Archif Newyddion
08.08.23 Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
Bu rai o'r aelodau yn brysur yn gweini yn stondin Merched Y Wawr yn yr Eisteddfod ar brynhawn Sul 6ed ac ar fore Mawrth 8fed o Awst. Roedd hi'n hynod o brysur ond cawsom gyfle i weld cyfraniad y gangen i'r arddangosfa ar y thema Llwybrau. Galwodd ffrindiau i mewn i ddweud helo, ac roedd dipyn o gynnwrf yn y babell pan ddaeth Maggi Noggi heibio i gael paned!
14.06.23 Taith ar Y Fenai
I orffen y tymor cawsom daith fendigedig ar hyd Y Fenai o Gaernarfon i Borthaethwy, gan hwylio o dan y ddwy bont enwog. Roedd y golygfeydd yn odidog ac roedd cyfle i gael picnic a chymdeithasu ar fwrdd y Queen of the Sea.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
11.05.23 Taith Hanesyddol
Mis yma cawsom fynd o amgylch y pentref yng nghwmni Gareth Roberts, Menter Fachwen, a oedd yn rhoi darlun diddorol i ni o Fethel y gorffennol. Cawsom glywed hanes y damweiniau angheuol a gafwyd rhwng y trên a cherbydau wrth groesi’r ffordd. Wrth fynd lawr Stryd Ganol yr oeddem yn cerdded ar hyd Stryd Fawr Bentref Saron, gan ryfeddu at nifer y siopau gwahanol a fu yno. O flaen yr hen ysgol cawsom hanes y terfysg a gafwyd ynglŷn â’r hawl i gael addysg ac i siarad Cymraeg, pryd y difrodwyd neuadd yr hen ysgol. Cafwyd tir i adeiladu ysgol newydd a heddiw mae’r Gymraeg bellach yn seinio’n falch rhwng eu muriau.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
28.04.23 Bowlio Deg
Llongyfarchiadau i Mair Price, Falmai Owen, Mary Evans a Jen Roberts am ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth Bowlio Deg Rhanbarth Arfon ym mharc Glasfryn ger Pwllheli. Llongyfarchiadau arbennig i Falmai gan mai hi gafodd y sgôr uchaf ar y noson!
12.04.23 "Nain a'r Royal Charter"
Yn ein cyfarfod mis yma cawsom gyfle i wrando ar Meinir Owen yn sôn am yr hanes a gafodd gan ei nain am long ddrylliad erchyll y Royal Charter ar y creigiau ger Moelfre ym Mis Hydref 1859. Daeth Meinir a'r hanes yn fyw i'w chynulleidfa, yn enwedig pan soniodd am y 28 o ddynion dewr aeth i ganol y tonnau i geisio achub y teithwyr. Roedd y tonnau yma hyd at 40 troedfedd o uchder, ac roedd dau o'r dynion yma yn hen, hen deidiau iddi, a thrydydd yn hen, hen ewythr. Gwelir Meinir yma gyda'n Llywydd, Mair Price.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
08.03.23 Dathlu Gŵyl Dewi
Cyfarfu’r gangen o Ferched y Wawr ar Fawrth yr 8 fed a chafwyd noson hwyliog dros ben. Yn hytrach na mynd allan i ddathlu Gŵyl Ddewi eleni cafwyd noson ‘adref’ oherwydd yn garedig iawn cynigiodd ein trysorydd Eirlys Williams wneud cawl cennin blasus i bawb. Cafwyd paned o de a chacen gri i orffen y pryd, ac i ddilyn chwaraewyd gêm hwyliog o chwilod.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
08.02.23 Nia Wyn Williams
'Trysorau'r Teulu' oedd y thema pan ddaeth Nia Wyn Williams atom i Neuadd Bethel. Roedd yr aelodau wedi dod ac amrywiaeth o bethau efo nhw, gan gynnwys gemwaith aur, crochenwaith, llyfrau, lluniau ac ati. Cawsom noson ddifyr dros ben yn dysgu amdan yr hanesion tu ol i'r eitemau a beth sy'n gwerthu yn dda ar hyn o bryd.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
11.01.23 Bob Morris
Ein gŵr gwadd dros Zoom oedd Bob Morris, ac fe’n tywysodd ni drwy hanes Syr Billy Butlin yn sefydlu y gwersyll gwyliau ym Mhenychain ger Pwllheli. Yn un o bedair cenhedlaeth a fu’n gweithio yn y gwersyll, bu yno am saith haf yn olynol yn y 60au. Cawsom hanes a sgwrs ddifyr tu hwnt, ynghyd â lluniau trawiadol sut y datblygwyd gogledd Cymru yn gyrchfan gwyliau i bobl gyffredin o Ogledd Lloegr a thu hwnt, ac agor “Butlins Pwllheli”
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Priodoledd llun: “[Gwersyll Gwyliau Butlins ym Mhwllheli]” gan Charles, Geoff 1909-2002, Llyfrgell Genedlaethol Cymru (CC BY-NC-ND 2.0 UK)
14.12.22 Cinio Nadolig
Braf oedd cael dod at ein gilydd i ddathlu’r Nadolig yn y Newborough Arms yn Bontnewydd. Cafwyd noson hwyliog, ac ar ôl ein bwyd fe gawsom ein diddanu gan y consiriwr Richard Owen. Doedd gan yr un ohonom syniad sut oedd o yn gwneud ei driciau, ond ‘roedd yna ddigon o chwerthin!
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
09.11.22 Cécile Roberts
Diolch i Cécile Roberts am ddod atom heno a'n cynhorthwyo i greu addurniadau hardd gyda blodau. Roedd pawb wedi mwynhau ac roedd yna awyrgylch hyfryd yn y neuadd wrth i bawb ymlacio a sgwrsio wrth roi eu campweithiau at ei gilydd.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
12.10.22 Ann Catrin Evans
Mae Ann Catrin Evans yn adnabyddus drwy Gymru a thu hwnt fel cerflunydd a gemydd sydd yn defnyddio haearn a mhetalau gwerthfawr. Daeth draw i'r gangen i son am ei gyrfa a dangos esiamplau o'i gwaith gan gynnwys gwaith celf brau oedd wedi ei fframio, gemwaith haearn dramatig a cherfluniau mawr pensaernïol. Roedd pawb wedi rhyfeddu ar ei dawn.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r digwyddiad
14.09.22 Owain Roberts
Cynhaliwyd ein noson agoriadol yn Y Cysger ble cawsom berfformiad rhagorol ar y piano gan Owain Roberts. Yn dilyn roedd lluniaeth ysgafn wedi ei baratoi gan y Pwyllgor ac roedd cyfle i gymdeithasu a dal i fyny gyda ffrindiau ar ôl yr haf.
08.06.22 Taith i Lerpwl
Wel am drip da! Tra yn Oriel Lady Lever ym Mhort Sunlight cawsom weld y llun enwog 'Salem' a baentiwyd gan Sydney Curnow Vosper yn 1908. O'r fan yno aethom ar daith ar gwch fferi ar hyd yr afon Mersi gan lanio yn Lerpwl. Roedd cyfle i gael bwyd a siopa yn y ddinas cyn i ni droi am adra ar fws cyfforddus Arvonia. Diolch i'r Loteri Genedlaethol am noddi'r diwrnod, a diolch yn arbennig i Anne Elis, Liz Watkin a Gwyneth Jones am drefnu trip diwedd tymor mor arbennig.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r digwyddiad
12.05.22 Taith Gerdded
Bu rai o aelodau'r gangen ar daith gerdded cyn gorffen yng nghaffi Perthyn, Bethel. Braf oedd cael llongyfarch Bet a Seiriol oedd yn dathlu 60 mlynedd o fywyd priodasol heddiw!
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r digwyddiad
13.04.22 Yoga Cadair
Daeth Wendy Ostler atom i gynnal sesiwn o gadair yoga yn y Neuadd. Gwnaeth fyd o les i ni i gyd cael cyfle i ymestyn, troi a phlygu, ac wedyn ymlacio'n braf.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
04.03.22 Bore Coffi
Roedd cyfarfod o’r gangen yn wahanol y mis yma gan i ni gynnal bore coffi oedd yn agored i holl bentrefwyr Bethel. Cynhaliwyd y bore coffi yn y Neuadd Bentref o 10.00 tan 12.00 fore Gwener y 4ydd o Fawrth. Bwriad y bore coffi oedd rhoi cyfle i’r pentrefwyr o bob oed ddechrau ail gymdeithasu wedi cyfnod hir y Covid. Derbyniodd y gangen grantiau gan Gyngor Gwynedd a Chronfa’r Loteri Genedlaethol at gostau cynnal y digwyddiad.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r digwyddiad
09.02.22 Yr Orsaf, Penygroes
Cynhaliwyd cyfarfod nos Fercher y 9fed o Chwefror ar Zoom. Daeth nifer dda iawn o’r aelodau i wrando ar Ben Gregory a Gwenllian yn son am y datblygiadau cyffrous sydd yn digwydd yn Yr Orsaf ym Mhenygroes.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
12.01.22 Elen Lloyd
Cynhalwyd cyfarfod Ionawr o’r gangen nos Fercher 12 Ionawr ar Zoom. Croesawyd pawb gan y llywydd Anne Elis gan ddymuno Blwyddyn newydd dda i bawb a nodi mor braf oedd gweld cymaint wedi ymuno am y noson.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
09.12.21 Cinio Nadolig
Cawsom groeso cynnes a bwyd da yn Perthyn pan aeth nifer ohonom yno i ddathlu'r Nadolig. Braf oedd gweld ffrindiau a chael dal i fyny gyda newyddion bawb.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
10.11.21 Y Bethel 'Bake Off
'Mae Llinos Angharad Owen yn adnabyddus i amryw o'r dudalen Curo Corona'n Coginio. Daeth draw i'r neuadd atom i drefnu y Bethel 'Bake Off' a buom yn gwylio chwe aelod yn addurno teisennau bach. Roedd teisennau pawb yn hynod o ddel ond Mair Read oedd y 'Star Baker' ar y noson.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
13.10.21 Noson Blodau Gobaith
Buom yn creu Blodau Gobaith yng nghyfarfod Hydref. Roedd grŵp Rhian Hughes ac Anwylyd Jones yn creu blodau o ffelt, grŵp Mair Read yn creu blodau wrth grosio, a grŵp Valmai Owen yn gweu eu blodau. Diolchwyd i’r pedair am rannu eu doniau gyda’r aelodau. Roedd cyfle i sgwrsio a chymdeithasu, a bydd Anne Elis ein Llywydd yn trosglwyddo'r blodau i Aberystwyth iddynt gael eu harddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron flwyddyn nesaf.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
08.09.21 Cyfarfod yn y Neuadd
Cawsom gyfarfod yn neuadd Bethel i gychwyn tymor newydd, a braf oedd clywed Anne Elis ein Llywydd yn croesawu pawb yn ôl yn dilyn cyfyngiadau Covid19. Diolch i Liz Watkin ein Hysgrifennydd am baratoi Asesiad Risg fel bod mesurau yn eu lle er mwyn ein diogelwch. Dyma'r ddwy gyda Gwyneth Jones ein Trysorydd. Mae rhaglen wedi ei pharatoi am y flwyddyn ac mae croeso cynnes i aelodau newydd yn y cyfarfod nesaf ar Hydref 13.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
09.06.21 Taith Gerdded a Te Prynhawn
O'r diwedd cawson gyfarfod - y tro cyntaf ers Mawrth 2020! Mae cyfarfod dros Zoom yn ystod cyfnod Covid19 wedi bod yn dda,ond does dim byd i guro cerdded a sgwrsio gyda hen ffrindiau. Ac i goroni'r cyfan daeth ychwaneg o aelodau i ymuno gyda ni
yng nghaffi Perthyn yma ym Methel am de prynhawn bendigedig!
