!!


31.03.20 Newyddion O'r Gangen

ymweliad i Oriel Môn Haf 1992

Helo ferched, neu efallai byddai Meudwyesau'r Wawr yn well enw dyddiau yma! Gobeithio fod pawb yn gyfforddus gartre, gallai fod llawer gwaeth arnom. Cofiwch unrhyw broblem rhannwch hi efo'ch cyd-aelodau o MYW Bethel a dwi'n siŵr bydd gan ryw un ohonom ryw fath o ddatrysiad i'w gynnig. "Os mêts, mêts" ynde genod.

Chydig o newyddion da i'n cadw ni i fynd.
Croeso mawr adra'n ôl i Anne Elis a Mair Price. Diolch eich bod adra'n saff o'r diwedd o'ch antur yn Viet-Nam. Braf iawn cael cysgu yn eich gwely bach eich hun eto dwi'n siŵr. Llongyfarchiadau i Mair Williams ar ddod yn Nain unwaith eto. Ganwyd Merch fach, Cadi Alis, i Owain Siôn ag Alison i lawr yn Abertawe. Brysied y dydd y cei ei magu go iawn yn dy freichiau.
Mi bostiwn ni eto wythnos nesa - felly rhowch wybod am unrhyw newyddion. Daliwch i fynd genod a daliwch i gredu.
Hwyl, Y swyddogion

(Llun o'r archif - ymweliad i Oriel Môn Haf 1992)


20.03.20 Canslo Cyfarfodydd

Sash Huw FfashMae cyfarfodydd Ebrill, Mai a Mehefin wedi eu canslo oherwydd y coronafeirws a byddwn mewn cysylltiad pan mae'r sefyllfa wedi gwella. Cadwch yn ddiogel ac edrychwn ymlaen at eich gweld pan fydd yr hen feirws yma wedi ein gadael.

 

 



11.03.20 Dathlu Gŵyl DdewiSash Huw Ffash

Aethom ar ymweliad i Halen Môn eleni i ddathlu Gŵyl Ddewi. Roedd y sgwrs gan Eluned a'r daith o amgylch yr adeilad yn hynod o ddiddorol, ac roedd cyfle i wario yn y siop chwaethus hefyd. Wedyn aethon ymlaen i'r Anglesey Arms ym Mhorthaethwy ble cawsom ymlacio a sgwrsio dros bryd gwerth chweil o fwyd.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


12.02.20 Vicki Hinde - Sebonau PrydferthSash Huw Ffash

Roedd arogl bendigedig yn festri Capel Cysegr pan ddaeth Vicki Hinde draw i ddangos i ni sut i wneud sebon, ac i sôn am ei busnes ym Meddgelert "The Soap Mine". Roedd llawer wedi manteisio ar y cyfle i brynu un o'i sebonau hardd, ac os bydd eisiau gallwch brynu mwy yn Storiel, Bangor neu ar-lein drwy ei gwefan www.thesoapmine.co.uk


Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


08.01.20 Marged Tudur - 'Aros mae'r mynyddau mawr'Sash Huw Ffash

Ar gychwyn degawd newydd sbon daeth Marged Tudur draw i’r gangen i sôn am ei thaith i Sagarmatha (enw lleol am 'Base Camp' Everest). Mae'n amlwg ei fod wedi bod yn antur a hanner, ac roedd pawb wedi mwynhau'r cyflwyniad bywiog a diddorol.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


11.12.19 Cinio NadoligSash Huw Ffash

Eleni aethom draw i westy'r Victoria yn Llanberis i ddathlu'r Nadolig ble roedd y bwyd yn flasus a'r cwmni'n hwyliog. Llongyfarchiadau i Elen Elis ar ennill y gystadleuaeth limrig ac i Anne Elis am ei brawddeg dymhorol gyda phob gair yn dechrau efo B - y ddwy yn wir haeddu'r 'Goron'! Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn 2020!

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


13.11.19 'Dolig yn Dwad' - Trefnu Blodau Gyda Cecile RobertsSash Huw Ffash

Yng nghyfarfod Tachwedd cafodd yr aelodau ymlacio yn braf wrth drefnu blodau tymhorol gyda Cecile Roberts. Roedd pawb wedi dod â’u blodau eu hunain ynghyd â sisyrnau addas ac roedd festri Capel Cysger yn lliwgar ac yn llawn bwrlwm wrth i bawb fynd ati i greu addurniadau deniadol cyn mynd a hwy adref i’w dangos.


Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


08.11.19 Cwis Hwyl CenedlaetholSash Huw Ffash

Aeth 18 tîm draw i Pant Du i gymryd rhan yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol. Roedd dau dîm o gangen Bethel - a daeth y ddau dîm yn gydradd drydydd! Llongyfarchiadau mawr i gangen Caernarfon ddaeth yn gyntaf yn Arfon - a thrwy Gymru!

Cliciwch yma i weld y lluniau


09.10.19 Manon Lloyd Williams - Sgam a Sbam!Sash Huw Ffash
Daeth Manon Lloyd Williams o'r Gwasanaeth Safonau Masnachol draw i'r gangen i rannu gwybodaeth bwysig ac amserol iawn. Cododd ymwybyddiaeth o sgamio a sgamwyr a phwysleisiodd mor bwysig oedd i ni rannu gwybodaeth am ymdrechion i'n sgamio ar y ffon, drwy'r cyfrifiadur neu ar stepen ein drws. Roedd neges Manon yn drylwyr ac yn hawdd i'w deall - fel hyn gall lai ohonom ddisgyn am y sgam.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


11.09.19 Meinir Gwilym
Sash Huw Ffash

Cawsom noson gwerth chweil yng nghwmni'r gantores adnabyddus Meinir Gwilym. Mae nifer o aelodau yn mwynhau'r rhaglen 'Garddio a Mwy' a gyflwynir ganddi, a gwibiodd yr amser heibio yn gwrando arni'n canu ac yn son sut y dechreuodd ei diddordeb mewn garddio. Diolch i'r pwyllgor am ddarparu lluniaeth blasus i ddilyn.


Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


11.09.19 Noson Agoriadol yn Festri Capel Cysegr!
Sash Huw Ffash

Cynhelir noson agoriadol tymor 2019/20 noson agoriadol am 7:30yh ar nos Fercher Medi 11eg. Trefn y noson fydd adloniant yng ngofal y gantores a'r gyflwynwraig dalentog Meinir Gwilym gyda lluniaeth ysgafn dros sgwrs i ddilyn. Mae croeso i aelodau hen a newydd.
Byddwn yn cychwyn y cofrestru am 7:15yh a'r tal aelodaeth eleni fydd £18 sy'n cynnwys pedwar rhifyn o gylchgrawn Y Wawr.

Am fwy o wybodaeth - swyddogion@mywbethel.org

06.08.19 Sash Huw Ffash!
Sash Huw Ffash

Wel mae yna ferched sy'n gwybod beth yw steil yn aelodau o MYW Bethel! Ddoe ar gae'r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst fe dderbyniodd Anwylyd sash gan yr enwog Huw Ffash! Llongyfarchiadau Anwylyd!




15.06.19 Cip ar y Gwisgoedd
Ela Jones

Dydd Sadwrn 15/06/19 cawsom drip pen tymor gwerth chweil! Roedd cyfle i gael cinio bach ym Metws y Coed cyn mynd ymlaen i Ysbyty Ifan i dreulio dwy awr ddifyr yng nghwmni Ela Jones, Meistres y Gwisgoedd. Gorffennwyd y diwrnod drwy gymdeithasu dros fwffe yng ngwesty'r Waterloo ym Metws y Coed.


Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


15.06.19 Ffarwel
Gwenan a Mair

Dymuna Gwenan Roberts y Llywydd am eleni ddiolch yn fawr i aelodau’r pwyllgor am eu cefnogaeth drwy’r flwyddyn i sicrhau rhaglen ddifyr. Diolch arbennig i Mair Price am ei gwaith trylwyr fel ysgrifennydd ac i Cecile Roberts am ei gwaith fel Trysorydd. Diolch i Jennifer Roberts am gynnal y wefan a’r gwefannau cymdeithasol Facebook a Twitter. Diolch hefyd i’r aelodau i gyd am gefnogi drwy gydol y flwyddyn. Bob lwc i Mair Read a phwyllgor flwyddyn nesaf!

Dyddiad lwcus y dyddiadur eleni oedd 14eg Gorffennaf a’r person a ddaeth agosaf at y dyddiad ydi Hywel Edwards Dinmael a ddewisodd Gorffennaf 21ain. Fe fydd yn derbyn pecyn o nwyddau Pant Du.


