Amdanom
Merched y Wawr Cangen Bethel, Gwynedd
Dathlu Pen Blwydd Cangen Merched y Wawr Bethel yn 40 yn 2015!
Cawsom noson i'w chofio wrth ddathlu pen blwydd y gangen yn ddeugain oed.
Braf oedd croesawu ein Llywydd Cenedlaethol, Meryl Davies, atom.
Cawsom fwyd gwerth chweil gan Pryd i Bawb ac adloniant heb ei ail gan Gwenan Gibbard.
Derbyniom englynion gan Richard Lloyd Jones ac englyn gan Jon Meirion, a bu cyfle i hel atgofion ac edrych ar hen luniau a dogfennau.
Diolch o galon i'r swyddogion a'r pwyllgor gweithgar am drefniadau mor drylwyr.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i ddarllen neges gan Nia Parry Jones yn dilyn Dathlu 40!
Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson
Cliciwch yma i weld lluniau o'r Archif
Cliciwch yma i weld rhestr o'r Swyddogion ers i'r gangen gychwyn yn 1975
Ffynhonnell y gwybodaeth isod: gwefan Merched y Wawr
"Sefydlwyd Merched y Wawr ym 1967 yn y Parc ger y Bala.
Mae nifer wedi gofyn sut y cychwynnodd y mudiad - dyma hanes y sefydlu:
Ym mis Rhagfyr 1966 ymwelodd swyddogion Sefydliad y Merched, Meirionnydd, â changen Y Parc am eu bod yn anfodlon fod y gangen wedi anfon erthygl i’r Cymro yn beirniadu Sefydliad y Merched. Y feirniadaeth oedd fod y W.I. yn anfon papurau swyddogol uniaith Saesneg i ganghennau a gynhaliai eu holl weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg. Cwynai’r erthygl hefyd am nad oedd gair o Gymraeg yn y ‘North Wales Edition’ o gylchgrawn y mudiad hwnnw.
Yn y cyfarfod yn Y Parc eglurwyd i’r aelodau mai mudiad Saesneg oedd y W.I. ac yna awgrymwyd, os nad oeddynt yn fodlon perthyn i fudiad Saesneg, y dylid cau’r gangen a throsglwyddo’r papurau swyddogol i swyddogion y sir. Er nad oedd merched y Parc ar y dechrau wedi bwriadu torri i ffwrdd o’r W.I. teimlent nad oedd ganddyn nhw fawr o ddewis dan yr amgylchiadau heblaw derbyn yr awgrym a gweithredu yn unol â hynny.
Y noson honno penderfynwyd cychwyn cymdeithas newydd i ferched Cymru fyddai’n rhoi lle urddasol i’r Gymraeg. Yn ystod gwanwyn 1967 y bwriad oedd cychwyn ymgyrch yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala yn Awst, ond cyn hynny rhaid oedd cael ychydig o arian wrth gefn. Yn Ffair Glame yn nhre’r Bala roedd stondin gan ferched Y Parc i godi arian, ac fe holodd y diweddar Meirion Jones, prifathro’r Ysgol Gynradd, beth oedd diben y stondin. Wedi clywed yr hanes, fe gysylltodd yn syth â’r wasg a’r cyfryngau, a gwnaed y bwriad yn gyhoeddus ar Fai 15fed. O fewn wythnos roedd cangen arall o Ferched y Wawr wedi’i sefydlu yn Y Ganllwyd gyda rhyw 34 o aelodau.
Y ddwy gangen arloesol hyn a aeth yn gyfrifol am drefnu Pabell Merched y Wawr ar faes yr Eisteddfod yn Y Bala ac am gynnal cyfarfod cyhoeddus ar y Maes. O ganlyniad uniongyrchol i’r cyfarfod hwnnw, fe gododd llawer iawn o ganghennau ledled Cymru a chyn bo hir fel drefnwyd Pwyllgorau Rhanbarth.
Ym mis Rhagfyr 1967 bu cynhadledd Genedlaethol yn Aberystwyth. Fe dyfodd y Mudiad fel caseg eira, ond nid heb lawer o waith trefnu gan ferched Y Parc."
Mwy o wybodaeth - cliciwch yma
Newyddion
Amdanom
Gwybodaeth