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
12.05.21 Anwen Iorwerth - ‘Ar Ysgwyddau Cewri’
Estynnodd Anita groeso cynnes i’n gwraig wâdd, Awen Iorwerth sy’n Llawfeddyg Orthopedeg. Ganed Awen yn y Rhondda cyn i’w theulu symud i Rydymain ac yna i Fôn. Derbynniodd ei haddysg gynradd yn Rhydymain a Llandegfan cyn mynd ymlaen i Ysgol David Hughes ac yna i Brifysgol Caerdydd i astudio meddygaeth. Testun sgwrs Awen oedd ‘Ar Ysgwyddau Cewri’.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson.
16.04.21 Gwerfyl Eidda - Gofal Croen
Ein gwraig wadd ym mis Ebrill oedd Gwerfyl Eidda, yn wreiddiol o Ysbyty Ifan, ond erbyn hyn yn byw yn Llanrwst. Mae hi’n swyddog datblygu Clybiau Gwawr MYW, yn gweithio i gwmni Tropic ac yn fam i ddau o blant. Testun ei sgwrs oedd cynnyrch gofal croen ‘Tropic’.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson.
10.03.21 ‘Cwpan a Soser’ Angharad Price
Cyfarfu rhai o’r aelodau ar ‘Zoom’ nos Fercher, 10fed Mawrth. Croesawodd Anita, ein llywydd, pawb i’r cyfarfod a mynegodd pa mor braf oedd gweld ffrindiau pell ac agos. Wedyn treuliwyd orig ddifyr iawn yng nghwmni'r darlithydd ac awdur llwyddiannus Angharad Price a fu'n sôn am ei hysgrif ‘Cwpan a Soser’ o'i llyfr diweddaraf, 'Ymbapuroli'. Gofalodd yr aelodau fod ganddynt baned mewn cwpan a soser tra’n gwrando ar Angharad.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson.
10.02.21 Cyfarfod ar Zoom
Cyfarfu rhai o’r aelodau ar Zoom, nos Fercher, 10fed Chwefror. Croesawodd Anita, ein Llywydd, pawb i’r cyfarfod Zoom. Rhoddodd groeso arbennig i Glenys oedd wedi ymuno â ni o Dde Cymru. ‘Roedd pawb yn falch o weld Glenys ac yn falch o glywed ei bod hi a Jenkin yn cadw’n ddiogel. Anfonwyd cofion a gwellhad buan i Mabel, Eryl a Gwyneth (Llain yr Ardd) sydd yn Ysbyty Eryri.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson.
11.12.20 Neges Nadolig 2020
Gair byr ar drothwy’r Nadolig. Diolch i bawb am dalu eu tâl aelodaeth, mae gennym 35 aelod, un newydd sbon, croeso i ti Ceri o Gaernarfon, yn falch i dy gael yn aelod o gangen Bethel. Llongyfarchiadau i Jen ar enedigaeth ŵyr bach newydd, Morgan Michael Garrod. Yn falch clywed fod Deio, ŵyr Mair y Ddol adref o’r ysbyty ac yn gwella. Yn naturiol danfonwn ein cyfarchion at bawb fu ag achos i ddathlu, ddim yn teimlo gant y cant, yn wynebu triniaeth, neu mewn galar, ar gyfnod fel hyn mae’n anodd dod o hyd i hanesion am ein haelodau.
Gweithgareddau’r tymor nesaf -
Dydd Iau Ionawr 14eg/21ain 2021:
Pawb sy’ n dymuno mynd am dro i gyfarfod o flaen y neuadd ar Ionawr 14eg, os yn glawio, gohirio tan yr 21ain.
1. Tro cylch i’r Felinheli ac yn ôl, cyfarfod am 2.00pm
2. Tro llai, fyny lôn Gwyndy ac yn ôl, cyfarfod am 2.30pm
Ar ddiwedd y daith gall pawb sy’n dymuno fynd am baned a chacen/ te prynhawn i gaffi Perthyn, mae fyny i chi’n bersonol i gysylltu â Perthyn i gadw bwrdd (hyn yn dibynnu ar reolau covid). Yn naturiol byddwn yn cadw at bellter cymdeithasol wrth gerdded ac ar hyn o bryd gallwn rannu bwrdd yn 4.
Nos Iau, Ionawr 14eg 2021
Bydd cyfarfod yn cael ei drefnu dros Zoom, cawn gyfle i sgwrsio ac i drafod arferion ‘croesawu’r flwyddyn newydd.’ I gael mynediad i Zoom bydd Rhian yn danfon e-bost atoch ar Ionawr 13eg, gyda chyfarwyddiadau, mae’n hawdd. Bydd angen llawrlwytho Zoom i’ch ffôn, ipad neu gyfrifiadur.
Cyfarfod Chwefror/ Mawrth/Ebrill 2021 ar Zoom, gwybodaeth i ddilyn.
Gawn ni felly ddymuno NADOLIG LLAWEN i bob un ohonoch a BLWYDDYN NEWYDD DDA, cadw’ch yn ddiogel,
Cofion cynnes,
Rhian, Liz, Eleri ac Anita
20.11.20 Neges gan Tegwen Morris (Cyfarwyddwr Cenedlaethol)
Carwn ddiolch o galon i chi fel swyddogion ac fel aelodau am eich cefnogaeth i waith ein mudiad eleni. Mae wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd, ond trwy gydweithio rydym wedi llwyddo i gynnal nifer fawr iawn o weithgareddau a digwyddiadau. Mae’r diolch cyntaf i bawb sydd wedi "Ffonio Ffrind" neu anfon gair at eraill, yn ail i bawb sydd wedi arddangos yr enfys fel arwydd o ddiolchgarwch ac arwydd o obaith. Ac yn sicr carwn ddiolch i bawb sydd wedi bwrw ati i greu "Blodau Gobaith" mae'r lluniau dwi wedi gweld yn rhyfeddol - ac os fydd yn ddiogel fe fydd yna gasgliadau o flodau yn lleol ar Fawrth 1af.
Neges gan Tegwen Morris (Cyfarwyddwr Cenedlaethol) - cliciwch yma
02.11.20 Neges Bwysig
Helo Bawb, Gair bach gan obeithio fod pawb yn cadw’n iawn yn ystod y cyfnod anodd sy’n ein hwynebu. Yn ôl yr arfer mae angen i ni dalu ein tâl aelodaeth. Penderfynodd y pwyllgor y byddem yn rhoi gostyngiad o £18 i £14 eleni. A fyddech cystal â rhoi’r arian mewn amlen gyda’ch enw a’i roi drwy’r drws i Eleri, Rhian, Liz neu i mi erbyn Rhagfyr 1af os gwelwch yn dda. Gofynnir yn garedig i chi drosglwyddo’r wybodaeth yma i ffrind sy’n aelod ond ddim yn defnyddio’r we.
Os na fyddwn yn medru cyfarfod gyda’r nos, yna gobeithiwn drefnu gweithgareddau yn yr awyr iach, e.e. taith gerdded yn ystod y dydd i groesawu’r flwyddyn newydd. Cewch fwy o wybodaeth yn agosach i‘r flwyddyn newydd. Yn y cyfamser cymrwch ofal, a chofion cynnes at bob un o’n haelodau. Os oes unrhyw un ohonoch angen cymorth yna cysylltwch.
Anita
05.10.20 Gohebiaeth Mis Hydref
Gan nad ydym yn gallu cyfarfod ar hyn o bryd dyma rannu y gohebiaeth sydd wedi dod i'r gangen:
Neges gan Tegwen Morris (Cyfarwyddwr Cenedlaethol) yn cynnwys manylion Podlediau - cliciwch yma
Poster Ffair Aeaf 2020 - cliciwch yma
Cystadleuaeth Cynllunio Carden Nadolig 2020 - cliciwch yma
Creu Blodau Gobaith - cliciwch yma
18.08.20 Pwyllgor Yn Cyfarfod
Cyfarfu pwyllgor presennol y gangen mewn gardd. Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith, i Mair R am arwain mewn modd hamddenol a ddifyr, i Jen a Mair W am eu gwaith trefnu gofalus fel ysgrifenyddesau ac i Nan edrych ar ôl ein cyllid.
Penderfynwyd mai doeth oedd peidio â chyfarfod dros dymor yr hydref gan drefnu rhaglen ddifyr o fis Ionawr ymlaen. Edrychwn ymlaen felly at sgwrs a phaned ar yr ail nos Fercher yn Ionawr.
Dymunwn arferiad buan i bawb na fu’n dda eu hiechyd gan longyfarch ieuenctid y pentref ar ganlyniadau arholiad. Pob dymuniad da i drigolion y pentref yn ogystal â’n haelodau wrth i ni ddod allan o’r cyfnod cloi.
Mis Mehefin ac rydan ni’n dal dan glo! Pawb yn parhau i grwydro’n lleol a gweiddi sgwrsio o bell. Gawsom ni ddim mynd am Nefyn i orffen y tymor, ond, wedi’r holl dywydd braf, doedd hi fawr o dywydd trip neithiwr. Sawl un yn diolch am y glaw i ni gael sbario rhoi dŵr i’r ardd.
Tipyn o fraw clywed fod Liz, PenParc, wedi dal yr haint ac yn Ysbyty Penrhos Stanley ers rhyw wythnos. Yn ôl a ddeallaf, tydy hi ddim yn dioddef yn wael oddi wrtho a’n gobaith i gyd ydy y caiff hi ddod adra reit handi. Brysia wella Liz.
Trist oedd clywed hefyd fod Joyce Roberts, Felinheli, wedi’n gadael. Fu na erioed gymaint o chwerthin na phan oedd Joyce yn aelod o’r gangen! Coffa da amdani a’n cydymdeimlad llwyraf efo Anwen a’r teulu.
Ar dymor arferol byddai swyddogion eleni wedi diolch i chi gyd am eich cwmni yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, ac wedi trosglwyddo’r awenau i dîm flwyddyn nesa yn y swper wedi’r trip diwedd tymor. Mae swyddogion flwyddyn nesa eisoes wedi cytuno i gymryd at eu swyddi ac rydym ni am sticio efo’r un pwyllgor tan y bydd yn bosib i ni gyfarfod eto.
Mae wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn! Diolch i chi gyd am eich cyfeillgarwch a’ch cefnogaeth, yn arbennig dros y tri mis diwethaf yma. Edrych ymlaen i gael cyfarfod go iawn rywbryd tymor nesa.Efallai y gallwn fynd am dro efo’n gilydd gan fod cynifer ohonom wedi dod i adnabod llwybrau’r cylch yn well yn ystod y cyfnod clo. Meddyliwch, rhes hir o Ferched y Wawr, gwallt gwyn, yn nadreddu’i ffordd rownd Bro Bethel!