09.05.19 Noson Elusennol - Ffasiwn Steil!
Noson Elusennol - Ffasiwn Steil

Wel am noson hwyliog - noson elusennol 'Ffasiwn Steil!'. Y dasg oedd dod o hyd i'r wisg orau am £10 neu lai mewn siop elusen. Drwy weithio mewn parau cawsom bum gwisg gofiadwy gyda Falmai yn cipio'r clod am y fargen orau! Diolch i Meirwen Lloyd ac Anne Elis am feirniadu.



Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


03.05.19 Llwyddiant Mewn Cystadleuaeth Bowlio Deg
Llwyddiant Mewn Cystadleuaeth Bowlio Deg

Nos Wener, Ebrill 26ain daeth tîm bowlio deg Cangen MYW Bethel yn drydydd mewn cystadleuaeth yng Nglasfryn, ger Pwllheli. Llongyfarchiadau mawr i Mary Wyn Jones, Mary Evans, Mair Price, Falmai Owen, Anne Elis ac Eleri Warrington a phob lwc iddynt yn y rownd nesaf ym Mhrestatyn.



10.04.19 Trefnu Blodau gyda Cecile Roberts
Trefnu Blodau gyda Cecile Roberts

Roedd festri Y Cysegr yn arogli'n hyfryd heno pan aeth yr aelodau ati i drefnu blodau o dan arweiniad ein trysorydd Cecile Roberts. Roedd yn gyfle i ymlacio a chymdeithasu ac roedd pawb yn falch iawn o'u haddurn bwrdd ar y diwedd. Diolch yn fawr Cecile.



Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


13.03.19 Dathlu Gŵyl Ddewi - Pant Du
Dathlu Gŵyl Ddewi - Pant Du

Mae gwinllan a pherllan Pant Du yn fusnes llewyrchus sydd yn gwerthu gwin, seidr a sudd afal yn ogystal â ddwr ffynnon. Cawsom noson gwerth chweil yn gwledda ac yn gwrando ar sgwrs hynod ddiddorol y perchennog Richard Huws.



Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


13.02.19 Crwydro Nepal yng nghwmni Morfudd Thomas
Gwen Davies - Iechyd y llygad

Daeth Morfudd Thomas draw i'r gangen i ddangos lluniau ac i adrodd hanesion am ei hymweliadau i wlad Nepal. Roedd y lluniau a'r sgwrs yn hynod ddiddorol ac roedd pob un ohonom wedi mwynhau'r sgwrs yn fawr iawn.



Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


09.01.19 Gwen Davies - Iechyd y llygad – Cymru a’r trydydd byd
Gwen Davies - Iechyd y llygad

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau

 



12.12.18 Cinio Nadolig
Cinio NadoligDathlwyd y Nadolig yng Ngwesty'r Celt yng Nghaernarfon eleni. Cawsom bryd blasus, cwis hwyl a chyfle i sgwrsio ac ymlacio ynghanol prysurdeb y paratoadau. Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar Ionawr 9fed 2019!

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


14.11.18 Angharad Gwyn - Cwmni Adra
Alwyn Jones o Ambiwlans Awyr CymruDaeth Angharad Gwyn draw i'r gangen i sôn sut y dechreuodd ei chwmni Adra yn 2007. Gwerthu ar-lein oedd i gychwyn ond bellach mae ganddi siop ym Mharc Glynllifon. Roedd yn noson hynod o ddiddorol ac yn bleser cael golwg ar rai o'r nwyddau mae'n gwerthu. Cliciwch yma i fynd i'w gwefan i weld mwy

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson.
Cliciwch yma i weld y lluniau


09.11.18 Cwis Hwyl Cenedlaethol Merched Y Wawr
Cwis Hwyl Cenedlaethol Merched Y WawrAeth Gwenan Roberts, Mair Read, Meira Evans a Jen Roberts draw i'r Meifod yn Bontnewydd ar nos Wener Tachwedd 9fed i gymryd rhan yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol. Roedd y tim yn ail ar hanner amser, ac yn bedwerydd ar ddiwedd y noson. Mwynhawyd y noson yn fawr iawn.



10.10.18 Alwyn Jones o Ambiwlans Awyr Cymru
Alwyn Jones o Ambiwlans Awyr Cymru Alwyn Jones o elusen Ambiwlans Awyr Cymru oedd ein gwr gwadd mis yma. Difyr iawn oedd clywed sut y cychwynnodd yr elusen ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2001 ac erbyn hyn mae pedwar hofrennydd a pum cerbyd ymateb cyflym ar gael o 8yb tan 8yh bob dydd o'r wythnos. Mae'n wasanaeth prysur gyda'r hofrenyddion wedi eu galw allan 201 o weithiau ym mis Awst eleni yn unig!

Cliciwch yma
i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


12.09.18 Dylan a Neil
Dylan a NeilCawsom noson o adloniant gwerth chweil yng nghwmni Dylan a Neil o'r Felinheli. Mae'r ddau yn adnabyddus iawn drwy Gymru ac roedd y canu yn dda a'r jôcs yn ddoniol! Wedyn cafodd bawb gyfle i gymdeithasu dros baned - diolch o galon i'r pwyllgor am baratoi'r lluniaeth.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


06.09.18 Nodyn Atgoffa
Nodyn atgoffa noson agoriadol tymor 2018/19Cynhelir noson agoriadol tymor 2018/19 yn Festri Capel Cysegr am 7:30pm ar nos Fercher Medi 12fed. Trefn y noson fydd adloniant ysgafn yng ngofal y ddeuawd enwog Dylan a Neil o'r Felinheli gyda lluniaeth ysgafn dros sgwrs i ddilyn. Mae croeso i aelodau hen a newydd. Byddwn yn cychwyn y cofrestru am 7:15pm.

Am fwy o wybodaeth gellir cysylltu â Gwenan Roberts y llywydd (01248 671022) neu Mair Price (ysg.) 01286 672975

13.06.18 Ymweliad i Storiel
Liz, Glenys, GwenanCafwyd noson hwyliog a diddorol i orffen ein tymor pan aethom ar drip i Storiel ym Mangor. Roedd gwledd o bethau i'w gweld yno a llawer i stori fach ddifyr yn gefndir i'r arteffactau. Ymlaen a ni wedyn i westy'r Victoria ym Mhorthaethwy ble cafwyd cyfle i gymdeithasu, i ddiolch i'r swyddogion a'r pwyllgor, ac i groesawu ein Llywydd newydd Gwenan Roberts.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


11.05.18 Taith Diwedd Tymor
Bydd bws ein taith diwedd tymor yn cychwyn o’r gwaelod am 6.00yh, Nos Fercher y 13 o Fehefin - arian a dewis bwyd i Rhian os ydych heb wneud os gwelwch yn dda.


09.05.18 Carol Llywelyn - Ffatri Jam
Carol Llywelyn a Liz WatkinMae'n siwr fod llawer ohonoch wedi gweld cynnyrch 'Welsh Lady' mewn siopau, sioeau a ffeiriau bwyd. Heno cawsom hanes sut y gwnaeth y busnes teuluol yma o'r Ffôr gychwyn a thyfu i fod yn fusnes llwyddiannus sy'n allforio ar draws y byd. Roedd Carol yn brysur iawn ar ddiwedd y noson yn gwerthu amrywiaeth o'u cynnyrch.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


11.04.18 Hugh Hughes -Ysbrydion!
Hugh Hughes a Rhian a LizRoedd y gynulleidfa yn gwrando'n astud iawn pan ddaeth Hugh Hughes atom i adrodd storiau am ddigwyddiadau heb esboniad ac am ysbrydion a welwyd yn yr ardal dros y blynyddoedd. Noson ddifyr iawn.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


14.03.18 Dathlu Gŵyl Ddewi - Gwesty Y Castell, Caernarfon
Dathlu Gŵyl Ddewi - Gwesty Y Castell, CaernarfonCawsom noson hwyliog iawn yn dathlu Gŵyl Ddewi yng ngwesty Y Castell ar sgwâr Caernarfon. Daeth Richard Owen y consuriwr i'n difyrru ac roedd pawb yn rhyfeddu at ei ddawn.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


14.02.18 Dr Siôn Jones - Y Degwm
Dr Siôn Jones - Y DegwmDaeth Dr Siôn Jones draw i'r gangen i sôn am ryfela Y Degwm, a diddorol iawn oedd clywed am rôl rai o ferched y cyfnod yn y gwrthryfeloedd.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


10.01.18 Brethyn Cartref
Brethyn CartrefCawsom noson gartrefol iawn yng nghwmni tair o'r gangen, sef (o'r chwith i'r dde) Mair Price, Gwenan Roberts a Cecile Roberts. Buont yn rhannu atgofion a phrofiadau o Bordeaux, Calcutta a Sir Feirionydd!

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


13.12.17 Cinio Nadolig
Cinio NadoligDathlwyd y Nadolig yn y Clwb Golff yng Nghaernarfon eleni. Cawsom bryd blasus, cwmni difyr ac adloniant hwyliog wedi ei drefn gan y pwyllgor. Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar Ionawr 10fed 2018!

