Newyddion

13.11.24 Tesni Calennig

Tesni Calennig gyda Merched y Wawr BethelYng nghyfarfod Mis Tachwedd cawsom y fraint o groesawu Tesni Calennig i’n plith. Mae Tesni (gemydd a gof) yn ferch ieuanc hynod o dalentog sydd, efo’i ffrind Elin Angharad Jones (gemydd a darlunydd), wedi sefydlu Crefft Migldi-Magldi yn hen efail Brunswick yng Nghei Llechi, Caernarfon. ‘Roedd yn ddiymhongar iawn wrth ddangos ystod eang ei gwaith, o fodrwyau arian a oedd wedi eu creu i gyd fynd a chân yr oedd Casi Wyn wedi ei hysgrifennu, i fwrdd 6 troedfedd o hyd wedi ei wneud yn gywrain o dderw a haearn.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


08.11.24 Cwis Hwyl Cenedlaethol Merched Y Wawr

Iwan Roberts gyda dau o poblNos Wener Tachwedd 8fed daeth deuddeg tîm i Neuadd Y Groeslon i gymryd rhan yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol. Llongyfarchiadau mawr i dîm Bethel 1 am ddod yn 3ydd drwy Gymru! Yn y llun gwelir aelodau'r tîm yn eistedd, sef Anita Owen, Mair Read, Gwenan Roberts a Mair Price, gydag Anne Elis (Llywydd Rhanbarth Arfon) a Jennifer Roberts (Ysgrifennydd Rhanbarth Arfon) yn sefyll.

Cliciwch yma i weld y lluniau


09.10.24 Iwan Roberts

Iwan Roberts gyda dau o poblDaeth Iwan Roberts o Lanrug atom i roi sgwrs ar hanes y post cynnar yn yr ardal. Wrth ddangos amryw o hen fapiau, a lluniau o lythyrau hynafol gyda marciau post o bentrefi'r ardal, llwyddodd Iwan i roi darlun arbennig o dda o sut yr oedd pethau'n arfer bod. Yn y llun gwelir Iwan gyda'n Llywydd, Liz Watkin, a Ceridwen Williams. Roedd tad Ceridwen, Cledwyn Williams, yn arfer bod yn brifathro yn Llanrug, ac roedd Iwan gyda chofnod diddorol yr oedd Cledwyn wedi ysgrifennu am ddosbarthu'r post ym Methel dros ganrif yn ôl.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


11.09.24 Sian Gibson a'i Disgyblion

Sian Gibson a'i Disgyblion Cawsom noson hyfryd yn ein cyfarfod cyntaf o'r tymor. Roedd Sian Gibson wedi dod a dwy o'i disgyblion atom, sef Leisa Lloyd Edwards ac Alis Glyn Tomos; dwy eneth dalentog iawn a enillodd y gystadleuaeth deuawd yn Eisteddfod Yr Urdd eleni. Roedd Deilwen Hughes yno i gynorthwyo gyda’r cyfeilio hefyd. I ddilyn roedd cyfle i ddal i fyny gyda ffrindiau dros baned a theisen neu ddwy (neu dair!) Diolch i'r Swyddogion a'r Pwyllgor am drefnu'r cwbl.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


05.09.24 Dyddiad I'w Gofio - Noson Agoriadol Ar 11/09/24

merched yn bwytaYr ydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i agor tymor 2024-25 ar Nos Fercher 11eg Medi am 7:30 o’r gloch yn Neuadd Goffa Bethel. Byddwn yn cael ein diddanu gan Siân Wyn Gibson a rhai o’i disgyblion, a bydd yna baned a chacen wedi ei pharatoi gan y swyddogion. Y mae croeso i aelodau hen a newydd felly dewch i gymdeithasu ac i gael blas ar ein rhaglen amrywiol! Tal Aelodaeth Blwyddyn £20 (arian parod mewn amlen efo'ch enw wedi ei nodi arno os gwelwch yn dda). Raffl £2 y tro.


01.08.24 Rhanbarth Arfon yn Cyflwyno Gwaith Celf

Grwp o ferched wrth ymyl llun lliwgar ar walYn fuan ar ôl cyfnod clo Covid aeth aelodau Merched Y Wawr drwy Gymru ati i greu Blodau Gobaith i ddangos ein gwerthfawrogiad o waith gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn ystod yr amser anodd yma. Crëwyd Enfys O Obaith anferth gyda nifer fawr o'r blodau hyn, a chafodd lawer gyfle i'w gweld yn Eisteddfod Ceredigion 2021. Erbyn hyn mae'r Enfys O Obaith yn cael ei harddangos yn Ysbyty Plant Cymru. Wedyn aeth aelodau o Merched Y Wawr ati i greu Gwaith celf unigol gyda'r blodau oedd dros ben. Dyma'r gwaith celf arbennig gyflwynwyd i Ranbarth Arfon, ac ar Awst 1af fe drosglwyddwyd ef i Ysbyty Gwynedd ble y caiff cleifion a staff ei fwynhau. Cadwch lygaid allan amdano!