Daliwn i gredu - gan ddyheu i’r hen haul yna ddod ar y bryn go iawn eto,
Mair a’r swyddogion
Llun: Anita Owen, Llywydd 2020-21
Helo, sut hwyl sy ar bawb? Sawl wythnos sy wedi mynd heibio ers y bwletin diwethaf? Os ydych chi rwbath tebyg i mi rydych wedi hen golli cownt! Gawsom ni ddim mynd i drio chwarae croce yn Llanfairfechan a fydd yna ddim trip i Nefyn. Gobeithio cawn ni gystal tywydd pan fydd ein traed yn rhydd i grwydro i'r llefydd yma eto.
Mae'n gysur ein bod i gyd i weld yn cadw reit iach ond mae rhai wedi gorfod mynd tua'r ysbyty'n ddiweddar serch hynny. Falch iawn na fu'n rhaid i Lisabeth, Pen Parc aros yn yr ysbyty'n rhy hir wedi'r pwl gafodd yn ddiweddar ac iddi ddod yn ôl adra reit handi. Bu Cecile yn Ysbyty Gwynedd am dridiau efo Dylan, y mab hynaf, ddechrau'r mis hefyd. Cafodd dynnu ei bendics ar frys ac mae wedi dod ato'i hun yn dda iawn erbyn hyn.
Mae'n bwrw glaw felly does dim rhaid teimlo'n euog am beidio mynd i'r ardd heddiw. Beth am greu ychydig o flodau ar gyfer enfys o flodau'r mudiad - unrhyw grefft. Dyma ychydig wnes i ddechrau'r flwyddyn, rhaid mynd ati i wneud mwy rwan yn lliwiau'r enfys.
Hwyl, Mair.
Sut hwyl bawb? Ychydig o newyddion da i chi, a Duw a ŵyr ein bod ni angen dipyn o hwnnw dyddiau yma!
Mae Mabel yn nain, unwaith eto! Cyrhaeddodd Macsen, mab bach (plentyn cyntaf) i Gwenan a Robin, yn Ysbyty Gwynedd fore Llun. Gobeithio y cewch ddod adra reit handi i Fethel. Rydan ni gyd yn edrych ymlaen i weld y goets yn mynd heibio pan fydd Macsen yn mynd am dro rownd y pentref.
Wel, mae yna arddio wedi bod yn digwydd rownd y lle yma! Welais i erioed cyn lleied o chwyn a gymaint o hau a phlannu. Ella mai sioe flodau a chynnyrch gardd fydd ein cyfarfod cyntaf o'r tymor newydd! Jam a Chutney fydd hi erbyn mis Medi a phawb yn holi Eleri be mae'r hen lyfr coginio ddaeth hi ar ei draws yn ei awgrymu.
Daeth neges o Aberystwyth yn son am gynllun sy gan y mudiad i greu blodau lliwiau'r enfys, a'u casglu i gyd at ei gilydd i wneud arddangosfa o enfys fawr i ddathlu pan fydd yr aflwydd yma wedi mynd heibio. Felly cerwch ati i wau, gwnïo, crosio, neu greu blodau allan o unrhyw ddefnyddiau sy gennych chi pan fyddwch yn y tŷ. Blodau a garddio oedd y thema ar gyfer y Sioe eleni felly ella bod rhai ohonoch chi wedi bod wrthi'n barod yn meddwl am syniadau.
Helo ledis, Sut ydach chi'n dygymod efo'r caethiwed mawr yma? Mae rhywbeth reit braf mewn cael aros adra a gwneud bob dim wrth ein pwysau - dim rhuthro yma a thraw! Rydan ni'n lwcus iawn o'n cartrefi clud a'n gerddi ac yn cael tywydd braf i'w mwynhau. Gawsom ni ddim cyd-greu cardiau Pasg dan arweiniad Nan ond mae nifer ohonoch wrthi'n creu fel slecs a'ch campweithiau i'w gweld ar y dudalen FB Curo'r Corona'n Crefftio. Roedd picnic wedi wau Rhian yn tynnu dŵr o'r dannedd!
Mae Rita a'r teulu wedi cael cyfnod gofidus iawn dros yr wythnos ddiwetha efo Gareth, gŵr Manon, wedi bod yn yr ysbyty yn dioddef o effeithiau'r firws felltith yma. Daeth adref yn ôl ddoe, diolch byth, a rydym yn dymuno adferiad iechyd buan iddo fo. "Gan bwyll rwan GWG - mi ddoi di dow dow, mae yna dîm o nyrsys da yn gofalu amdanat ti!" Mae'r pwyllgor yn dymuno Pasg cartrefol, gwahanol iawn i'r arfer ond hapus serch hynny i chi gyd. Dim gormod o'r wyau siocled neis na!!
Helo ferched, neu efallai byddai Meudwyesau'r Wawr yn well enw dyddiau yma! Gobeithio fod pawb yn gyfforddus gartre, gallai fod llawer gwaeth arnom. Cofiwch unrhyw broblem rhannwch hi efo'ch cyd-aelodau o MYW Bethel a dwi'n siŵr bydd gan ryw un ohonom ryw fath o ddatrysiad i'w gynnig. "Os mêts, mêts" ynde genod.
Chydig o newyddion da i'n cadw ni i fynd.
Croeso mawr adra'n ôl i Anne Elis a Mair Price. Diolch eich bod adra'n saff o'r diwedd o'ch antur yn Viet-Nam. Braf iawn cael cysgu yn eich gwely bach eich hun eto dwi'n siŵr.
Llongyfarchiadau i Mair Williams ar ddod yn Nain unwaith eto. Ganwyd Merch fach, Cadi Alis, i Owain Siôn ag Alison i lawr yn Abertawe. Brysied y dydd y cei ei magu go iawn yn dy freichiau.
Mi bostiwn ni eto wythnos nesa - felly rhowch wybod am unrhyw newyddion. Daliwch i fynd genod a daliwch i gredu.
Hwyl, Y swyddogion
(Llun o'r archif - ymweliad i Oriel Môn Haf 1992)
20.03.20 Canslo Cyfarfodydd
Mae cyfarfodydd Ebrill, Mai a Mehefin wedi eu canslo oherwydd y coronafeirws a byddwn mewn cysylltiad pan mae'r sefyllfa wedi gwella. Cadwch yn ddiogel ac edrychwn ymlaen at eich gweld pan fydd yr hen feirws yma wedi ein gadael.
Aethom ar ymweliad i Halen Môn eleni i ddathlu Gŵyl Ddewi. Roedd y sgwrs gan Eluned a'r daith o amgylch yr adeilad yn hynod o ddiddorol, ac roedd cyfle i wario yn y siop chwaethus hefyd. Wedyn aethon ymlaen i'r Anglesey Arms ym Mhorthaethwy ble cawsom ymlacio a sgwrsio dros bryd gwerth chweil o fwyd.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
12.02.20 Vicki Hinde - Sebonau Prydferth
Roedd arogl bendigedig yn festri Capel Cysegr pan ddaeth Vicki Hinde draw i ddangos i ni sut i wneud sebon, ac i sôn am ei busnes ym Meddgelert "The Soap Mine". Roedd llawer wedi manteisio ar y cyfle i brynu un o'i sebonau hardd, ac os bydd eisiau gallwch brynu mwy yn Storiel, Bangor neu ar-lein drwy ei gwefan www.thesoapmine.co.uk
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
08.01.20 Marged Tudur - 'Aros mae'r mynyddau mawr'
Ar gychwyn degawd newydd sbon daeth Marged Tudur draw i’r gangen i sôn am ei thaith i Sagarmatha (enw lleol am 'Base Camp' Everest). Mae'n amlwg ei fod wedi bod yn antur a hanner, ac roedd pawb wedi mwynhau'r cyflwyniad bywiog a diddorol.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
Eleni aethom draw i westy'r Victoria yn Llanberis i ddathlu'r Nadolig ble roedd y bwyd yn flasus a'r cwmni'n hwyliog. Llongyfarchiadau i Elen Elis ar ennill y gystadleuaeth limrig ac i Anne Elis am ei brawddeg dymhorol gyda phob gair yn dechrau efo B - y ddwy yn wir haeddu'r 'Goron'! Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn 2020!
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
13.11.19 'Dolig yn Dwad' - Trefnu Blodau Gyda Cecile Roberts
Yng nghyfarfod Tachwedd cafodd yr aelodau ymlacio yn braf wrth drefnu blodau tymhorol gyda Cecile Roberts. Roedd pawb wedi dod â’u blodau eu hunain ynghyd â sisyrnau addas ac roedd festri Capel Cysger yn lliwgar ac yn llawn bwrlwm wrth i bawb fynd ati i greu addurniadau deniadol cyn mynd a hwy adref i’w dangos.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
08.11.19 Cwis Hwyl Cenedlaethol
Aeth 18 tîm draw i Pant Du i gymryd rhan yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol. Roedd dau dîm o gangen Bethel - a daeth y ddau dîm yn gydradd drydydd! Llongyfarchiadau mawr i gangen Caernarfon ddaeth yn gyntaf yn Arfon - a thrwy Gymru!
Cliciwch yma i weld y lluniau
09.10.19 Manon Lloyd Williams - Sgam a Sbam!
Daeth Manon Lloyd Williams o'r Gwasanaeth Safonau Masnachol draw i'r gangen i rannu gwybodaeth bwysig ac amserol iawn. Cododd ymwybyddiaeth o sgamio a sgamwyr a phwysleisiodd mor bwysig oedd i ni rannu gwybodaeth am ymdrechion i'n sgamio ar y ffon, drwy'r cyfrifiadur neu ar stepen ein drws. Roedd neges Manon yn drylwyr ac yn hawdd i'w deall - fel hyn gall lai ohonom ddisgyn am y sgam.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
Cawsom noson gwerth chweil yng nghwmni'r gantores adnabyddus Meinir Gwilym. Mae nifer o aelodau yn mwynhau'r rhaglen 'Garddio a Mwy' a gyflwynir ganddi, a gwibiodd yr amser heibio yn gwrando arni'n canu ac yn son sut y dechreuodd ei diddordeb mewn garddio. Diolch i'r pwyllgor am ddarparu lluniaeth blasus i ddilyn.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
11.09.19 Noson Agoriadol yn Festri Capel Cysegr!
Cynhelir noson agoriadol tymor 2019/20 noson agoriadol am 7:30yh ar nos Fercher Medi 11eg. Trefn y noson fydd adloniant yng ngofal y gantores a'r gyflwynwraig dalentog Meinir Gwilym gyda lluniaeth ysgafn dros sgwrs i ddilyn. Mae croeso i aelodau hen a newydd.
Byddwn yn cychwyn y cofrestru am 7:15yh a'r tal aelodaeth eleni fydd £18 sy'n cynnwys pedwar rhifyn o gylchgrawn Y Wawr.
Am fwy o wybodaeth - swyddogion@mywbethel.org
Wel mae yna ferched sy'n gwybod beth yw steil yn aelodau o MYW Bethel! Ddoe ar gae'r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst fe dderbyniodd Anwylyd sash gan yr enwog Huw Ffash! Llongyfarchiadau Anwylyd!