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau


07.12.17 Bws i'r Cinio Nadolig

Bws ir Cinio Nadolig Bydd y bws i'r cinio Nadolig yn gadael Capel Cysegr am 6.45 yr hwyr Nos Fercher, yn codi yng nghanol y pentref ac yn yr arosfa bws yn y gwaelod.

 

 

 


22.11.17 Bore Coffi Yn Codi £590.00

Bore coffiDiolch i bawb am helpu i wneud y bore coffi (a gynhaliwyd ar Dachwedd 17) yn llwyddiant. Codwyd £590.00 tuag at Gronfa Calonnau Bethel sy'n codi arian i gael dau diffibriliwr i'r pentref. Dywedodd Liz Watkin, Llywydd y gangen, "Dwi'n falch iawn fod MYW wedi gallu gwneud cyfraniad mor dda at gronfa fydd yn prynu rhywbeth o fudd i'r holl pentref".

Cliciwch yma i weld y lluniau


10.11.17 Cwis Hwyl Cenedlaethol

Cwis Hwyl CenedlaetholAeth deuddeg ohonom i gymryd rhan yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol yn y Meifod, Bontnewydd ar nos Wener Tachwedd 10fed. Roedd tri tim ohonom i gyd, a phawb wedi gwneud yn dda ond heb ddod i'r brig y tro yma.

Cliciwch yma i weld y lluniau

 


08.11.17 Madarch Gwyllt a llên gwlad - Dr Endaf ap Ieuan

liz, eva a Dr Endaf ap IeuanDaeth Dr Endaf ap Ieuan atom i ddangos a thrafod madarch Gwyllt. Cawsom noson addysgol a ddiddorol iawn.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau



03.11.17 Nodyn Atgoffa - Cinio Nadolig
Cofiwch ddod ac arian a dewisiadau Swper Nadolig (Clwb Golff Caernarfon) gyda chi i gyfarfod Tachwedd 8fed pan fydd Dr. Endaf ap Ieuan yn rhoi sgwrs ar Fadarch gwyllt a llen gwlad.


01.11.17 Bore Coffi - elw at Gronfa Calonnau Bethel

posterYn Neuadd Bethel

Bore dydd Gwener 17eg o Dachwedd am 10 o’r gloch

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 



11.10.17 Yr Ysgwrn - Sian Griffiths

sian a lizCawsom noson ddifyr yng nghwmni Naomi Jones yn sôn am yr holl newidiadau sydd wedi digwydd yn Yr Ysgwrn.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau

 



13.09.17 Noson Agoriadol yng nghwmni Ann Hopcyn a Bill Evans

merchedCawsom noson agoriadol gwerth chweil yng ngwmni talentog y gwr a gwraig Ann Hopcyn a Bill Evans. Roedd cyfle i ganu ac i ddyfalu cyn cymdeithasu dros baned a lluniaeth blasus.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


08.09.17 Nodyn Atgoffa - Noson Agoriadol

Cynhelir noson agoriadol tymor 2017/18 yn Festri Capel Cysegr am 7.30 y.h. ar nos Fercher Medi 13. Cawn adloniant gan Ann Hopcyn a'i gŵr Bil Evans. Bydd cyfle am sgwrs a lluniaeth ysgafn i ddilyn. Croeso cynnes i aelodau newydd a chyn aelodau.

Am fwy o wybodeth cysylltwch â'r llywydd Lis Watkin ar 01248 671243 neu'r ysgrifennydd Eirlys Williams ar 01248 670088

 

30.08.17 Cinio Dathlu'r Aur - Gorffennaf 8fed

merchedCriw MYW Bethel yng nghinio Dathlu'r Aur, Rhanbarth Arfon yng Ngwesty'r Celt Caernarfon

Cliciwch yma i weld y lluniau

 

 


03.07.17 Adroddiad Mis Mehefin

merchedDaeth gweithgareddau’r flwyddyn eleni i ben gyda Dathlu’r Aur ein cangen.

Cafwyd trip i ben yr Wyddfa ar Fehefin 17eg gyda 35 ohonom yn cychwyn ar y trên 2 o’r gloch. Clywyd seiniau o ‘awn ar y trên bach’ yn atsain o’r trên wrth iddi wneud ei ffordd draw at y Ceunant Mawr a’r teithwyr eraill ddim yn siwr iawn beth oedd yn mynd ymlaen! Hwyl a sbri go iawn a phawb yn brysur hefo’i camerau yn gwneud yn fawr o’r goygfeydd godidog. Ni faswn wedi cael gwell diwrnod i fynd os byddai wedi bod yn bosib ei ordro.

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad i gyd

Cliciwch yma i weld lluniau Dathlu'r Aur, Cinio'r Llywydd Rhanbarth y Gogledd

Cliciwch yma i weld lluniau Dathlu'r Aur, Taith I Ben Yr Wyddfa

Cliciwch yma i weld lluniau Arddangosfa yn y Parc


17.06.17 Dathlu'r Aur - Taith I Ben Yr Wyddfa

merchedCawson dywydd bendigedig i fynd ar daith i fyny'r Wyddfa ac roedd pawb wedi gwirioni gyda'r golygfeydd o'n gwmpas. I ddilyn cawsom de prynhawn gwerth chweil yng ngwesty'r Fictoria, Llanberis.

Diolchwn i Gronfa'r Loteri am grant tuag at y diwrnod.

Cliciwch yma i weld y lluniau


14.06.17 Trip Dathlu'r Aur

Bydd trip Dathlu'r Aur, i fyny'r Wyddfa dydd Sadwrn nesaf sef yr 17eg o Fehefin.

Disgwylir i bawb gyfarfod wrth y tren erbyn 1.45 y pnawn, a rhoddwyd caniatad i barcio ym maes parcio'r Fictoria gan byddwn yn mynd yno i gael te wedi'r daith.

Mae croeso i bawb ddod a'i bagiau MYW gyda hwy ac i wisgo rhywbeth aur os dymunir.

Os oes unrhyw un angen lifft i Lanberis cysylltwch a Gwyneth, Anne neu Mary Wyn.

Edrychwn ymlaen at daith a diwrnod bythgofiadwy.


10.05.17 Cymdeithasu

merchedYn anffodus methodd ein gwraig wadd Carol Llewelyn ddod atom oherwydd gwaeledd ond cawsom noson hwyliog yn cymdeithasu.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau



05.04.17 Cadw’n Iach a Heini - Debbie Jones

aelodau yn cadw yn heiniDaeth Debbie Jones atom i sôn am bwysigrwydd cadw'n heini a chawsom sesiwn hwyliog yn gwneud ymarferion cardiofasgwlaidd ac ymarferion ar gyfer gwella cryfder a balans. Roedd pawb wedi mwynhau cymryd rhan yn fawr iawn.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


03.04.17 Cyfarfod Nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf yn festri Capel Cysegr am 7.30 nos Fercher y 5ed o Ebrill

Bydd noson Cadw’n Iach a Heini, dan law Debbie Jones ac awgrymir i bawb ddod ag esgidiau fflat gyda hwy.
Estynnir croeso cynnes i aelodau hen a newydd.


17.03.17 Dathlu 50 - Prosiect Treftadaeth Merched y Wawr

dathlu 50 Mary a Gwyneth yn cyflwyno eitemau Bethel dros y 50 mlynedd i
Alaw Roberts, y Swyddog Prosiect

 

 

 



08.03.17 Dathlu Gŵyl Dewi

magi tudurAr ôl pryd blasus yng nghlwb criced Bangor cawsom ein difyrru gan Magi Tudur wrth i ni ddathlu Gŵyl Dewi eleni. Roedd pawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


08.03.17 Arian Loteri

siec loteriDyma Mary Wyn Jones (Ysgrifennydd), Gwyneth Jones (Llywydd) ac Anne Elis (Trysorydd) gyda'r siec a dderbyniwyd gan Y Loteri ar gyfer dathliadau 50 mlynedd Merched Y Wawr.

 



08.02.17 Iechyd Merched gyda Sian Hughes

gwyneth jones a sian hughesBraf oedd croesawu Sian Hughes yn ôl i'r gangen i sôn am Iechyd Merched a phwysigrwydd edrych ar ôl ein hunain fel ein bod yn cadw'n gryf yn gorfforol ac yn feddyliol. Hefyd cafodd bawb fag i ddathlu fod Merched Y Wawr yn dathlu hanner can mlynedd eleni.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


06.02.17 Cyfarfod Nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf yn festri Capel Cysegr am 7.30 nos Fercher yr 8ed o Chwefror.

Bydd y noson dan law Sian Hughes ac estynnir croeso cynnes i aelodau hen a newydd.


23.01.17 Bowlio Deg Ranbarth Arfon 2016 - 2017

falmaiNewyddion da!

