Newyddion

 

13.09.23 Magee

Cyfarfod 13/09/23 gyda brodyr MageeCawsom gychwyn gwerth chweil i weithgareddau'r tymor yng nghwmni'r grŵp Magee, band o frodyr talentog o Ynys Môn sy'n canu cyfuniad o gerddoriaeth gwerin a roc. Roeddent yn chwarae caneuon gwreiddiol eu hunain a’u fersiynau hwy o ganeuon pobl eraill, a chafwyd blas ar ganeuon ar bynciau pwysig a mawr y byd, ynghyd a rhai gan Meic Stephens, Alun ‘Sbardun’ Hughes, Bryn Fôn a Dewi Pws. Roedd pawb wedi mwynhau eu perfformiad a'r cymdeithasu wedyn dros baned a theisen. Diolch i Noson Fach Allan a Chyngor Gwynedd am noddi'r noson.

Cliciwch yma i weld adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


01.09.23 Dyddiad I'w Gofio - Noson Agoriadol Ar 13/09/23

Dyddiad I'w Gofio - Noson Agoriadol Ar 13/09/23Bydd ein noson agoriadol yn digwydd ar Ddydd Mercher, Medi 13eg am 7:15. Bydd y grŵp gwerin adnabyddus o Ynys Môn, MAGEE, yno i'n difyrru, a bydd lluniaeth ysgafn wedi ei baratoi gan y Pwyllgor. Estynnir croeso cynnes i'n haelodau ffyddlon ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau newydd o’r pentref. Tâl Aelodaeth am 10 cyfarfod a 4 rhifyn o Y Wawr fydd £20, a gwerthfawrogwn ei gael fel arian parod os gwelwch yn dda. Diolchwn i Gynllun Noson Allan, Cyngor y Celfyddydau Cymru, a Chyngor Gwynedd am noddi’r noson.

Cliciwch yma i weld y poster


08.08.23 Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd

Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac EifionyddBu rai o'r aelodau yn brysur yn gweini yn stondin Merched Y Wawr yn yr Eisteddfod ar brynhawn Sul 6ed ac ar fore Mawrth 8fed o Awst. Roedd hi'n hynod o brysur ond cawsom gyfle i weld cyfraniad y gangen i'r arddangosfa ar y thema Llwybrau. Galwodd ffrindiau i mewn i ddweud helo, ac roedd dipyn o gynnwrf yn y babell pan ddaeth Maggi Noggi heibio i gael paned!

Cliciwch yma i weld y lluniau


14.06.23 Taith ar Y Fenai

Taith ar Y Fenai ar fwrdd Queen of the Sea I orffen y tymor cawsom daith fendigedig ar hyd Y Fenai o Gaernarfon i Borthaethwy, gan hwylio o dan y ddwy bont enwog. Roedd y golygfeydd yn odidog ac roedd cyfle i gael picnic a chymdeithasu ar fwrdd y Queen of the Sea.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


11.05.23 Taith Hanesyddol

Taith Hanesyddol Mis yma cawsom fynd o amgylch y pentref yng nghwmni Gareth Roberts, Menter Fachwen, a oedd yn rhoi darlun diddorol i ni o Fethel y gorffennol. Cawsom glywed hanes y damweiniau angheuol a gafwyd rhwng y trên a cherbydau wrth groesi’r ffordd. Wrth fynd lawr Stryd Ganol yr oeddem yn cerdded ar hyd Stryd Fawr Bentref Saron, gan ryfeddu at nifer y siopau gwahanol a fu yno. O flaen yr hen ysgol cawsom hanes y terfysg a gafwyd ynglŷn â’r hawl i gael addysg ac i siarad Cymraeg, pryd y difrodwyd neuadd yr hen ysgol. Cafwyd tir i adeiladu ysgol newydd a heddiw mae’r Gymraeg bellach yn seinio’n falch rhwng eu muriau.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau



28.04.23 Bowlio Deg

Mair Price, Falmai Owen, Mary Evans a Jen Roberts wedi ddod yn gyntaf Llongyfarchiadau i Mair Price, Falmai Owen, Mary Evans a Jen Roberts am ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth Bowlio Deg Rhanbarth Arfon ym mharc Glasfryn ger Pwllheli. Llongyfarchiadau arbennig i Falmai gan mai hi gafodd y sgôr uchaf ar y noson!