Dydd Sadwrn 15/06/19 cawsom drip pen tymor gwerth chweil! Roedd cyfle i gael cinio bach ym Metws y Coed cyn mynd ymlaen i Ysbyty Ifan i dreulio dwy awr ddifyr yng nghwmni Ela Jones, Meistres y Gwisgoedd. Gorffennwyd y diwrnod drwy gymdeithasu dros fwffe yng ngwesty'r Waterloo ym Metws y Coed.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
Dymuna Gwenan Roberts y Llywydd am eleni ddiolch yn fawr i aelodau’r pwyllgor am eu cefnogaeth drwy’r flwyddyn i sicrhau rhaglen ddifyr. Diolch arbennig i Mair Price am ei gwaith trylwyr fel ysgrifennydd ac i Cecile Roberts am ei gwaith fel Trysorydd. Diolch i Jennifer Roberts am gynnal y wefan a’r gwefannau cymdeithasol Facebook a Twitter. Diolch hefyd i’r aelodau i gyd am gefnogi drwy gydol y flwyddyn. Bob lwc i Mair Read a phwyllgor flwyddyn nesaf!
Dyddiad lwcus y dyddiadur eleni oedd 14eg Gorffennaf a’r person a ddaeth agosaf at y dyddiad ydi Hywel Edwards Dinmael a ddewisodd Gorffennaf 21ain. Fe fydd yn derbyn pecyn o nwyddau Pant Du.
09.05.19 Noson Elusennol - Ffasiwn Steil!
Wel am noson hwyliog - noson elusennol 'Ffasiwn Steil!'. Y dasg oedd dod o hyd i'r wisg orau am £10 neu lai mewn siop elusen. Drwy weithio mewn parau cawsom bum gwisg gofiadwy gyda Falmai yn cipio'r clod am y fargen orau! Diolch i Meirwen Lloyd ac Anne Elis am feirniadu.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
03.05.19 Llwyddiant Mewn Cystadleuaeth Bowlio Deg
Nos Wener, Ebrill 26ain daeth tîm bowlio deg Cangen MYW Bethel yn drydydd mewn cystadleuaeth yng Nglasfryn, ger Pwllheli. Llongyfarchiadau mawr i Mary Wyn Jones, Mary Evans, Mair Price, Falmai Owen, Anne Elis ac Eleri Warrington a phob lwc iddynt yn y rownd nesaf ym Mhrestatyn.
10.04.19 Trefnu Blodau gyda Cecile Roberts
Roedd festri Y Cysegr yn arogli'n hyfryd heno pan aeth yr aelodau ati i drefnu blodau o dan arweiniad ein trysorydd Cecile Roberts. Roedd yn gyfle i ymlacio a chymdeithasu ac roedd pawb yn falch iawn o'u haddurn bwrdd ar y diwedd. Diolch yn fawr Cecile.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
13.03.19 Dathlu Gŵyl Ddewi - Pant Du
Mae gwinllan a pherllan Pant Du yn fusnes llewyrchus sydd yn gwerthu gwin, seidr a sudd afal yn ogystal â ddwr ffynnon. Cawsom noson gwerth chweil yn gwledda ac yn gwrando ar sgwrs hynod ddiddorol y perchennog Richard Huws.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
13.02.19 Crwydro Nepal yng nghwmni Morfudd Thomas
Daeth Morfudd Thomas draw i'r gangen i ddangos lluniau ac i adrodd hanesion am ei hymweliadau i wlad Nepal. Roedd y lluniau a'r sgwrs yn hynod ddiddorol ac roedd pob un ohonom wedi mwynhau'r sgwrs yn fawr iawn.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
09.01.19 Gwen Davies - Iechyd y llygad – Cymru a’r trydydd byd
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
12.12.18 Cinio Nadolig
Dathlwyd y Nadolig yng Ngwesty'r Celt yng Nghaernarfon eleni. Cawsom bryd blasus, cwis hwyl a chyfle i sgwrsio ac ymlacio ynghanol prysurdeb y paratoadau. Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar Ionawr 9fed
2019!
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
14.11.18 Angharad Gwyn - Cwmni Adra
Daeth Angharad Gwyn draw i'r gangen i sôn sut y dechreuodd ei chwmni Adra yn 2007. Gwerthu ar-lein oedd i gychwyn ond bellach mae ganddi siop ym Mharc Glynllifon. Roedd yn noson hynod o ddiddorol ac yn bleser cael golwg ar rai o'r nwyddau mae'n gwerthu. Cliciwch yma i fynd i'w gwefan i weld mwy
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson.
Cliciwch yma i weld y lluniau
09.11.18 Cwis Hwyl Cenedlaethol Merched Y Wawr
Aeth Gwenan Roberts, Mair Read, Meira Evans a Jen Roberts draw i'r Meifod yn Bontnewydd ar nos Wener Tachwedd 9fed i gymryd rhan yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol. Roedd y tim yn ail ar hanner amser, ac yn bedwerydd ar ddiwedd y noson. Mwynhawyd y noson yn fawr iawn.
10.10.18 Alwyn Jones o Ambiwlans Awyr Cymru
Alwyn Jones o elusen Ambiwlans Awyr Cymru oedd ein gwr gwadd mis yma. Difyr iawn oedd clywed sut y cychwynnodd yr elusen ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2001 ac erbyn hyn mae pedwar hofrennydd a pum cerbyd ymateb cyflym ar gael o 8yb tan 8yh bob dydd o'r wythnos. Mae'n wasanaeth prysur gyda'r hofrenyddion wedi eu galw allan 201 o weithiau ym mis Awst eleni yn unig!
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
12.09.18 Dylan a Neil
Cawsom noson o adloniant gwerth chweil yng nghwmni Dylan a Neil o'r Felinheli. Mae'r ddau yn adnabyddus iawn drwy Gymru ac roedd y canu yn dda a'r jôcs yn ddoniol! Wedyn cafodd bawb gyfle i gymdeithasu dros baned - diolch o galon i'r pwyllgor am baratoi'r lluniaeth.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
06.09.18 Nodyn Atgoffa
Cynhelir noson agoriadol tymor 2018/19 yn Festri Capel Cysegr am 7:30pm ar nos Fercher Medi 12fed. Trefn y noson fydd adloniant ysgafn yng ngofal y ddeuawd enwog Dylan a Neil o'r Felinheli gyda lluniaeth ysgafn dros sgwrs i ddilyn. Mae croeso i aelodau hen a newydd. Byddwn yn cychwyn y cofrestru am 7:15pm.
Am fwy o wybodaeth gellir cysylltu â Gwenan Roberts y llywydd (01248 671022) neu Mair Price (ysg.) 01286 672975
13.06.18 Ymweliad i Storiel
Cafwyd noson hwyliog a diddorol i orffen ein tymor pan aethom ar drip i Storiel ym Mangor. Roedd gwledd o bethau i'w gweld yno a llawer i stori fach ddifyr yn gefndir i'r arteffactau. Ymlaen a ni wedyn i westy'r Victoria ym Mhorthaethwy ble cafwyd cyfle i gymdeithasu, i ddiolch i'r swyddogion a'r pwyllgor, ac i groesawu ein Llywydd newydd Gwenan Roberts.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
11.05.18 Taith Diwedd Tymor
Bydd bws ein taith diwedd tymor yn cychwyn o’r gwaelod am 6.00yh, Nos Fercher y 13 o Fehefin - arian a dewis bwyd i Rhian os ydych heb wneud os gwelwch yn dda.
09.05.18 Carol Llywelyn - Ffatri Jam
Mae'n siwr fod llawer ohonoch wedi gweld cynnyrch 'Welsh Lady' mewn siopau, sioeau a ffeiriau bwyd. Heno cawsom hanes sut y gwnaeth y busnes teuluol yma o'r Ffôr gychwyn a thyfu i fod yn fusnes llwyddiannus sy'n allforio ar draws y byd. Roedd Carol yn brysur iawn ar ddiwedd y noson yn gwerthu amrywiaeth o'u cynnyrch.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
11.04.18 Hugh Hughes -Ysbrydion!
Roedd y gynulleidfa yn gwrando'n astud iawn pan ddaeth Hugh Hughes atom i adrodd storiau am ddigwyddiadau heb esboniad ac am ysbrydion a welwyd yn yr ardal dros y blynyddoedd. Noson ddifyr iawn.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
14.03.18 Dathlu Gŵyl Ddewi - Gwesty Y Castell, Caernarfon
Cawsom noson hwyliog iawn yn dathlu Gŵyl Ddewi yng ngwesty Y Castell ar sgwâr Caernarfon. Daeth Richard Owen y consuriwr i'n difyrru ac roedd pawb yn rhyfeddu at ei ddawn.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
14.02.18 Dr Siôn Jones - Y Degwm
Daeth Dr Siôn Jones draw i'r gangen i sôn am ryfela Y Degwm, a diddorol iawn oedd clywed am rôl rai o ferched y cyfnod yn y gwrthryfeloedd.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
10.01.18 Brethyn Cartref
Cawsom noson gartrefol iawn yng nghwmni tair o'r gangen, sef (o'r chwith i'r dde) Mair Price, Gwenan Roberts a Cecile Roberts. Buont yn rhannu atgofion a phrofiadau o Bordeaux, Calcutta a Sir Feirionydd!
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
13.12.17 Cinio Nadolig
Dathlwyd y Nadolig yn y Clwb Golff yng Nghaernarfon eleni. Cawsom bryd blasus, cwmni difyr ac adloniant hwyliog wedi ei drefn gan y pwyllgor. Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar Ionawr 10fed 2018!
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
07.12.17 Bws i'r Cinio Nadolig
Bydd y bws i'r cinio Nadolig yn gadael Capel Cysegr am 6.45 yr hwyr Nos Fercher, yn codi yng nghanol y pentref ac yn yr arosfa bws yn y gwaelod.
22.11.17 Bore Coffi Yn Codi £590.00
Diolch i bawb am helpu i wneud y bore coffi (a gynhaliwyd ar Dachwedd 17) yn llwyddiant. Codwyd £590.00 tuag at Gronfa Calonnau Bethel sy'n codi arian i gael dau diffibriliwr i'r pentref. Dywedodd Liz Watkin, Llywydd y gangen, "Dwi'n falch iawn fod MYW wedi gallu gwneud cyfraniad mor dda at gronfa fydd yn prynu rhywbeth o fudd i'r holl pentref".
Cliciwch yma i weld y lluniau
10.11.17 Cwis Hwyl Cenedlaethol
Aeth deuddeg ohonom i gymryd rhan yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol yn y Meifod, Bontnewydd ar nos Wener Tachwedd 10fed. Roedd tri tim ohonom i gyd, a phawb wedi gwneud yn dda ond heb ddod i'r brig y tro yma.
Cliciwch yma i weld y lluniau
08.11.17 Madarch Gwyllt a llên gwlad - Dr Endaf ap Ieuan
Daeth Dr Endaf ap Ieuan atom i ddangos a thrafod madarch Gwyllt. Cawsom noson addysgol a ddiddorol iawn.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
03.11.17 Nodyn Atgoffa - Cinio Nadolig
Cofiwch ddod ac arian a dewisiadau Swper Nadolig (Clwb Golff Caernarfon) gyda chi i gyfarfod Tachwedd 8fed pan fydd Dr. Endaf ap Ieuan yn rhoi sgwrs ar Fadarch gwyllt a llen gwlad.