Yn y llun mae aelodau o Merched Y Wawr, Rhanbarth Arfon, gyda Anne Elis o Fethel, (Llywydd Rhanbarth Arfon) a Valerie Harris (Cynorthwyydd Personol i'r Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ysbyty ac i’r Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig)


12.06.24 Trip Diwedd Tymor

grwp o 32 o ferched yn eistedd yn amgueddfa forwrol llynAr Fehefin y 12fed aethom ar ein trip diwedd tymor i ymweld ag Amgueddfa Forwrol Llŷn yn Nefyn. Yno gwelsom ffilm ddiddorol ar hanes datblygiad Nefyn cyn cael cyfle i grwydro o amgylch yr amgueddfa. Ymlaen a ni wedyn i Caffi Ni i fwynhau bwffe arbennig o flasus ac roedd heulwen Mehefin a’r olygfa dros y môr yn goron ar y cyfan.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


16.05.24 Bowlio Deg Rhanbarth Arfon

tim bowlio degLlongyfarchiadau mawr i dîm Bowlio Deg Bethel ar ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth Bowlio Deg Rhanbarth Arfon yng Nglasfryn. Daeth Falmai Owen i'r brig gyda'r sgôr uchaf o 108, gyda Mair Read yn ail agos gyda sgôr o 105. Hefyd yn y tîm oedd Eleri Warrington, Jen Roberts a Mary Jones.



Cliciwch yma i weld y lluniau


08.05.24 Angharad Tomos

Anghared TomosEin gwestai gwadd y mis yma oedd Angharad Tomos. Mae hi’n gyfarwydd i ni gyd fel awdur a llenor disglair, a'i thestun yn ein cyfarfod oedd Silyn Roberts a’i wraig Mary. Dywedodd Angharad fod hanes y ddau yma wedi dod yn obsesiwn iddi a dyna oedd canlyniad y nofel hyfryd honno ‘Arlwy’r Sêr’. Teg dweud fod y gynulleidfa wedi eu cyfareddu gan yr hanes a’i chyflwyniad.

 

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


10.04.24 Meira Evans

Meira EvansCawsom noson hyfryd yn gwrando ar Meira Evans, Gwlân y Bwthyn heno. Roedd yna atgofion difyr, a gwaith gwnïo, gwau a chrosio i'w rhyfeddu atynt. Cafwyd cyfle i ddangos rhai o'r cynnyrch wnaed gan ein haelodau pan yn ddisgyblion ysgol, ac wedyn cwis ar faterion celf a chrefft wedi ei baratoi gan Meira.

 

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


13.03.24 Dathlu Gŵyl Ddewi gydag Ifor ap Glyn

Kelly O'DonnellCawsom noson i'w chofio yn dathlu Gŵyl Ddewi yng Nghaffi Menter Cymunedol Bethel yng nghwmni Ifor ap Glyn, cyn Bardd Cenedlaethol Cymru. Roedd y lob sgows, y bara brith a'r cacenni cri yn flasus dros ben. Wedyn cafodd bawb gyfle i fwynhau'r hanesion difyr, y cerddi a'r dyfyniadau o waith rhyddiaith Ifor ap Glyn.

 

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


14.02.24 Kelly O'Donnell

Kelly O'DonnellRoedd yn braf iawn cael croesawu Kelly O'Donnell i'r gangen i gael clywed am ei phrofiad ar y rhaglen boblogaidd Ffit Cymru. Fe ddewiswyd Kelly yn un o’r pum Arweinydd ar gyfer y gyfres a bu llawer ohonom yn dilyn cynnydd Kelly o wythnos i wythnos. Roedd pawb wedi mwynhau gwrando arni yn sgwrsio mor onest ac mor naturiol.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


10.01.24 Rhian Cadwaladr

Rhain CadwaladrMae Rhian Cadwaladr yn actores ac yn awdur sydd wedi cyhoeddi pedair nofel. Bellach mae hi’n enwog am ei llyfrau coginio hefyd sef Casa Cadwaladr a Casa Dolig. Yn ystod ein cyfarfod bu’n darllen rhannau allan o rai o’i nofelau ac roedd ei dawn actio yn dod â chymeriadau’r nofel yn fyw i ni gan ymdrin â bywyd bob dydd yn llawn hiwmor. Braf oedd clywed y neuadd yn llawn chwerthin. Soniodd hefyd am y broses a ddigwyddai wrth iddi fynd ati i baratoi ar gyfer cyhoeddi ei llyfrau coginio, sydd â diwyg arbennig iawn iddynt.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