Mi wnaeth tim Bethel ennill y Bowlio Deg Rhanbarth Arfon nos Wener 20fed Ionawr. Nid yn unig hynny ond Falmai oedd wedi cael y sgor uchaf o 112. Bydd y rownd nesaf sef Rhanbarthau Gogledd Cymru ym mis Mehefin.

Ymlaen a ni!

Cliciwch yma i weld Tysysgrif y gangen

Cliciwch yma i weld Tysysgrif Falmai

Cliciwch yma i weld y lluniau


11.01.17 Ymwybyddiaeth Ofalgar dan ofal Gwennan Roberts

pobl yn myfyrioAr ôl cyflwyniad hynod ddiddorol gan Gwennan Roberts, bu cyfle i bawb i ymlacio yn braf ac ymarfer sgiliau Ymwybyddiaeth Ofalgar.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau

 


14.12.16 Dathlu'r Nadolig yng ngwesty y Fictoria, Llanberis

4 person wrth y bwrddAethom draw i westy'r Fictoria yn Llanberis i ddathlu'r Nadolig ble cawsom fwyd da, cwmni difyr a hwyl yn ystod y cwis 'Siân a Siân'.
Nora a Glenys oedd yn adnabod ei gilydd orau a llongyfarchiadau iddynt am ennill beiro Dathlu'r Aur Merched Y Wawr.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


05.12.16 Cinio Nadolig Merched y Wawr

Bydd y bws ar gyfer y cinio Nadolig yn gadael Tan y Buarth am 6.45 yr hwyr ar nos Fercher y 14eg o Ragfyr ac yn codi yn y mannau arferol yn y pentref.

Os oes unrhyw broblem cysylltwch a Mary W Jones


09.11.16 Danteithion O'r Ddôl

Eirlys, Nan a MaryDiolch yn fawr i Eirlys Williams, Nan Rowlands a Mary Jones am ein hysbrydoli gyda detholiad o ddanteithion ar gyfer y Nadolig. Mae'n siŵr o fod yn Nadolig blasus ym Methel eleni!

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau

Ryseitiau:
Relish Llugaeron ac Oren / Tryffls - cliciwch yma
“Rillette” Twrci/Iâr / Paté Caws / Briwgig (Mincemeat) / Teisennau Nadolig Bach - cliciwch yma


12.10.16 Noson gyda'r Newyddiadurwr Tweli Griffiths

Tweli Griffiths a Gwyneth JonesCawsom noson ddiddorol dros ben yng nghwmni Tweli Griffiths ac i ddilyn cawsom luniaeth ysgafn baratowtd gan y Pwyllgor.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau

 


14.09.16 Noson yng nghwmni 'Y Ddwy Sian'

dwy ddynesCawsom lond trol o hwyl yng nghwmni 'Y Ddwy Sian' ! Dyma ddechrau gwych i dymor newydd.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau

 


07.09.16 Nodyn Atgoffa - Noson Agoriadol
Cynhelir noson agoriadol tymor 2016 yn Festri Capel Cysegr am 7:30pm ar nos Fercher Medi 14eg. Trefn y noson fydd adloniant ysgafn yng ngofal 'Y Ddwy Sian' a lluniaeth ysgafn dros sgwrs i ddilyn. Mae croeso i aelodau hen a newydd. Byddwn yn cychwyn y cofrestru am 7:15pm.

Am fwy o wybodaeth gellir cysylltu â Gwyneth Jones y Llywydd (01248 670312) neu Mary W. Jones (ysg.) ar 01248 670115.

Edrychwn ymlaen i'ch croesawu gan obeithio am dymor llewyrchus arall i'r gangen.

 

22.06.16 Ymchwil y Galon Cymru
Annwyl aelodau,
Trosglwyddwyd £200 gan y gangen i gronfa ymchwil y galon Cymru. Yr arian yma yn rhan o'r elw wnaethpwyd ar ein noson blasu gwin.
Pob hwyl i bawb dros yr haf.


08.06.16 Taith Ddirgel

yr aelodauI orffen ein tymor cafwyd taith ddirgel i Borth Amlwch ac i'r amgueddfa gopr. Cafom ein tywys o amgylch a'n diddori gydag hanesion difyr am Amlwch pan 'roedd y mwyngloddio am gopr yn ei fri gan Elfed Rowlands.

Yna swper blasus yng nhlwb golff Porth Llechog. Enillwyd y raffl gan Rhian ac Anwylyd.
Diolchodd Mair fel llywydd i bawb a wnaeth y Flwyddyn hon yn un lwyddianus ac apeliodd am i bawb wneud eu gorau i bysgota am aelodau newydd.
Cyflwynwyd tusw o flodau i Anwylyd ac i Anita a danfonwyd tusw o flodau a chofion arbennig at Jen. Mynegwyd gwethfawrogiad o waith Cwmni Delwedd am ein gwefan raenus ac am ei chadw i ddyddiad.

Diolchwyd i Mair fel llywydd gan lywydd y flwyddyn nesaf, sef Gwyneth Jones.
Bydd y tymor nesaf yn dechrau Medi 14 eg.

Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson

 


11.05.16 Beth yw Archaeoleg? - Rhys Mwyn

Rhys Mwyn a Mair ReadCroesawyd y gŵr gwadd Rhys Mwyn, a ddaeth i'r amlwg fel aelod o'r grwp pync 'Anrhefn', yn hyrwyddwr grwpiau Cymraeg, yn ddarlledwr ond heno i drafod archaeoleg.Fe'n diddanwyd a'n haddysgwyd am 'Beth yw Archaeoleg?'

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma am fwydlen a ffurflen dewisiadau ar gyfer ein Taith Ddirgel ar 08.06.16

Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson


13.04.16 Planhigion mewn potiau - Awen Haf Jones

awen haf jonesCawson noson ddifyr ac addysgiadol iawn yng nghwmni Awen Haf Jones fu'n sôn am ba botiau a pha gompost i ddewis ar gyfer gwahanol blanhigion.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson

 


10.03.16 Dathlu Gŵyl Ddewi yn Nhafarn y Bont, Porthaethwy

cenin pedrDaeth criw da ynghyd i ddathlu Gwyl Ddewi yn Nhafarn y Bont, Porthaethwy ar nos Fercher, Mawrth 9fed. Wedi pryd blasus cafwyd orig ddidan iawn yng nghwmni Mair Tomos Ifans. Roedd pawb yn mwynhau gymaint yn gwrando arni’n canu, darllen ambell i gerdd ac yn ein diddanu gyda’i hanesion hwyliog, nes ein bod yn amharod iawn i adael pan gyrhaeddodd y bws i fynd a ni am adref. Noddwyd yr adloniant gan gynllun ‘noson fach allan’.
Enillwyr lwcus y raffl oedd Delyth, Eirlys a Bet.

Cliciwch yma i wybod mwy am Mair Tomos Ifans

Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson


07.03.16 Nodyn Atgoffa - Trefniadau Bws Cinio Gŵyl Ddewi

cenin pedrBydd Bws Derfel yn mynd a ni i Dafarn y Bont nos Fercher 09.03.16.
Cychwyn o waelod Bethel (Tan y Buarth) am 6.40pm, gweithio'n ffordd i fyny i fod wrth Cysegr tua 6.50pm. Dewisiadau bwyd pawb gan Anwylyd yn saff!


Edrych ymlaen at noson ddifyr yng nghwmni Mair Tomos Ifans.

 

 




26.02.16 Cinio Gŵyl Ddewi

cenin pedrUnrhyw un sydd heb roi ei dewis ar gyfer y Cinio Gŵyl Ddewi i mewn i ddod ar ffurflen dewis a'r arian i Anita, Mair neu Anwylyd cyn nos Sul nesa (Chwefror 28) os gwelwch yn dda.

 




10.02.16 'Blasu Gwin' o dan arweiniad y Parchedig Marcus Robinson

Y Parchedig Marcus RobinsonCafwyd noson hwyliog iawn yn blasu gwin yng nghwmni ffrindiau yn neuadd Bethel.Y Parchedig Marcus Wyn Robinson oedd y 'sommelier', wnaeth ein cyflwyno i wahanol winoedd, tair wyn a thair goch, o'r Eidal, Ffrainc, Yr Arianin a Chile.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson


13.01.16 Ategolion Nel

Ellen Lloyd JonesCawsom noson arbennig o ddifyr yng nghwmni Ellen Lloyd Jones o 'Ategolion Nel'. Roedd pawb yn rhyfeddu at ei dawn - ac yn siwr o gofio amdani pan fydd angen rhywbeth unigryw ar gyfer achlysur arbennig! (els.lloyd@hotmail.com).