01.11.17 Bore Coffi - elw at Gronfa Calonnau Bethel
Yn Neuadd Bethel
Bore dydd Gwener 17eg o Dachwedd am 10 o’r gloch
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
11.10.17 Yr Ysgwrn - Sian Griffiths
Cawsom noson ddifyr yng nghwmni Naomi Jones yn sôn am yr holl newidiadau sydd wedi digwydd yn Yr Ysgwrn.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
13.09.17 Noson Agoriadol yng nghwmni Ann Hopcyn a Bill Evans
Cawsom noson agoriadol gwerth chweil yng ngwmni talentog y gwr a gwraig Ann Hopcyn a Bill Evans. Roedd cyfle i ganu ac i ddyfalu cyn cymdeithasu dros baned a lluniaeth blasus.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
08.09.17 Nodyn Atgoffa - Noson Agoriadol
Cynhelir noson agoriadol tymor 2017/18 yn Festri Capel Cysegr am 7.30 y.h. ar nos Fercher Medi 13. Cawn adloniant gan Ann Hopcyn a'i gŵr Bil Evans. Bydd cyfle am sgwrs a lluniaeth ysgafn i ddilyn. Croeso cynnes i aelodau newydd a chyn aelodau.
Am fwy o wybodeth cysylltwch â'r llywydd Lis Watkin ar 01248 671243 neu'r ysgrifennydd Eirlys Williams ar 01248 670088
30.08.17 Cinio Dathlu'r Aur - Gorffennaf 8fed
Criw MYW Bethel yng nghinio Dathlu'r Aur, Rhanbarth Arfon yng Ngwesty'r Celt Caernarfon
Cliciwch yma i weld y lluniau
03.07.17 Adroddiad Mis Mehefin
Daeth gweithgareddau’r flwyddyn eleni i ben gyda Dathlu’r Aur ein cangen.
Cafwyd trip i ben yr Wyddfa ar Fehefin 17eg gyda 35 ohonom yn cychwyn ar y trên 2 o’r gloch. Clywyd seiniau o ‘awn ar y trên bach’ yn atsain o’r trên wrth iddi wneud ei ffordd draw at y Ceunant Mawr a’r teithwyr eraill ddim yn siwr iawn beth oedd yn mynd ymlaen! Hwyl a sbri go iawn a phawb yn brysur hefo’i camerau yn gwneud yn fawr o’r goygfeydd godidog. Ni faswn wedi cael gwell diwrnod i fynd os byddai wedi bod yn bosib ei ordro.
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad i gyd
Cliciwch yma i weld lluniau Dathlu'r Aur, Cinio'r Llywydd Rhanbarth y Gogledd
Cliciwch yma i weld lluniau Dathlu'r Aur, Taith I Ben Yr Wyddfa
Cliciwch yma i weld lluniau Arddangosfa yn y Parc
17.06.17 Dathlu'r Aur - Taith I Ben Yr Wyddfa
Cawson dywydd bendigedig i fynd ar daith i fyny'r Wyddfa ac roedd pawb wedi gwirioni gyda'r golygfeydd o'n gwmpas. I ddilyn cawsom de prynhawn gwerth chweil yng ngwesty'r Fictoria, Llanberis.
Diolchwn i Gronfa'r Loteri am grant tuag at y diwrnod.
Cliciwch yma i weld y lluniau
14.06.17 Trip Dathlu'r Aur
Bydd trip Dathlu'r Aur, i fyny'r Wyddfa dydd Sadwrn nesaf sef yr 17eg o Fehefin.
Disgwylir i bawb gyfarfod wrth y tren erbyn 1.45 y pnawn, a rhoddwyd caniatad i barcio ym maes parcio'r Fictoria gan byddwn yn mynd yno i gael te wedi'r daith.
Mae croeso i bawb ddod a'i bagiau MYW gyda hwy ac i wisgo rhywbeth aur os dymunir.
Os oes unrhyw un angen lifft i Lanberis cysylltwch a Gwyneth, Anne neu Mary Wyn.
Edrychwn ymlaen at daith a diwrnod bythgofiadwy.
10.05.17 Cymdeithasu
Yn anffodus methodd ein gwraig wadd Carol Llewelyn ddod atom oherwydd gwaeledd ond cawsom noson hwyliog yn cymdeithasu.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
05.04.17 Cadw’n Iach a Heini - Debbie Jones
Daeth Debbie Jones atom i sôn am bwysigrwydd cadw'n heini a chawsom sesiwn hwyliog yn gwneud ymarferion cardiofasgwlaidd ac ymarferion ar gyfer gwella cryfder a balans. Roedd pawb wedi mwynhau cymryd rhan yn fawr iawn.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
03.04.17 Cyfarfod Nesaf
Cynhelir y cyfarfod nesaf yn festri Capel Cysegr am 7.30 nos Fercher y 5ed o Ebrill
Bydd noson Cadw’n Iach a Heini, dan law Debbie Jones ac awgrymir i bawb ddod ag esgidiau fflat gyda hwy.
Estynnir croeso cynnes i aelodau hen a newydd.
17.03.17 Dathlu 50 - Prosiect Treftadaeth Merched y Wawr
Mary a Gwyneth yn cyflwyno eitemau Bethel dros y 50 mlynedd i
Alaw Roberts, y Swyddog Prosiect
08.03.17 Dathlu Gŵyl Dewi
Ar ôl pryd blasus yng nghlwb criced Bangor cawsom ein difyrru gan Magi Tudur wrth i ni ddathlu Gŵyl Dewi eleni. Roedd pawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
08.03.17 Arian Loteri
Dyma Mary Wyn Jones (Ysgrifennydd), Gwyneth Jones (Llywydd) ac Anne Elis (Trysorydd) gyda'r siec a dderbyniwyd gan Y Loteri ar gyfer dathliadau 50 mlynedd Merched Y Wawr.
08.02.17 Iechyd Merched gyda Sian Hughes
Braf oedd croesawu Sian Hughes yn ôl i'r gangen i sôn am Iechyd Merched a phwysigrwydd edrych ar ôl ein hunain fel ein bod yn cadw'n gryf yn gorfforol ac yn feddyliol. Hefyd cafodd bawb fag i ddathlu fod Merched Y Wawr yn dathlu hanner can mlynedd eleni.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
06.02.17 Cyfarfod Nesaf
Cynhelir y cyfarfod nesaf yn festri Capel Cysegr am 7.30 nos Fercher yr 8ed o Chwefror.
Bydd y noson dan law Sian Hughes ac estynnir croeso cynnes i aelodau hen a newydd.
23.01.17 Bowlio Deg Ranbarth Arfon 2016 - 2017
Newyddion da!
Mi wnaeth tim Bethel ennill y Bowlio Deg Rhanbarth Arfon nos Wener 20fed Ionawr. Nid yn unig hynny ond Falmai oedd wedi cael y sgor uchaf o 112. Bydd y rownd nesaf sef Rhanbarthau Gogledd Cymru ym mis Mehefin.
Ymlaen a ni!
Cliciwch yma i weld Tysysgrif y gangen
Cliciwch yma i weld Tysysgrif Falmai
Cliciwch yma i weld y lluniau
11.01.17 Ymwybyddiaeth Ofalgar dan ofal Gwennan Roberts
Ar ôl cyflwyniad hynod ddiddorol gan Gwennan Roberts, bu cyfle i bawb i ymlacio yn braf ac ymarfer sgiliau Ymwybyddiaeth Ofalgar.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
14.12.16 Dathlu'r Nadolig yng ngwesty y Fictoria, Llanberis
Aethom draw i westy'r Fictoria yn Llanberis i ddathlu'r Nadolig ble cawsom fwyd da, cwmni difyr a hwyl yn ystod y cwis 'Siân a Siân'.
Nora a Glenys oedd yn adnabod ei gilydd orau a llongyfarchiadau iddynt am ennill beiro Dathlu'r Aur Merched Y Wawr.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
05.12.16 Cinio Nadolig Merched y Wawr
Bydd y bws ar gyfer y cinio Nadolig yn gadael Tan y Buarth am 6.45 yr hwyr ar nos Fercher y 14eg o Ragfyr ac yn codi yn y mannau arferol yn y pentref.
Os oes unrhyw broblem cysylltwch a Mary W Jones
09.11.16 Danteithion O'r Ddôl
Diolch yn fawr i Eirlys Williams, Nan Rowlands a Mary Jones am ein hysbrydoli gyda detholiad o ddanteithion ar gyfer y Nadolig. Mae'n siŵr o fod yn Nadolig blasus ym Methel eleni!
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
Ryseitiau:
Relish Llugaeron ac Oren / Tryffls - cliciwch yma
“Rillette” Twrci/Iâr / Paté Caws / Briwgig (Mincemeat) / Teisennau Nadolig Bach - cliciwch yma
12.10.16 Noson gyda'r Newyddiadurwr Tweli Griffiths
Cawsom noson ddiddorol dros ben yng nghwmni Tweli Griffiths ac i ddilyn cawsom luniaeth ysgafn baratowtd gan y Pwyllgor.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
14.09.16 Noson yng nghwmni 'Y Ddwy Sian'
Cawsom lond trol o hwyl yng nghwmni 'Y Ddwy Sian' ! Dyma ddechrau gwych i dymor newydd.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
07.09.16 Nodyn Atgoffa - Noson Agoriadol
Cynhelir noson agoriadol tymor 2016 yn Festri Capel Cysegr am 7:30pm ar nos Fercher Medi 14eg. Trefn y noson fydd adloniant ysgafn yng ngofal 'Y Ddwy Sian' a lluniaeth ysgafn dros sgwrs i ddilyn. Mae croeso i aelodau hen a newydd. Byddwn yn cychwyn y cofrestru am 7:15pm.
Am fwy o wybodaeth gellir cysylltu â Gwyneth Jones y Llywydd (01248 670312) neu Mary W. Jones (ysg.) ar 01248 670115.
Edrychwn ymlaen i'ch croesawu gan obeithio am dymor llewyrchus arall i'r gangen.
22.06.16 Ymchwil y Galon Cymru
Annwyl aelodau,
Trosglwyddwyd £200 gan y gangen i gronfa ymchwil y galon Cymru. Yr arian yma yn rhan o'r elw wnaethpwyd ar ein noson blasu gwin.
Pob hwyl i bawb dros yr haf.
08.06.16 Taith Ddirgel
I orffen ein tymor cafwyd taith ddirgel i Borth Amlwch ac i'r amgueddfa gopr. Cafom ein tywys o amgylch a'n diddori gydag hanesion difyr am Amlwch pan 'roedd y mwyngloddio am gopr yn ei fri gan Elfed Rowlands.
Yna swper blasus yng nhlwb golff Porth Llechog. Enillwyd y raffl gan Rhian ac Anwylyd.
Diolchodd Mair fel llywydd i bawb a wnaeth y Flwyddyn hon yn un lwyddianus ac apeliodd am i bawb wneud eu gorau i bysgota am aelodau newydd.
Cyflwynwyd tusw o flodau i Anwylyd ac i Anita a danfonwyd tusw o flodau a chofion arbennig at Jen. Mynegwyd gwethfawrogiad o waith Cwmni Delwedd am ein gwefan raenus ac am ei chadw i ddyddiad.
Diolchwyd i Mair fel llywydd gan lywydd y flwyddyn nesaf, sef Gwyneth Jones.