13.12.23 Dathlu'r Nadolig Gydag Alis Glyn

Dathlu NadoligEleni fe aeth y gangen i'r Felin, Pontrug, i ddathlu'r Nadolig. Cawsom fwyd rhagorol a chyfle i sgwrsio a chwerthin. Ar ôl ein pryd daeth Alis Glyn, cantores ifanc, dalentog, o Gaernarfon atom, a phleser pur oedd gwrando arni yn canu ei chyfansoddiadau gwreiddiol.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


10.11.23 Cwis Hwyl Cenedlaethol

CwisAr nos Wener, Tachwedd 10, daeth deg tîm o Merched Y Wawr Rhanbarth Arfon i Neuadd Goffa Bethel i gymryd rhan yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol. Dinbych ddaeth i'r brig ar y noson, ond rhaid llongyfarch Mair Price, Mair Read a Gwenan Roberts o dîm Bethel 1 a ddaeth yn ail yn y Cwis ar ôl rhoi'r ateb gorau i'r datglwm! Gwych! Diolch yn fawr i'r trefnwyr ac i bwyllgor MYW Bethel am baratoi'r lluniaeth a'r raffl.

Cliciwch yma i weld y lluniau


08.11.23 Gwen Orlick a Lynda Szekely

Twm EliasCawsom noson ddifyr dros ben yng nghwmni Gwen Orlick a Lynda Szekely. Roedd cyfle i chwarae gemau ac ennill gwobrau, yn ogystal â chlywed am gwmni Tropic a'u nwyddau gofal croen o gynhwysion naturiol. Roedd sawl un ohonom wedi bachu ar y cyfle i brynu pethau! Ar ddiwedd y noson bu raid i Myfanwy wneud mwy nag un trip i'r car gyda bagiau llawn sgarffiau a chadwyni i'w gwerthu yn Ffair Aeaf gyda'r arian yn mynd i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


11.10.23 Twm Elias - O Swyn i Stethosgôp

Twm EliasRoedd pawb wedi mwynhau'r sgwrs ddiddorol, addysgiadol a doniol am feddygaeth a moddion drwy'r oesoedd a gafwyd gan y naturiaethwr Twm Elias yn ein cyfarfod fis Hydref.

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


13.09.23 Magee

Cyfarfod 13/09/23 gyda brodyr MageeCawsom gychwyn gwerth chweil i weithgareddau'r tymor yng nghwmni'r grŵp Magee, band o frodyr talentog o Ynys Môn sy'n canu cyfuniad o gerddoriaeth gwerin a roc. Roeddent yn chwarae caneuon gwreiddiol eu hunain a’u fersiynau hwy o ganeuon pobl eraill, a chafwyd blas ar ganeuon ar bynciau pwysig a mawr y byd, ynghyd a rhai gan Meic Stephens, Alun ‘Sbardun’ Hughes, Bryn Fôn a Dewi Pws. Roedd pawb wedi mwynhau eu perfformiad a'r cymdeithasu wedyn dros baned a theisen. Diolch i Noson Fach Allan a Chyngor Gwynedd am noddi'r noson.

Cliciwch yma i weld adroddiad o'r noson

Cliciwch yma i weld y lluniau


01.09.23 Dyddiad I'w Gofio - Noson Agoriadol Ar 13/09/23

Dyddiad I'w Gofio - Noson Agoriadol Ar 13/09/23Bydd ein noson agoriadol yn digwydd ar Ddydd Mercher, Medi 13eg am 7:15. Bydd y grŵp gwerin adnabyddus o Ynys Môn, MAGEE, yno i'n difyrru, a bydd lluniaeth ysgafn wedi ei baratoi gan y Pwyllgor. Estynnir croeso cynnes i'n haelodau ffyddlon ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau newydd o’r pentref. Tâl Aelodaeth am 10 cyfarfod a 4 rhifyn o Y Wawr fydd £20, a gwerthfawrogwn ei gael fel arian parod os gwelwch yn dda. Diolchwn i Gynllun Noson Allan, Cyngor y Celfyddydau Cymru, a Chyngor Gwynedd am noddi’r noson.

Cliciwch yma i weld y poster


Archif Newyddion a Lluniau - cliciwch yma

Lluniau Diweddar

pix pix pix pix pix pix

Lleoliad


Gweld MYW Bethel mewn map mwy

Cysylltu

Llywydd: Liz Watkin
Ysgrifennydd: Gwenan Roberts
Trysorydd: Gwyneth Jones

[e] swyddogion@mywbethel.org