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson


05.01.16 Blwyddyn Newydd Dda i holl aelodau'r gangen!

Dai ChefFalch o glywed fod Gwyneth, ein is-lywydd am eleni yn dod at ei hun ar ol llaw-driniaeth - 'brysia wella, Gwyneth. Edrych ymlaen i'ch gweld nos Fercher, 13 Ionawr, pan fydd Elen Lloyd Jones yn dod atom i son am ei chwmni 'Ategolion Nel' ac arddangos dipyn o'r cynnyrch.




09.12.15 Dathlu'r Nadolig ym mwyty Bryn Teg

Dai ChefGwnaeth y gangen ddathlu 'r Nadolig eleni ym mwyty Bryn Teg, Llanrug. Darparwyd bwyd blasus a weinwyd yn hwyliog mewn awyrgylch Nadoligaidd mawr fu'r mwynhad....

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson


07.12.15 Cinio Nadolig

Gair bach i atgoffa pawb fod y bws yn cychwyn o Tan y Buarth am 7 nos Fercher 09/12/15. Bydd yn codi aelodau yn Tan y Buarth, y Ddôl, safle bws gwaelod Bethel, tu allan i'r Bedol a thu allan i'r Cysegr.


18.11.15 Cystadleuaeth Cynllunio Cerdyn Nadolig 2016

poster

Cynlluniwch gerdyn mewn unrhyw gyfrwng ar gyfer Nadolig 2016.

Dyddiad cau: 04.12.15

Mwy o wybodaeth - cliciwch yma

 

 

 


17.11.15 Catalog Ategolion at y Galon

catalog

Nwyddau gan enwogion a ffrindiau tuag at ymgyrch Ategolion at y Galon

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth a manylion sut i roi bid

Dyddiad cau: 21.05.16

 

 

 


11.11.15 Malan Wilkinson - Profiadau Iechyd Meddwl

mair a malanCawsom noson gofiadwy a diddorol yn y gangen pan ddaeth Malan Wilkinson atom i sôn am ei phrofiadau Iechyd Meddwl. Bu'n darllen dyfyniadau o'i chyfraniad i'r gyfrol 'Gyrru Drwy'r Storom' cyn cynnal sesiwn cwestiwn ac ateb.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson


02.11.15 Newid i'r Rhaglen

Yn anffodus ni fydd Gwen James yn medru bod gyda ni yn ein cyfarfod nesaf. Mae Malan Wilkinson wedi addo dod ar fyr rybudd ac mae'n fraint i ni ei chroeswu. Cofiwch ddod a'ch dewis o fwyd at ein cinio 'Dolig ynghyd a'r tal o £20.


15.10.15 Cinio Nadolig Merched y Wawr Bethel yn Brynteg

canhwyllau
Rhagfyr 9fed am 7.30 - Pris £20

Cliciwch yma am fwydlen a ffurflen

 

 


14.10.15 Eidalwr yn Eryri - Ffotograffiaeth Pierino Algieri

pierino-algieri-mair-readCawsom noson hynod o ddifyr yn nghwmni Pierino Algieri yn edrych ar sleidiau o luniau Dyffryn Conwy, Gerddi Bodnant, yr arfordir a hefyd lluniau Eryri. Roedd cyfle wedyn i brynu cardiau a chalendr o'i luniau bendigedig. Efallai eich bod yn gwybod am rhywun hoffai gael ei lyfr " Eidalwr yn Eryri" yn anrheg nadolig?

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson


09.09.15 Owain Llestyn Thomas

glenys, owain, mairCroesawyd pawb i'r cyfarfod cyntaf o'r tymor gan y cadeirydd newydd, Mair Read. Braf oedd gweld aelodau hen a newydd wedi troi allan unwaith eto, y nod yw hwyl a difyrwch yng nghwmni'n gilydd.

Pleser oedd cael croesawi ennillydd mewn 2 eisteddfod genedlaethol eleni, ennill ar yr unawd corn dan 16 oed, yn y 2 Eisteddfod Genedlaethol gan ennill y rhuban glas yn Meifod, sef Owain Llestyn Thomas.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson


07.09.15 Nodyn Atgoffa

Bydd ein cyfarfod cyntaf nos Fercher nesaf, Medi'r 9fed am 7.30 yn festri Cysegr. Cawn ein diddannu gan Owain Llestyn Thomas, ennillyd y Rhuban Glas am ganu'r corn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Meifod ac yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Bydd lluniaeth ysgafn a phaned yn dilyn. Trefnwyd rhaglen ddifyr ar ein cyfer a byddwn yn cyfarfod ar yr ail nos Fercher ym mhob mis. Croeso i aelodau hen a newydd.


15.08.14 Gŵyl Bethel 2015

4 mewn gwisg ffansiLlongyfarchiadau i bawb o'r pentref fu'n gweithio mor galed i wneud Gŵyl Bethel mor llwyddiannus eto eleni.

Diolch i'r aelodau aeth draw i gefnogi yr achlysur.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau o'r diwrnod neu cliciwch yma i fynd i wefan Gŵyl Bethel .

10.06.15 Ymweliad Diwedd Tymor - Yr Ysgwrn

Gerald a Jen ac EirlysAr noson braf o haf aeth y gangen am drip draw i Drawsfynydd ac i gyfarfod yr adnabyddus Gerald yn Yr Ysgwrn. Cawsom groeso cynnes iawn a noson i'w chofio. Ymlaen wedyn i dafarn Yr Afr yn Glandwyfach am bryd blasus. Diolch i'r swyddogion a'r pwyllgor am drefnu popeth mor dda - nid yn unig neithiwr ond drwy'r flwyddyn.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson


09.06.15 Nodyn Atgoffa

Bydd y Bws yn cychwyn o'r Cysegr am 5:15yh ar nos Fercher 10.06.15 ar gyfer ymweliad â' Yr Ysgwrn, Trawsfynydd.


13.05.15 Sarah Davies o Sefydliad y Galon
sarah davies ac elizabeth
Daeth Sarah Davies atom i sôn am waith Sefydliad y Galon a pha mor bwysig yw y codi arian parhaus. Roedd yn noson hynod o ddiddorol gan fod Sarah gyda stôr o hanesion personol.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth


27.04.15 Nodyn Atgoffa
Bydd ein cyfarfod nesaf 13 o Fai pan ddisgwylir aelod o Sefydliad y Galon i’n hannerch (yr oedd yn gais gan ein Llywydd Cenedlaethol i gefnogi’r sefydliad pwysig yma).

Cofiwch ddod a'ch ffurflen a'r arian ar gyfer y trip diwedd tymor gyda chi i'r cyfarfod ( £21 sy'n cynnwys bws, ymweliad â'r Ysgwrn, pryd bwyd yn Nhafarn yr Afr, Glandwyfach. Bws yn cychwyn o'r Cysegr am 5:15y.h.)


08.04.15 Perlysiau Llesol
mair a rhiannonBu newid i'r rhaglen mis yma ac mae Sefydliad y Galon yn dod i'r gangen ar Fai 13 yn awr.

Cawsom noson hynod o ddifyr yn nghwmni Mrs Rhiannon Parry fu'n sôn am William Salesbury a pherlysiau llesol cyn dangos enghraifftiau o'i gwaith llaw campus.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson

 


12.03.15 Dathlu Pen Blwydd Cangen Merched y Wawr Bethel yn 40
mair a meryl
Cawsom noson i'w chofio neithiwr wrth ddathlu pen blwydd y gangen yn ddeugain oed. Braf oedd croesawu ein Llywydd Cenedlaethol, Meryl Davies, atom. Cawsom fwyd gwerth chweil gan Pryd i Bawb ac adloniant heb ei ail gan Gwenan Gibbard. Derbyniom englynion gan Richard Lloyd Jones ac englyn gan Jon Meirion, a bu cyfle i hel atgofion ac edrych ar hen luniau a dogfennau.

Diolch o galon i'r swyddogion a'r pwyllgor gweithgar am drefniadau mor drylwyr.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i ddarllen neges gan Nia Parry Jones

Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson

Cliciwch yma i weld yr Archif Lluniau


09.03.15 Nodyn Atgoffa - dathlu pen blwydd y gangen yn y Neuadd Goffa 7yh

poblCofiwch mae yn y Neuadd Goffa y byddwn yn cyfarfod ar Fawrth 11 i ddathlu pen blwydd y gangen yn ddeugain oed. Pawb yna erbyn 7yh os gwelwch yn dda.

Darperir y bwyd gan Pryd i Bawb ac mae croeso i chi ddod a photel o win a gwydrau gyda chi i fynd gyda'r pryd. Bydd yr adloniant yn nwylo Gwenan Gibbard, ac fe noddir y noson gan Noson Allan (Cyngor Celfyddydau Cymru).

Bydd amryw o luniau o'r gorffennol i'w gweld hefyd - cliciwch ar y llun i gael blas!