Bydd y tymor nesaf yn dechrau Medi 14 eg.
Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson
11.05.16 Beth yw Archaeoleg? - Rhys Mwyn
Croesawyd y gŵr gwadd Rhys Mwyn, a ddaeth i'r amlwg fel aelod o'r grwp pync 'Anrhefn', yn hyrwyddwr grwpiau Cymraeg, yn ddarlledwr ond heno i drafod archaeoleg.Fe'n diddanwyd a'n haddysgwyd am 'Beth yw Archaeoleg?'
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma am fwydlen a ffurflen dewisiadau ar gyfer ein Taith Ddirgel ar 08.06.16
Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson
13.04.16 Planhigion mewn potiau - Awen Haf Jones
Cawson noson ddifyr ac addysgiadol iawn yng nghwmni Awen Haf Jones fu'n sôn am ba botiau a pha gompost i ddewis ar gyfer gwahanol blanhigion.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson
10.03.16 Dathlu Gŵyl Ddewi yn Nhafarn y Bont, Porthaethwy
Daeth criw da ynghyd i ddathlu Gwyl Ddewi yn Nhafarn y Bont, Porthaethwy ar nos Fercher, Mawrth 9fed. Wedi pryd blasus cafwyd orig ddidan iawn yng nghwmni Mair Tomos Ifans. Roedd pawb yn mwynhau gymaint yn gwrando arni’n canu, darllen ambell i gerdd ac yn ein diddanu gyda’i hanesion hwyliog, nes ein bod yn amharod iawn i adael pan gyrhaeddodd y bws i fynd a ni am adref. Noddwyd yr adloniant gan gynllun ‘noson fach allan’.
Enillwyr lwcus y raffl oedd Delyth, Eirlys a Bet.
Cliciwch yma i wybod mwy am Mair Tomos Ifans
Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson
07.03.16 Nodyn Atgoffa - Trefniadau Bws Cinio Gŵyl Ddewi
Bydd Bws Derfel yn mynd a ni i Dafarn y Bont nos Fercher 09.03.16.
Cychwyn o waelod Bethel (Tan y Buarth) am 6.40pm, gweithio'n ffordd i fyny i fod wrth Cysegr tua 6.50pm. Dewisiadau bwyd pawb gan Anwylyd yn saff!
Edrych ymlaen at noson ddifyr yng nghwmni Mair Tomos Ifans.
26.02.16 Cinio Gŵyl Ddewi
Unrhyw un sydd heb roi ei dewis ar gyfer y Cinio Gŵyl Ddewi i mewn i ddod ar ffurflen dewis a'r arian i Anita, Mair neu Anwylyd cyn nos Sul nesa (Chwefror 28) os gwelwch yn dda.
10.02.16 'Blasu Gwin' o dan arweiniad y Parchedig Marcus Robinson
Cafwyd noson hwyliog iawn yn blasu gwin yng nghwmni ffrindiau yn neuadd Bethel.Y Parchedig Marcus Wyn Robinson oedd y 'sommelier', wnaeth ein cyflwyno i wahanol winoedd, tair wyn a thair goch, o'r Eidal, Ffrainc, Yr Arianin a Chile.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson
13.01.16 Ategolion Nel
Cawsom noson arbennig o ddifyr yng nghwmni Ellen Lloyd Jones o 'Ategolion Nel'. Roedd pawb yn rhyfeddu at ei dawn - ac yn siwr o gofio amdani pan fydd angen rhywbeth unigryw ar gyfer achlysur arbennig! (els.lloyd@hotmail.com).
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson
05.01.16 Blwyddyn Newydd Dda i holl aelodau'r gangen!
Falch o glywed fod Gwyneth, ein is-lywydd am eleni yn dod at ei hun ar ol llaw-driniaeth - 'brysia wella, Gwyneth. Edrych ymlaen i'ch gweld nos Fercher, 13 Ionawr, pan fydd Elen Lloyd Jones yn dod atom i son am ei chwmni 'Ategolion Nel' ac arddangos dipyn o'r cynnyrch.
09.12.15 Dathlu'r Nadolig ym mwyty Bryn Teg
Gwnaeth y gangen ddathlu 'r Nadolig eleni ym mwyty Bryn Teg, Llanrug. Darparwyd bwyd blasus a weinwyd yn hwyliog mewn awyrgylch Nadoligaidd mawr fu'r mwynhad....
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson
07.12.15 Cinio Nadolig
Gair bach i atgoffa pawb fod y bws yn cychwyn o Tan y Buarth am 7 nos Fercher 09/12/15. Bydd yn codi aelodau yn Tan y Buarth, y Ddôl, safle bws gwaelod Bethel, tu allan i'r Bedol a thu allan i'r Cysegr.
18.11.15 Cystadleuaeth Cynllunio Cerdyn Nadolig 2016
Cynlluniwch gerdyn mewn unrhyw gyfrwng ar gyfer Nadolig 2016.
Dyddiad cau: 04.12.15
Mwy o wybodaeth - cliciwch yma
17.11.15 Catalog Ategolion at y Galon
Nwyddau gan enwogion a ffrindiau tuag at ymgyrch Ategolion at y Galon
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth a manylion sut i roi bid
Dyddiad cau: 21.05.16
11.11.15 Malan Wilkinson - Profiadau Iechyd Meddwl
Cawsom noson gofiadwy a diddorol yn y gangen pan ddaeth Malan Wilkinson atom i sôn am ei phrofiadau Iechyd Meddwl. Bu'n darllen dyfyniadau o'i chyfraniad i'r gyfrol 'Gyrru Drwy'r Storom' cyn cynnal sesiwn cwestiwn ac ateb.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson
02.11.15 Newid i'r Rhaglen
Yn anffodus ni fydd Gwen James yn medru bod gyda ni yn ein cyfarfod nesaf. Mae Malan Wilkinson wedi addo dod ar fyr rybudd ac mae'n fraint i ni ei chroeswu. Cofiwch ddod a'ch dewis o fwyd at ein cinio 'Dolig ynghyd a'r tal o £20.
15.10.15 Cinio Nadolig Merched y Wawr Bethel yn Brynteg
Rhagfyr 9fed am 7.30 - Pris £20
Cliciwch yma am fwydlen a ffurflen
14.10.15 Eidalwr yn Eryri - Ffotograffiaeth Pierino Algieri
Cawsom noson hynod o ddifyr yn nghwmni Pierino Algieri yn edrych ar sleidiau o luniau Dyffryn Conwy, Gerddi Bodnant, yr arfordir a hefyd lluniau Eryri. Roedd cyfle wedyn i brynu cardiau a chalendr o'i luniau bendigedig. Efallai eich bod yn gwybod am rhywun hoffai gael ei lyfr " Eidalwr yn Eryri" yn anrheg nadolig?
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson
09.09.15 Owain Llestyn Thomas
Croesawyd pawb i'r cyfarfod cyntaf o'r tymor gan y cadeirydd newydd, Mair Read. Braf oedd gweld aelodau hen a newydd wedi troi allan unwaith eto, y nod yw hwyl a difyrwch yng nghwmni'n gilydd.
Pleser oedd cael croesawi ennillydd mewn 2 eisteddfod genedlaethol eleni, ennill ar yr unawd corn dan 16 oed, yn y 2 Eisteddfod Genedlaethol gan ennill y rhuban glas yn Meifod, sef Owain Llestyn Thomas.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson
07.09.15 Nodyn Atgoffa
Bydd ein cyfarfod cyntaf nos Fercher nesaf, Medi'r 9fed am 7.30 yn festri Cysegr. Cawn ein diddannu gan Owain Llestyn Thomas, ennillyd y Rhuban Glas am ganu'r corn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Meifod ac yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni. Bydd lluniaeth ysgafn a phaned yn dilyn. Trefnwyd rhaglen ddifyr ar ein cyfer a byddwn yn cyfarfod ar yr ail nos Fercher ym mhob mis. Croeso i aelodau hen a newydd.
15.08.14 Gŵyl Bethel 2015
Llongyfarchiadau i bawb o'r pentref fu'n gweithio mor galed i wneud Gŵyl Bethel mor llwyddiannus eto eleni.
Diolch i'r aelodau aeth draw i gefnogi yr achlysur.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau o'r diwrnod neu cliciwch yma i fynd i wefan Gŵyl Bethel .
10.06.15 Ymweliad Diwedd Tymor - Yr Ysgwrn
Ar noson braf o haf aeth y gangen am drip draw i Drawsfynydd ac i gyfarfod yr adnabyddus Gerald yn Yr Ysgwrn. Cawsom groeso cynnes iawn a noson i'w chofio. Ymlaen wedyn i dafarn Yr Afr yn Glandwyfach am bryd blasus. Diolch i'r swyddogion a'r pwyllgor am drefnu popeth mor dda - nid yn unig neithiwr ond drwy'r flwyddyn.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson
09.06.15 Nodyn Atgoffa
Bydd y Bws yn cychwyn o'r Cysegr am 5:15yh ar nos Fercher 10.06.15 ar gyfer ymweliad â' Yr Ysgwrn, Trawsfynydd.
13.05.15 Sarah Davies o Sefydliad y Galon
Daeth Sarah Davies atom i sôn am waith Sefydliad y Galon a pha mor bwysig yw y codi arian parhaus. Roedd yn noson hynod o ddiddorol gan fod Sarah gyda stôr o hanesion personol.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth
27.04.15 Nodyn Atgoffa
Bydd ein cyfarfod nesaf 13 o Fai pan ddisgwylir aelod o Sefydliad y Galon i’n hannerch (yr oedd yn gais gan ein Llywydd Cenedlaethol i gefnogi’r sefydliad pwysig yma).
Cofiwch ddod a'ch ffurflen a'r arian ar gyfer y trip diwedd tymor gyda chi i'r cyfarfod ( £21 sy'n cynnwys bws, ymweliad â'r Ysgwrn, pryd bwyd yn Nhafarn yr Afr, Glandwyfach. Bws yn cychwyn o'r Cysegr am 5:15y.h.)
08.04.15 Perlysiau Llesol
Bu newid i'r rhaglen mis yma ac mae Sefydliad y Galon yn dod i'r gangen ar Fai 13 yn awr.
Cawsom noson hynod o ddifyr yn nghwmni Mrs Rhiannon Parry fu'n sôn am William Salesbury a pherlysiau llesol cyn dangos enghraifftiau o'i gwaith llaw campus.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson
12.03.15 Dathlu Pen Blwydd Cangen Merched y Wawr Bethel yn 40
Cawsom noson i'w chofio neithiwr wrth ddathlu pen blwydd y gangen yn ddeugain oed. Braf oedd croesawu ein Llywydd Cenedlaethol, Meryl Davies, atom. Cawsom fwyd gwerth chweil gan Pryd i Bawb ac adloniant heb ei ail gan Gwenan Gibbard. Derbyniom englynion gan Richard Lloyd Jones ac englyn gan Jon Meirion, a bu cyfle i hel atgofion ac edrych ar hen luniau a dogfennau.
Diolch o galon i'r swyddogion a'r pwyllgor gweithgar am drefniadau mor drylwyr.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i ddarllen neges gan Nia Parry Jones
Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson
Cliciwch yma i weld yr Archif Lluniau
09.03.15 Nodyn Atgoffa - dathlu pen blwydd y gangen yn y Neuadd Goffa 7yh
Cofiwch mae yn y Neuadd Goffa y byddwn yn cyfarfod ar Fawrth 11 i ddathlu pen blwydd y gangen yn ddeugain oed. Pawb yna erbyn 7yh os gwelwch yn dda.