Cliciwch yma i weld y lluniau



12.04.23 "Nain a'r Royal Charter"

Meinir Owen a'n Llywydd, Mair PriceYn ein cyfarfod mis yma cawsom gyfle i wrando ar Meinir Owen yn sôn am yr hanes a gafodd gan ei nain am long ddrylliad erchyll y Royal Charter ar y creigiau ger Moelfre ym Mis Hydref 1859. Daeth Meinir a'r hanes yn fyw i'w chynulleidfa, yn enwedig pan soniodd am y 28 o ddynion dewr aeth i ganol y tonnau i geisio achub y teithwyr. Roedd y tonnau yma hyd at 40 troedfedd o uchder, ac roedd dau o'r dynion yma yn hen, hen deidiau iddi, a thrydydd yn hen, hen ewythr. Gwelir Meinir yma gyda'n Llywydd, Mair Price.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


08.03.23 Dathlu Gŵyl Dewi

Dathlu Gŵyl DewiCyfarfu’r gangen o Ferched y Wawr ar Fawrth yr 8 fed a chafwyd noson hwyliog dros ben. Yn hytrach na mynd allan i ddathlu Gŵyl Ddewi eleni cafwyd noson ‘adref’ oherwydd yn garedig iawn cynigiodd ein trysorydd Eirlys Williams wneud cawl cennin blasus i bawb. Cafwyd paned o de a chacen gri i orffen y pryd, ac i ddilyn chwaraewyd gêm hwyliog o chwilod.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


08.02.23 Nia Wyn Williams

Image credit: “[Gwersyll Gwyliau Butlins ym Mhwllheli]” by Charles, Geoff 1909-2002, The National Library of Wales (CC BY-NC-ND 2.0 UK)'Trysorau'r Teulu' oedd y thema pan ddaeth Nia Wyn Williams atom i Neuadd Bethel. Roedd yr aelodau wedi dod ac amrywiaeth o bethau efo nhw, gan gynnwys gemwaith aur, crochenwaith, llyfrau, lluniau ac ati. Cawsom noson ddifyr dros ben yn dysgu amdan yr hanesion tu ol i'r eitemau a beth sy'n gwerthu yn dda ar hyn o bryd.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


11.01.23 Bob Morris

Image credit: “[Gwersyll Gwyliau Butlins ym Mhwllheli]” by Charles, Geoff 1909-2002, The National Library of Wales (CC BY-NC-ND 2.0 UK)Ein gŵr gwadd dros Zoom oedd Bob Morris, ac fe’n tywysodd ni drwy hanes Syr Billy Butlin yn sefydlu y gwersyll gwyliau ym Mhenychain ger Pwllheli. Yn un o bedair cenhedlaeth a fu’n gweithio yn y gwersyll, bu yno am saith haf yn olynol yn y 60au. Cawsom hanes a sgwrs ddifyr tu hwnt, ynghyd â lluniau trawiadol sut y datblygwyd gogledd Cymru yn gyrchfan gwyliau i bobl gyffredin o Ogledd Lloegr a thu hwnt, ac agor “Butlins Pwllheli”

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Priodoledd llun: “[Gwersyll Gwyliau Butlins ym Mhwllheli]” gan Charles, Geoff 1909-2002, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (CC BY-NC-ND 2.0 UK)


14.12.22 Cinio Nadolig

Cinio NadoligBraf oedd cael dod at ein gilydd i ddathlu’r Nadolig yn y Newborough Arms yn Bontnewydd. Cafwyd noson hwyliog, ac ar ôl ein bwyd fe gawsom ein diddanu gan y consiriwr Richard Owen. Doedd gan yr un ohonom syniad sut oedd o yn gwneud ei driciau, ond ‘roedd yna ddigon o chwerthin!

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


09.11.22 Cécile Roberts

Cécile Roberts yn greu addurniadau hardd gyda blodau a  aelodau o Merched Y Wawr Bethel yn y cefndirDiolch i Cécile Roberts am ddod atom heno a'n cynhorthwyo i greu addurniadau hardd gyda blodau. Roedd pawb wedi mwynhau ac roedd yna awyrgylch hyfryd yn y neuadd wrth i bawb ymlacio a sgwrsio wrth roi eu campweithiau at ei gilydd.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


12.10.22 Ann Catrin Evans

Ann Catrin EvansMae Ann Catrin Evans yn adnabyddus drwy Gymru a thu hwnt fel cerflunydd a gemydd sydd yn defnyddio haearn a mhetalau gwerthfawr. Daeth draw i'r gangen i son am ei gyrfa a dangos esiamplau o'i gwaith gan gynnwys gwaith celf brau oedd wedi ei fframio, gemwaith haearn dramatig a cherfluniau mawr pensaernïol. Roedd pawb wedi rhyfeddu ar ei dawn.


Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r digwyddiad

Cliciwch yma i weld y lluniau


14.09.22 Owain Roberts

Owain Roberts gyda aelod o Merched Y Wawr BethelCynhaliwyd ein noson agoriadol yn Y Cysger ble cawsom berfformiad rhagorol ar y piano gan Owain Roberts. Yn dilyn roedd lluniaeth ysgafn wedi ei baratoi gan y Pwyllgor ac roedd cyfle i gymdeithasu a dal i fyny gyda ffrindiau ar ôl yr haf.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r digwyddiad

Cliciwch yma i weld y lluniau


Archif Newyddion a Lluniau - cliciwch yma

Lluniau Diweddar

pix pix pix pix pix pix

Lleoliad


Gweld MYW Bethel mewn map mwy

Cysylltu

Llywydd: Jennifer Roberts
Ysgrifennydd: Meira Evans
Trysorydd: Mair Williams

[e] swyddogion@mywbethel.org