18.02.15 Nodyn Atgoffa - dathlu 40!

rhif 40Gan ein bod yn dathlu Gŵyl Ddewi a phen blwydd y gangen yn ddeugain oed y mis nesaf, cofiwch anfon eich dewis o luniaeth ynghyd a'r arian i Rita neu Mair Williams, cyn y laf Fawrth. Gwenan Gibbard fydd ein gwestai, ac fe noddir y noson gan Noson Allan (Cyngor Celfyddydau Cymru).

CROESO CYNNES I GYN AELODAU YMUNO A NI - DIM OND CYSTYLLTU AM FANYLION GAN RITA CYN Y 1AF O FAWRTH.


11.02.15 John Grisdale- Tîm Achub Mynydd Llanberis

john a mairCawsom noson hynod o ddifyr yng nghwmni John Grisdale ddaeth i'r gangen i sôn am hanes a gwaith Tîm Achub Mynydd Llanberis. Roedd ganddo luniau bendigedig o harddwch Eryri ac roeddem wedi rhyfeddu fod cymaint â 700,000 o bobl yn ymweld bob blwyddyn. Gyda chymaint o bobl nid oes rhyfedd fod damweiniau yn digwydd ac mae gwaith Tîm Achub Mynydd Llanberis i'w ganmol yn fawr.

 

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau.

Cliciwch yma i fynd i wefan Tîm Achub Mynydd Llanberis


09.02.15 Nodyn Atgoffa

Nos Fercher, Chwefror 11 yn Festri'r Cysegr am 7:30 disgwylir John Grisdale, Caernarfon i roi sgwrs am Dim Achub Mynydd Llanberis.

Gan fod y gangen yn dathlu penblwydd yn 40 oed eleni, mae croeso i gyn-aelodau ddod i ddathlu ar nos Fercher Mawrth 11 yn y Neuadd Goffa am 7yh. Cysylltwch â Rita am fwy o fanylion.


14.01.15 Ymweliad i Salon Elaine's yn Llanrug

pobl

Yn wahanol i'r arfer cynhaliwyd ein cyfarfod fis Ionawr yn Salon Elaine yn Llanrug. Croesawodd y llywydd, Mair Price nifer dda iawn o'n haelodau a drodd allan ar noson aeafol.

Derbyniwyd croeso gwresog i ni gan Gemma, Elaine a staff y salon, a chafwyd ychydig o hanes o sut cychwynodd y busnes bedwar deg pump o flynyddoedd yn ol gan Gemma. Cawsom wedyn grwydro o ystafell i ystafell yn y salon moethus a chyfarfod a thrin problemau gyda'r arbenigwyr ym maes harddwch a thrin gwallt.

Cliciwch yma i weld y lluniau.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson


12.01.15 Blwyddyn Newydd Dda a Nodyn Atgoffa

Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. Cynhelir cyfarfod mis Ionawr ar nos Fercher, 14eg am 7:30 yn Salon Elaine's, Llanrug yng nghwmni Gemma. Os oes gan unrhyw aelod anhawster gyda chludiant cofiwch gysylltu gyda Rita.

Bydd y Pwyllgor nesaf yn Festri'r Cysegr nos Fercher 21ain am 7 o'r gloch.


10:12:14 Cinio Nadolig

poblYn y Felin, Pontrug y bu i'r gangen gyfarfod i ddathlu'r Nadolig. Croesawyd pawb gan Mair Price, y llywydd ac wedi'r gwledda yr oedd Mair wedi trefnu dau gwis i ni. Mawr fu'r dyfalu. Cliciwch yma i weld y lluniau.

Y swyddogion oedd wedi rhoi y rafflau, a'r enillwyr oedd Bet, Eryl a Falmai. Yr oedd neges y Llywydd Cenedlaethol Meryl Davies ar gael i'w ddarllen.

Bydd Cwrs Crefft y Gogledd yn cael ei gynnal ar 24ain o Ionawr, 2015, os am fwy o fanylion, cysylltwch gyda Rita. Byddwn yn cyfarfod nesaf yn Salon Elaine's yn Llanrug, yng nghwmni Gemma. Os oes problem teithio i Lanrug, cysylltwch gyda Rita.

Cynhelir y pwyllgor nesaf ar y 21ain o Ionawr, 2015 yn Festri'r Cysegr.

Bydd y noson Bowlio Deg yn cael ei gynnal yn y Glasfryn nos Wener Chwefror 13 eg.


09:12:14 Nodyn Atgoffa - Cinio Nadolig

Edrychwn ymlaen at ein cinio Nadolig yng Nghaffi'r Felin, Pontrug ar nos Fercher, Rhagfyr 10fed a bydd y bws yn gadael y Cysegr am 7 o'r gloch.


12:11:14 Angela Evans - Gemwaith Arian

angela evans

Cawson gyflwyniad difyr iawn gan Angela Evans ac roedd pawb yn cytuno fod ei gemwaith arian yn hyfryd dros ben. Mae mwy o wybodaeth am Angela ar wefan IARD

Cliciwch yma i weld y lluniau.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson


11:11:14 Nodyn Atgoffa - Arian Cinio Nadolig

Bydd Mair Williams yn casglu ffurflen dewisiadau ac arian Cinio Nadolig yn y cyfarfod nos yfory. Edrychwn ymlaen i weld gemwaith arian gan Angela Evans.


16:10:14 Lansio gwefan "Eco'r Wyddfa" - Papur Bro Eryri

gwefan eco'r wyddfaLansiwyd gwefan newydd "Eco'r Wyddfa" yn neuadd Goffa Bethel heno. Mae'r wefan yn cynnwys yr holl ôl-rifynnau, a'r bwriad yw y bydd yr oll o'r luniau a gyhoeddwyd yn yr 'Eco' ar gael yn fuan. Ewch i gael golwg ar adroddiadau Merched y Wawr Bethel o'r gorffennol!

Bwriedir ychwanegu archif o hen luniau eraill o'r fro, gan gynnwys ffilmiau fideo o'r gorffennol.

Cliciwch yma i fynd i wefan Eco'r Wyddfa neu cliciwch yma i fynd i weld yr holl ôl-rifynnau.


08:10:14 GISDA

gweithwyr gisda
Daeth Annes a Mel draw o GISDA i sôn am waith da'r mudiad. Cawsom noson ddifyr ac addysgiadol yn eu cwmni.

Cliciwch yma i weld y lluniau.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson


10:09:14 Cyfarfod cyntaf o'r tymor newydd

sian, dafydd, mathCawson noson o adloniant gwerth chweil yng nghwmni Sian Wheway, ei gwr Dafydd, a'i mab Math.

Wedyn cafodd bawb gyfle i gymdeithasu dros baned - diolch o galon i'r pwyllgor am baratoi y lluniaeth.

Cliciwch yma i weld y lluniau.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson


04:09:14 Croeso i aelodau hen a newydd!

Cynhelir cyfarfod cyntaf y tymor yn festri Capel Cysegr nos Fercher Medi 10fed am 7.15 dan lywyddiaeth Mair Price.

Edrychwn ymlaen am noson o adloniant yng ngofal Sian Wheway, Ceunant, a bydd lluniaeth ysgafn i ddilyn.

Mae'r gangen yn dathlu ei phen-blwydd yn 40ain oed eleni - croeso cynnes i gyn aelodau ail ymuno, gobeithiwn weld wynebau newydd a'r ffyddloniaid, wrth gwrs. Mae rhaglen ysgafn a diddorol wedi'i threfnu ar eich cyfer.


19.08.14 Gŵyl Bethel 2014
aelodauDiolch i bawb fu'n cynorthwyo ar stondin Merched y Wawr yng Ngŵyl Bethel Dydd Sadwrn. Gwnaethpwyd dros £90 o elw.

Cliciwch yma i fynd i wefan Gŵyl Bethel i weld mwy o luniau o'r diwrnod - sawl un ydych chi yn adnabod tybed?




28.07.14 Cais am lyfrau i'w gwerthu yng Ngŵyl Bethel
Bydd gan y gangen stondin yn gwerthu llyfrau ail-law yng Ngŵyl Bethel ar Awst 16. Os oes gennych lyfrau i'w cyfrannu yna bydd Mair Read yn falch o'u derbyn - diolch yn fawr!


12.06.14 Ymweliad i Ganolfan Thomas Telford
aelodauRoedd pawb wedi mwynhau yr ymweliad i Ganolfan Thomas Telford ym Mhorthaethwy neithiwr. Ar ôl sgwrs ddifyr gan Bob Diamond cawsom en tywys ar draws y bont enwog ar noson braf o haf cyn mynd ymlaen am bryd blasus i Carreg Bran. Diweddglo ardderchog i orffen y tymor!

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson


Cliciwch yma
i weld y lluniau


04.06.14 Trefniadau Ymweliad i Ganolfan Thomas Telford
canolfan thomas telford

Cynhelir cyfarfod olaf y tymor am eleni ar nos Fercher 11eg Mehefin gydad ymweliad ac Amgueddfa Telford, Porthaethwy, ac yna pryd o fwyd yng Ngwesty Carreg Bran.