Darperir y bwyd gan Pryd i Bawb ac mae croeso i chi ddod a photel o win a gwydrau gyda chi i fynd gyda'r pryd. Bydd yr adloniant yn nwylo Gwenan Gibbard, ac fe noddir y noson gan Noson Allan (Cyngor Celfyddydau Cymru).
Bydd amryw o luniau o'r gorffennol i'w gweld hefyd - cliciwch ar y llun i gael blas!
18.02.15 Nodyn Atgoffa - dathlu 40!
Gan ein bod yn dathlu Gŵyl Ddewi a phen blwydd y gangen yn ddeugain oed y mis nesaf, cofiwch anfon eich dewis o luniaeth ynghyd a'r arian i Rita neu Mair Williams, cyn y laf Fawrth. Gwenan Gibbard fydd ein gwestai, ac fe noddir y noson gan Noson Allan (Cyngor Celfyddydau Cymru).
CROESO CYNNES I GYN AELODAU YMUNO A NI - DIM OND CYSTYLLTU AM FANYLION GAN RITA CYN Y 1AF O FAWRTH.
11.02.15 John Grisdale- Tîm Achub Mynydd Llanberis
Cawsom noson hynod o ddifyr yng nghwmni John Grisdale ddaeth i'r gangen i sôn am hanes a gwaith Tîm Achub Mynydd Llanberis. Roedd ganddo luniau bendigedig o harddwch Eryri ac roeddem wedi rhyfeddu fod cymaint â 700,000 o bobl yn ymweld bob blwyddyn. Gyda chymaint o bobl nid oes rhyfedd fod damweiniau yn digwydd ac mae gwaith Tîm Achub Mynydd Llanberis i'w ganmol yn fawr.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau.
Cliciwch yma i fynd i wefan Tîm Achub Mynydd Llanberis
09.02.15 Nodyn Atgoffa
Nos Fercher, Chwefror 11 yn Festri'r Cysegr am 7:30 disgwylir John Grisdale, Caernarfon i roi sgwrs am Dim Achub Mynydd Llanberis.
Gan fod y gangen yn dathlu penblwydd yn 40 oed eleni, mae croeso i gyn-aelodau ddod i ddathlu ar nos Fercher Mawrth 11 yn y Neuadd Goffa am 7yh. Cysylltwch â Rita am fwy o fanylion.
14.01.15 Ymweliad i Salon Elaine's yn Llanrug
Yn wahanol i'r arfer cynhaliwyd ein cyfarfod fis Ionawr yn Salon Elaine yn Llanrug. Croesawodd y llywydd, Mair Price nifer dda iawn o'n haelodau a drodd allan ar noson aeafol.
Derbyniwyd croeso gwresog i ni gan Gemma, Elaine a staff y salon, a chafwyd ychydig o hanes o sut cychwynodd y busnes bedwar deg pump o flynyddoedd yn ol gan Gemma. Cawsom wedyn grwydro o ystafell i ystafell yn y salon moethus a chyfarfod a thrin problemau gyda'r arbenigwyr ym maes harddwch a thrin gwallt.
Cliciwch yma i weld y lluniau.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
12.01.15 Blwyddyn Newydd Dda a Nodyn Atgoffa
Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. Cynhelir cyfarfod mis Ionawr ar nos Fercher, 14eg am 7:30 yn Salon Elaine's, Llanrug yng nghwmni Gemma. Os oes gan unrhyw aelod anhawster gyda chludiant cofiwch gysylltu gyda Rita.
Bydd y Pwyllgor nesaf yn Festri'r Cysegr nos Fercher 21ain am 7 o'r gloch.
10:12:14 Cinio Nadolig
Yn y Felin, Pontrug y bu i'r gangen gyfarfod i ddathlu'r Nadolig. Croesawyd pawb gan Mair Price, y llywydd ac wedi'r gwledda yr oedd Mair wedi trefnu dau gwis i ni. Mawr fu'r dyfalu. Cliciwch yma i weld y lluniau.
Y swyddogion oedd wedi rhoi y rafflau, a'r enillwyr oedd Bet, Eryl a Falmai. Yr oedd neges y Llywydd Cenedlaethol Meryl Davies ar gael i'w ddarllen.
Bydd Cwrs Crefft y Gogledd yn cael ei gynnal ar 24ain o Ionawr, 2015, os am fwy o fanylion, cysylltwch gyda Rita. Byddwn yn cyfarfod nesaf yn Salon Elaine's yn Llanrug, yng nghwmni Gemma. Os oes problem teithio i Lanrug, cysylltwch gyda Rita.
Cynhelir y pwyllgor nesaf ar y 21ain o Ionawr, 2015 yn Festri'r Cysegr.
Bydd y noson Bowlio Deg yn cael ei gynnal yn y Glasfryn nos Wener Chwefror 13 eg.
09:12:14 Nodyn Atgoffa - Cinio Nadolig
Edrychwn ymlaen at ein cinio Nadolig yng Nghaffi'r Felin, Pontrug ar nos Fercher, Rhagfyr 10fed a bydd y bws yn gadael y Cysegr am 7 o'r gloch.
12:11:14 Angela Evans - Gemwaith Arian
Cawson gyflwyniad difyr iawn gan Angela Evans ac roedd pawb yn cytuno fod ei gemwaith arian yn hyfryd dros ben. Mae mwy o wybodaeth am Angela ar wefan IARD
Cliciwch yma i weld y lluniau.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
11:11:14 Nodyn Atgoffa - Arian Cinio Nadolig
Bydd Mair Williams yn casglu ffurflen dewisiadau ac arian Cinio Nadolig yn y cyfarfod nos yfory. Edrychwn ymlaen i weld gemwaith arian gan Angela Evans.
16:10:14 Lansio gwefan "Eco'r Wyddfa" - Papur Bro Eryri
Lansiwyd gwefan newydd "Eco'r Wyddfa" yn neuadd Goffa Bethel heno. Mae'r wefan yn cynnwys yr holl ôl-rifynnau, a'r bwriad yw y bydd yr oll o'r luniau a gyhoeddwyd yn yr 'Eco' ar gael yn fuan. Ewch i gael golwg ar adroddiadau Merched y Wawr Bethel o'r gorffennol!
Bwriedir ychwanegu archif o hen luniau eraill o'r fro, gan gynnwys ffilmiau fideo o'r gorffennol.
Cliciwch yma i fynd i wefan Eco'r Wyddfa neu cliciwch yma i fynd i weld yr holl ôl-rifynnau.
08:10:14 GISDA
Daeth Annes a Mel draw o GISDA i sôn am waith da'r mudiad. Cawsom noson ddifyr ac addysgiadol yn eu cwmni.
Cliciwch yma i weld y lluniau.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
10:09:14 Cyfarfod cyntaf o'r tymor newydd
Cawson noson o adloniant gwerth chweil yng nghwmni Sian Wheway, ei gwr Dafydd, a'i mab Math.
Wedyn cafodd bawb gyfle i gymdeithasu dros baned - diolch o galon i'r pwyllgor am baratoi y lluniaeth.
Cliciwch yma i weld y lluniau.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
04:09:14 Croeso i aelodau hen a newydd!
Cynhelir cyfarfod cyntaf y tymor yn festri Capel Cysegr nos Fercher Medi 10fed am 7.15 dan lywyddiaeth Mair Price.
Edrychwn ymlaen am noson o adloniant yng ngofal Sian Wheway, Ceunant, a bydd lluniaeth ysgafn i ddilyn.
Mae'r gangen yn dathlu ei phen-blwydd yn 40ain oed eleni - croeso cynnes i gyn aelodau ail ymuno, gobeithiwn weld wynebau newydd a'r ffyddloniaid, wrth gwrs. Mae rhaglen ysgafn a diddorol wedi'i threfnu ar eich cyfer.
19.08.14 Gŵyl Bethel 2014
Diolch i bawb fu'n cynorthwyo ar stondin Merched y Wawr yng Ngŵyl Bethel Dydd Sadwrn. Gwnaethpwyd dros £90 o elw.
Cliciwch yma i fynd i wefan Gŵyl Bethel i weld mwy o luniau o'r diwrnod - sawl un ydych chi yn adnabod tybed?
28.07.14 Cais am lyfrau i'w gwerthu yng Ngŵyl Bethel
Bydd gan y gangen stondin yn gwerthu llyfrau ail-law yng Ngŵyl Bethel ar Awst 16. Os oes gennych lyfrau i'w cyfrannu yna bydd Mair Read yn falch o'u derbyn - diolch yn fawr!
12.06.14 Ymweliad i Ganolfan Thomas Telford
Roedd pawb wedi mwynhau yr ymweliad i Ganolfan Thomas Telford ym Mhorthaethwy neithiwr. Ar ôl sgwrs ddifyr gan Bob Diamond cawsom en tywys ar draws y bont enwog ar noson braf o haf cyn mynd ymlaen am bryd blasus i Carreg Bran. Diweddglo ardderchog i orffen y tymor!
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
04.06.14 Trefniadau Ymweliad i Ganolfan Thomas Telford
Cynhelir cyfarfod olaf y tymor am eleni ar nos Fercher 11eg Mehefin gydad ymweliad ac Amgueddfa Telford, Porthaethwy, ac yna pryd o fwyd yng Ngwesty Carreg Bran.
Bydd y bws yn cychwyn o Cysegr am 5.30 gan godi yn y mannau arferol.
21.05.14 Nodyn Atgoffa - Ymweliad i Ganolfan Telford mis Mehefin
Er mwyn cael digon o amser yn y Ganolfan cyn mynd ymlaen am fwyd i Carreg Bran penderfynnwyd yn y cyfarfod olaf y bydd y bws yn cychwyn o Fethel am 5:30y.h.
Os nad ydych wedi gwneud eisioes, gofynnwn yn garedig i chi fynd a'r arian a'r dewis o'r fwydlen i Jen, Ann neu Gwyneth erbyn 25.05.14. Diolch yn fawr.
14.05.14 Helen Holland, Môn Ar Lwy
Cawsom noson diddorol - a blasus - pan ddaeth Helen Holland atom i sôn am ei busnes hufen ia Môn Ar Lwy! Roedd yr hufen ia blas llus yn ffefryn gan amryw - ac eraill yn hoffi y siocled neu'r cnau. Roedd y blas bara brith yn plesio hefyd!