Bydd y bws yn cychwyn o Cysegr am 5.30 gan godi yn y mannau arferol.



21.05.14 Nodyn Atgoffa - Ymweliad i Ganolfan Telford mis Mehefin
Er mwyn cael digon o amser yn y Ganolfan cyn mynd ymlaen am fwyd i Carreg Bran penderfynnwyd yn y cyfarfod olaf y bydd y bws yn cychwyn o Fethel am 5:30y.h.

Os nad ydych wedi gwneud eisioes, gofynnwn yn garedig i chi fynd a'r arian a'r dewis o'r fwydlen i Jen, Ann neu Gwyneth erbyn 25.05.14. Diolch yn fawr.


14.05.14 Helen Holland, Môn Ar Lwy
helen holland

Cawsom noson diddorol - a blasus - pan ddaeth Helen Holland atom i sôn am ei busnes hufen ia Môn Ar Lwy! Roedd yr hufen ia blas llus yn ffefryn gan amryw - ac eraill yn hoffi y siocled neu'r cnau. Roedd y blas bara brith yn plesio hefyd!

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


09.04.14 Geraint Thomas, Panorama
geraint thomasPleser oedd croesawu Geraint Thomas atom i gyfarfod mis Ebrill. Mae Geraint yn ffotograffydd proffesiynol yn arbenigo mewn nifer o feysydd gydag oriel yn Stryd y Plas Caernarfon. Mae wedi tynnu llun pob un o'r 140 o lynnoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri a dangosodd sleidiau bendigedig o'r llynnoedd wrth ddweud hanes amryw ohonynt. "Cyfrinachau Llynnoedd Eryri" yw enw ei lyfr, ac mae'n llawn lluniau godidog o lannau llynnoedd cyfarwydd fel Llyn Tegid i fannau mwy anghysbell fel Llyn Nadroedd.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


18.03.14 Gwahoddiad i Ddysgwyr
Bydd cyfarfod Merched y Wawr, Bethel Ebrill 9fed yn gyfarfod arbennig gan y gwahoddir dysgwyr y Gymraeg sydd ddim yn aelodau o’r gangen i ymuno efo ni. Y gwr gwadd ar y noson fydd Geraint Thomas, Panorama, Caernarfon a chawn gyfle dros baned i fwynhau lluniau o olygfeydd hynod Cymru a chyfle i’r dysgwyr ymarfer eu Cymraeg. Cynhelir y noson yn festri Capel Cysegr, Bethel am 7.30 nos Fercher Ebrill 9fed. Gwahoddir dysgwyr dynion a merched o Fethel a’r ardal ehangach atom.

Mae’r noson yn cael ei noddi gan Mantell Gwynedd o gronfa Cymraeg Efo’n Gilydd.


18.03.14 Cinio’r Llywydd Ranbarthau’r Gogledd
pobl
Cynhaliwyd cinio’r llywydd ddydd Sadwrn 8fed Mawrth yng Ngwesty’r Celt,Caernarfon. Daeth 230 o aelodau Merched y Wawr o bob rhan o Ogledd Cymru i fwynhau cinio blasus ,cyfle i gymdeithasu a gwrando ar sgwrs y wraig wadd,yr actores Rhian Morgan.

Mair Price estynodd groeso i bawb ar ran rhanbarth Arfon, a Gwyneth roddodd y gras cyn bwyta.

Meryl Davies o Ranbarth Dwyfor yw Is-lywydd Cenedlaethol y mudiad a hi yn absenoldeb y llywydd Gill Griffiths a arweiniodd weithgareddau’r diwrnod.

Cyflwynwyd tystysgrifau cynnydd aelodaeth i gangen Llanerchymedd efo 8 aelod newydd eleni, ac i ganghennau Penrhosgarnedd, Clwb Gwawr Glynceiriog, Y Groes, Abergele, Llangwm ac Abersoch am gael nifer o aelodau newydd.

Cafwyd sgwrs ddiddorol iawn gan Rhian Morgan, actores amryddawn iawn, ar hyn o bryd hi yw Gwen Lloyd yn y gyfres boblogaidd Gwaith Cartref ar S4C ar nos Sul.Darllenodd amrywiaeth o gerddi a rhyddiaith mae hi yn eu mwynhau- y digri a’r dwys.

Tegwen Morris y Trefnydd Cenedlaethol roddodd y diolchiadau gan ddiolch i’r Celt am eu gwasanaeth, i Rhian ac i holl aelodau’r mudiad ddaeth i’r Wyl. Dymunwyd adferiad buan a llwyr i Gill Griffiths yn dilyn llawdriniaeth yn ddiweddar. Terfynwyd trwy ganu cân y mudiad. Cliciwch yma i weld mwy o luniau


18.03.14 Gŵyl y Pum Rhanbarth ym mis Mai
Cynhelir Gŵyl y Pum Rhanbarth yn Ysgol Friars Bangor dydd Sadwrn Mai 10fed .Y tâl fydd £20 hyn yn cynnwys coffi a chinio. Bydd Cwt Tatrws, Daloni yn ein denu i wario yn ystod egwyl y bore.

Fe’n diddanir gan Gethin Griffith, Gwilym Rhys, Y Barnwr Nic Parri, Myrddin ap Dafydd a Gwenan Gibbard. I ddiweddu’r dydd bydd sgwrs gan Hywel Gwynfryn. Os am le dewch a’r tâl i’r cyfarfod nos Fercher Ebrill 9fed yn festri Cysegr.


05.03.14 Cinio Gŵyl Ddewi
gethin rita gwilym

Cawsom noson gofiadwy iawn pan ddaethom at ein gilydd i ddathlu Gŵyl Ddewi. Daeth S4C draw ar ddechrau'r noson i holi barn yr aelodau ar gyfer y rhaglen Newyddion 9. Bu tair ohonom ar y rhaglen yn mynegi barn am doriadau darlledu Pobl y Cwm. Roedd y bwyd yn Caban Brynrefail yn flasus iawn ac roedd yr adloniant gan Gethin Griffiths a Gwilym Rhys yn arbennig - diolch yn fawr iddynt.

teledu

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau

 




20.02.14 Pwyllgor yn cyfarfod wythnos nesaf
Cynhelir Pwyllgor MYW Bethel yn festri'r Cysegr am 7yh ar nos Fercher 26 Chwefror. Gobeithio y gall aelodau'r Pwyllgor fod yn bresennol.


14.02.14 Trefniadau Dathlu Gŵyl Dewi
Ar Fawrth 5ed (nodwch y dyddiad os gwelwch yn dda) byddwn yn dathlu Gŵyl Dewi yn y Caban, Brynrefail. Bydd Gethin Griffiths a Gwilym Rhys yn dod i'n diddori.Bydd angen yr arian i mewn erbyn Chwefror 26 os gwelwch yn dda. Y gost yw £15, i gynnwys y bws a phryd 2 gwrs.Gallwch dalu i Jen, Anne, Gwyneth neu Rita. Bydd y bws yn cychwyn o Benrhos am 7y.h. ac yn codi i fyny yn y mannau arferol.


13.02.14 Materion at sylw’r aelodau
Yn anffodus, oherwydd y gwyntoedd cryfion ni chynhaliwyd cyfarfod Merched y Wawr Bethel ym mis Chwefror. Cliciwch yma i weld materion at sylw’r aelodau


12.02.14 NEGES BWYSIG!
OHERWYDD RHAGOLYGON TYWYDD DRWG - MAE CYFARFOD MYW BETHEL WEDI CAEL EI GANSLO HENO


10.02.14 Nodyn Atgoffa - Cyfarfod o'r Pwyllgor
Cofiwch fod y Pwyllgor yn cyfarfod am 6:30yh ar nos Fercher 12.02.14. Wedyn bydd Gemma Jones gyda ni am 7.30y.h. Edrychwn ymlaen at y 'Triniaeth Harddwch'.


17.01.14 Bowlio Deg
tim penrhosgarnedd

Cafodd tim Bethel noson hwyliog iawn yn Bowlio Deg yng Nglasfryn. Llongyfarchiadau i dimau Llanrug a Groeslon a ddaeth i'r brig ar y noson. Bob lwc iddynt yn y gystadleuaeth nesaf. Cliciwch yma i weld y lluniau.




08:01:14 Llwyau Caru
tim penrhosgarnedd
Daeth Wyn a Deilwen Davies i'r gangen a chafwyd sgwrs a thrafodaeth ddiddorol iawn ganddynt am lwyau caru.
Cliciwch yma i weld y lluniau

Adroddiad Cyfarfod 08:01:14 - cliciwch yma

 


11:12:13 Noson Cinio Nadolig
cinio

Ffwrdd a ni i Copa, Llanberis am noson hwyliog - bwyd da a chwmni difyr. Diolch o galon i Anne Elis a Gwyneth Jones am drefnu. Cliciwch yma i weld y lluniau

Adroddiad Cyfarfod 11:12:13 - cliciwch yma


26:11:13 Trefniadau Noson Cinio Nadolig - Rhagfyr 11
Bydd y bws yn cychwyn o Penrhos 6.50y.h. ac wedyn yn codi yn y mannau arferol. Ar ôl codi yn safle bws gwaelod y pentref bydd y bws yn safle top y pentref erbyn 7.00y.h. Ellen Ellis, Mair Williams ac Anne Elis fydd yn gyfrifol am raffl y noson.


25:11:13 Cwis Hwyl Cenedlaethol - Neges gan Bwyllgor Arfon
Llongyfarchiadau mawr i gangen Penrhosgarnedd ddaeth yn ail trwy Gymru yn y Cwis hwyl eleni, dau farc oedd rhyngddynt â changen Llanilar ddaeth yn gyntaf. Cangen Llanuwchllyn ddaeth yn drydydd wedi'r cwestiwn datglwm. Yn lleol llongyfarchiadau i gangen Rhiwlas ddaeth yn ail a clwb Gwawr Glannau Llyfni ddaeth yn drydydd. (Mair Price)


19:11:13 Datganiad i'r Wasg
Adroddiad Cyfarfod Hydref - cliciwch yma


15:11:13 Cwis Hwyl Cenedlaethol

tim penrhosgarneddAeth tri tîm o’r gangen i gystadlu yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol yn y Seiont Manor, Llanrug nos Wener 15fed Tachwedd.

Tîm Penrhosgarnedd oedd yn fuddigol yn Rhanbarth Arfon, gyda Rhiwlas yn ail a Glannau Llyfni yn drydydd.

Yn y frwydyr rhwng tri tîm Bethel, tîm 3 efo Mair Read, Anita, Nan a Liz daeth i’r brig, tîm 2 Bethel efo Glenys, Nora, Anne a Jen yn ail a Bethel 1 yn drydydd efo Gwyneth, Beti a Mary.

Diolch i Mair Price am y trefniadau trylwyr, i Gwyneth, Ann Lewis, Sharon a Eleri am helpu efo’r marcio. Llongyfarchiadau i Jen ar ennill y raffl ac am fod mor barod i rannu’r tin siocled efo pawb!

Uchod gwelir Tîm Penrhosgarnedd. Cliciwch yma i weld mwy o luniau y noson


13:11:13 Anna Pritchard
anna pritchard
Mae gwaith Anna Pritchard wedi cael ei arddangos mewn sawl lle gan gynnwys Oriel Tegfryn , Oriel Glyn y Weddw a siop Tonnau ym Mhwllheli. Mwynhaodd bawb gweld y tecstilau a'r lluniau hardd, a'r llyfrau lloffion oedd yn dangos y broses o gasglu syniadau cyn mynd ati i ddylunio. Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 


12:11:13 Nodyn Atgoffa - Cinio Nadolig
Cofiwch ddod a'ch dewis a'r arian i gyfarfod Tachwedd os gwelwch yn dda. Cliciwch yma i weld copi o fwydlen Cinio Nadolig yn Copa (Rhagfyr 11).

Edrychwn ymlaen i groesawu Anna Pritchard atom i'r cyfarfod.


10:11:13 Sul y Cofio

plant cofeb

Yn dilyn gwasanaeth clodwiw gan ddisgyblion Ysgol Bethel, gosodwyd torch wrth y gofeb ar ran y gangen gan ein Llywydd, Jen Roberts.


17:10:13 Datganiad i'r Wasg
Adroddiad Cyfarfod Hydref - cliciwch yma


09:10:13 Sara a Miriam

sara a miriamCawsom gyfarfod difyr iawn yng nghwmni Sara a Miriam o gwmni Roberts Portdinorwic. Cawsom hanes datblygiad y cwmni teuluol, gwybodaeth am y siop a'r cynnyrch, a chyfle i flasu rhai o'r cigoedd blasus sydd ganddynt ar werth. Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson, a cliciwch yma i weld lluniau hanesyddol y cwmni.




26:09:13 Nodyn Atgoffa

Cofiwch ddod a ffrind i'r cyfarfod nesaf pan fyddwn yng nghwmni Sara a Miriam, Cwmni Roberts Felinheli. Rydym bob amser yn falch o weld aelodau newydd.


23:09:13 Pwyllgor Rhanbarth Arfon

3 merchMae dwy aelod o gangen Bethel yn weithgar iawn ar Bwyllgor Rhanbarth Arfon. Gwyneth Jones (chwith) yw'r Trysorydd a Mair Price (dde) yw'r Ysgrifennydd. Gwelir hwy yma gyda Meirwen Lloyd oedd yn gorffen ei thymor fel Llywydd ar y noson. Y Llywydd newydd yw Einir Williams.

Cafwyd newyddion da yn y Pwyllgor - roedd Rhanbarth Arfon wedi dod yn gyntaf yng nghystadleuaeth Celf a Chrefft Sioe Frenhinol Cymru. Cliciwch yma i weld y Tystysgrif a mwy o luniau o'r noson.


19:09:13 Datganiad i'r Wasg
Adroddiad Cyfarfod Cyntaf y Tymor - cliciwch yma


11:09:13 Noson Hwyliog

Neville HughesCafwyd noson hwyliog iawn yng nghwmni Neville Hughes, cyn aelod o'r grŵp enwog Hogiau Llandygai. Roedd yn syndod faint o eiriau'r caneuon yr oedd bawb yn eu cofio! Roedd y bwffe yn flasus iawn - diolch i'r Pwyllgor am hynny, ac roedd yna hen sgwrsio a chwerthin dros baned wrth i bawb ddal i fyny ar ôl seibiant yr haf.

Cliciwch yma i weld y lluniau

 


01:09:13 Croeso i aelodau hen a newydd!

Cynhelir cyfarfod cyntaf y tymor yn festri Capel Cysegr nos Fercher Medi 11eg am 7.30.

Y gwr gwadd ar y noson fydd Neville Hughes (Hogia Llandegai). Bydd swper blasus a chroeso cynnes i bawb, aelodau hen a newydd dan lywyddiaeth Jen Roberts.

Mae rhaglen ddifyr wedi ei pharatoi fydd yn plesio pawb gobeithio, edrychwn ymlaen i’ch gweld.


24:08:13 Gŵyl Bethel

gem mwydynDiolch i Rita Williams am greu sgwar cant 'Mwydyn Merched y Wawr'. Rhwng gwerthu rhifau a gwerthu llyfrau ail law roedd Liz Watkin, Mair Price, Mair Williams a Mary Evans yn brysur iawn, a codwyd £125.65 i'r gangen! Diolch i Jen, Rita ac Anne am eu rhodd tuag at wobr y gem 'Mwydyn Merched y Wawr'.

Rhoddwyd £30 i Ŵyl Bethel am gael bwrdd yn y digwyddiad. Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 


16:07:13 Un neu ddau o fanion

anne a gwyneth

 

Cyfarfod sydyn rhwng Jen, Anne a Gwyneth cyn mynd ati i osod Rhaglen 2013-2014. Mwy o drafod ble i fynd i wledda na dim arall!

 

 


03:07:13 Y Pwyllgor newydd yn cyfarfod

y pwyllgorDaeth y pwyllgor at ei gilydd yn y Cysegr i drafod Rhaglen 2013 - 2014.

Roedd Anne Elis (Ysgrifennydd) wedi bod yn brysur yn ffonio ac yn e-bostio unigolion a sefydliadau tra'r oedd Gwyneth Jones (Trysorydd) wedi bod yn sicrhau fod y gangen yn cael y pris gorau!

Dim ond un neu ddau o fylchau sydd eisiau eu llenwi cyn i Jennifer Roberts (Llywydd) fynd ati i greu y Rhaglen yn awr.

Hefyd trefnwyd pwy sy'n gwneud beth ar gyfer y lluniaeth ar y noson agoriadol ar Fedi 11fed - ond byddwn yn siwr o atgoffa pawb cyn Medi!

Diolch i rai o aelodau'r pwyllgor am gytuno i gymryd gofal o fwrdd Merched y Wawr yng Ngŵyl Bethel ar Awst 24.

Archif Lluniau Merched y Wawr Bethel
aelodau

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu lluniau ac yn arbennig i Beti Owen ac Eirys Sharpe.

Cliciwch yma i weld ein lluniau

 

 

 

 

 

 

 

Lluniau Diweddar

pix pix pix pix pix pix

Lleoliad


Gweld MYW Bethel mewn map mwy

Cysylltu

Llywydd: Jennifer Roberts
Ysgrifennydd: Meira Evans
Trysorydd: Mair Williams

[e] swyddogion@mywbethel.org