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
09.04.14 Geraint Thomas, Panorama
Pleser oedd croesawu Geraint Thomas atom i gyfarfod mis Ebrill. Mae Geraint yn ffotograffydd proffesiynol yn arbenigo mewn nifer o feysydd gydag oriel yn Stryd y Plas Caernarfon. Mae wedi tynnu llun pob un o'r 140 o lynnoedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri a dangosodd sleidiau bendigedig o'r llynnoedd wrth ddweud hanes amryw ohonynt. "Cyfrinachau Llynnoedd Eryri" yw enw ei lyfr, ac mae'n llawn lluniau godidog o lannau llynnoedd cyfarwydd fel Llyn Tegid i fannau mwy anghysbell fel Llyn Nadroedd.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
18.03.14 Gwahoddiad i Ddysgwyr
Bydd cyfarfod Merched y Wawr, Bethel Ebrill 9fed yn gyfarfod arbennig gan y gwahoddir dysgwyr y Gymraeg sydd ddim yn aelodau o’r gangen i ymuno efo ni. Y gwr gwadd ar y noson fydd Geraint Thomas, Panorama, Caernarfon a chawn gyfle dros baned i fwynhau lluniau o olygfeydd hynod Cymru a chyfle i’r dysgwyr ymarfer eu Cymraeg. Cynhelir y noson yn festri Capel Cysegr, Bethel
am 7.30 nos Fercher Ebrill 9fed. Gwahoddir dysgwyr dynion a merched o Fethel a’r ardal ehangach atom.
Mae’r noson yn cael ei noddi gan Mantell Gwynedd o gronfa Cymraeg Efo’n Gilydd.
18.03.14 Cinio’r Llywydd Ranbarthau’r Gogledd
Cynhaliwyd cinio’r llywydd ddydd Sadwrn 8fed Mawrth yng Ngwesty’r Celt,Caernarfon. Daeth 230 o aelodau Merched y Wawr o bob rhan o Ogledd Cymru i fwynhau cinio blasus ,cyfle i gymdeithasu a gwrando ar sgwrs y wraig wadd,yr actores Rhian Morgan.
Mair Price estynodd groeso i bawb ar ran rhanbarth Arfon, a Gwyneth roddodd y gras cyn bwyta.
Meryl Davies o Ranbarth Dwyfor yw Is-lywydd Cenedlaethol y mudiad a hi yn absenoldeb y llywydd Gill Griffiths a arweiniodd weithgareddau’r diwrnod.
Cyflwynwyd tystysgrifau cynnydd aelodaeth i gangen Llanerchymedd efo 8 aelod newydd eleni, ac i ganghennau Penrhosgarnedd, Clwb Gwawr Glynceiriog, Y Groes, Abergele, Llangwm ac Abersoch am gael nifer o aelodau newydd.
Cafwyd sgwrs ddiddorol iawn gan Rhian Morgan, actores amryddawn iawn, ar hyn o bryd hi yw Gwen Lloyd yn y gyfres boblogaidd Gwaith Cartref ar S4C ar nos Sul.Darllenodd amrywiaeth o gerddi a rhyddiaith mae hi yn eu mwynhau- y digri a’r dwys.
Tegwen Morris y Trefnydd Cenedlaethol roddodd y diolchiadau gan ddiolch i’r Celt am eu gwasanaeth, i Rhian ac i holl aelodau’r mudiad ddaeth i’r Wyl. Dymunwyd adferiad buan a llwyr i Gill Griffiths yn dilyn llawdriniaeth yn ddiweddar. Terfynwyd trwy ganu cân y mudiad. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
18.03.14 Gŵyl y Pum Rhanbarth ym mis Mai
Cynhelir Gŵyl y Pum Rhanbarth yn Ysgol Friars Bangor dydd Sadwrn Mai 10fed .Y tâl fydd £20 hyn yn cynnwys coffi a chinio. Bydd Cwt Tatrws, Daloni yn ein denu i wario yn ystod egwyl y bore.
Fe’n diddanir gan Gethin Griffith, Gwilym Rhys, Y Barnwr Nic Parri, Myrddin ap Dafydd a Gwenan Gibbard. I ddiweddu’r dydd bydd sgwrs gan Hywel Gwynfryn. Os am le dewch a’r tâl i’r cyfarfod nos Fercher Ebrill 9fed yn festri Cysegr.
Cawsom noson gofiadwy iawn pan ddaethom at ein gilydd i ddathlu Gŵyl Ddewi. Daeth S4C draw ar ddechrau'r noson i holi barn yr aelodau ar gyfer y rhaglen Newyddion 9. Bu tair ohonom ar y rhaglen yn mynegi barn am doriadau darlledu Pobl y Cwm. Roedd y bwyd yn Caban Brynrefail yn flasus iawn ac roedd yr adloniant gan Gethin Griffiths a Gwilym Rhys yn arbennig - diolch yn fawr iddynt.
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad o'r noson
Cliciwch yma i weld y lluniau
20.02.14 Pwyllgor yn cyfarfod wythnos nesaf
Cynhelir Pwyllgor MYW Bethel yn festri'r Cysegr am 7yh ar nos Fercher 26 Chwefror. Gobeithio y gall aelodau'r Pwyllgor fod yn bresennol.
14.02.14 Trefniadau Dathlu Gŵyl Dewi
Ar Fawrth 5ed (nodwch y dyddiad os gwelwch yn dda) byddwn yn dathlu Gŵyl Dewi yn y Caban, Brynrefail. Bydd Gethin Griffiths a Gwilym Rhys yn dod i'n diddori.Bydd angen yr arian i mewn erbyn Chwefror 26 os gwelwch yn dda. Y gost yw £15, i gynnwys y bws a phryd 2 gwrs.Gallwch dalu i Jen, Anne, Gwyneth neu Rita. Bydd y bws yn cychwyn o Benrhos am 7y.h. ac yn codi i fyny yn y mannau arferol.
13.02.14 Materion at sylw’r aelodau
Yn anffodus, oherwydd y gwyntoedd cryfion ni chynhaliwyd cyfarfod Merched y Wawr Bethel ym mis Chwefror. Cliciwch yma i weld materion at sylw’r aelodau
12.02.14 NEGES BWYSIG!
OHERWYDD RHAGOLYGON TYWYDD DRWG - MAE CYFARFOD MYW BETHEL WEDI CAEL EI GANSLO HENO
10.02.14 Nodyn Atgoffa - Cyfarfod o'r Pwyllgor
Cofiwch fod y Pwyllgor yn cyfarfod am 6:30yh ar nos Fercher 12.02.14. Wedyn bydd Gemma Jones gyda ni am 7.30y.h. Edrychwn ymlaen at y 'Triniaeth Harddwch'.
Cafodd tim Bethel noson hwyliog iawn yn Bowlio Deg yng Nglasfryn. Llongyfarchiadau i dimau Llanrug a Groeslon a ddaeth i'r brig ar y noson. Bob lwc iddynt yn y gystadleuaeth nesaf. Cliciwch yma i weld y lluniau.
08:01:14 Llwyau Caru
Daeth Wyn a Deilwen Davies i'r gangen a chafwyd sgwrs a thrafodaeth ddiddorol iawn ganddynt am lwyau caru.
Cliciwch yma i weld y lluniau
Adroddiad Cyfarfod 08:01:14 - cliciwch yma
Ffwrdd a ni i Copa, Llanberis am noson hwyliog - bwyd da a chwmni difyr. Diolch o galon i Anne Elis a Gwyneth Jones am drefnu. Cliciwch yma i weld y lluniau
Adroddiad Cyfarfod 11:12:13 - cliciwch yma
26:11:13 Trefniadau Noson Cinio Nadolig - Rhagfyr 11
Bydd y bws yn cychwyn o Penrhos 6.50y.h. ac wedyn yn codi yn y mannau arferol. Ar ôl codi yn safle bws gwaelod y pentref bydd y bws yn safle top y pentref erbyn 7.00y.h. Ellen Ellis, Mair Williams ac Anne Elis fydd yn gyfrifol am raffl y noson.
25:11:13 Cwis Hwyl Cenedlaethol - Neges gan Bwyllgor Arfon
Llongyfarchiadau mawr i gangen Penrhosgarnedd ddaeth yn ail trwy Gymru yn y Cwis hwyl eleni, dau farc oedd rhyngddynt â changen Llanilar ddaeth yn gyntaf. Cangen Llanuwchllyn ddaeth yn drydydd wedi'r cwestiwn datglwm. Yn lleol llongyfarchiadau i gangen Rhiwlas ddaeth yn ail a clwb Gwawr Glannau Llyfni ddaeth yn drydydd. (Mair Price)
19:11:13 Datganiad i'r Wasg
Adroddiad Cyfarfod Hydref - cliciwch yma
15:11:13 Cwis Hwyl Cenedlaethol
Aeth tri tîm o’r gangen i gystadlu yn y Cwis Hwyl Cenedlaethol yn y Seiont Manor, Llanrug nos Wener 15fed Tachwedd.
Tîm Penrhosgarnedd oedd yn fuddigol yn Rhanbarth Arfon, gyda Rhiwlas yn ail a Glannau Llyfni yn drydydd.
Yn y frwydyr rhwng tri tîm Bethel, tîm 3 efo Mair Read, Anita, Nan a Liz daeth i’r brig, tîm 2 Bethel efo Glenys, Nora, Anne a Jen yn ail a Bethel 1 yn drydydd efo Gwyneth, Beti a Mary.
Diolch i Mair Price am y trefniadau trylwyr, i Gwyneth, Ann Lewis, Sharon a Eleri am helpu efo’r marcio. Llongyfarchiadau i Jen ar ennill y raffl ac am fod mor barod i rannu’r tin siocled efo pawb!
Uchod gwelir Tîm Penrhosgarnedd. Cliciwch yma i weld mwy o luniau y noson
13:11:13 Anna Pritchard
Mae gwaith Anna Pritchard wedi cael ei arddangos mewn sawl lle gan gynnwys Oriel Tegfryn , Oriel Glyn y Weddw a siop Tonnau ym Mhwllheli. Mwynhaodd bawb gweld y tecstilau a'r lluniau hardd, a'r llyfrau lloffion oedd yn dangos y broses o gasglu syniadau cyn mynd ati i ddylunio. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
12:11:13 Nodyn Atgoffa - Cinio Nadolig
Cofiwch ddod a'ch dewis a'r arian i gyfarfod Tachwedd os gwelwch yn dda. Cliciwch yma i weld copi o fwydlen Cinio Nadolig yn Copa (Rhagfyr 11).
Edrychwn ymlaen i groesawu Anna Pritchard atom i'r cyfarfod.
10:11:13 Sul y Cofio
Yn dilyn gwasanaeth clodwiw gan ddisgyblion Ysgol Bethel, gosodwyd torch wrth y gofeb ar ran y gangen gan ein Llywydd, Jen Roberts.
17:10:13 Datganiad i'r Wasg
Adroddiad Cyfarfod Hydref - cliciwch yma
09:10:13 Sara a Miriam
Cawsom gyfarfod difyr iawn yng nghwmni Sara a Miriam o gwmni Roberts Portdinorwic. Cawsom hanes datblygiad y cwmni teuluol, gwybodaeth am y siop a'r cynnyrch, a chyfle i flasu rhai o'r cigoedd blasus sydd ganddynt ar werth. Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson, a cliciwch yma i weld lluniau hanesyddol y cwmni.
26:09:13 Nodyn Atgoffa
Cofiwch ddod a ffrind i'r cyfarfod nesaf pan fyddwn yng nghwmni Sara a Miriam, Cwmni Roberts Felinheli. Rydym bob amser yn falch o weld aelodau newydd.
23:09:13 Pwyllgor Rhanbarth Arfon
Mae dwy aelod o gangen Bethel yn weithgar iawn ar Bwyllgor Rhanbarth Arfon. Gwyneth Jones (chwith) yw'r Trysorydd a Mair Price (dde) yw'r Ysgrifennydd. Gwelir hwy yma gyda Meirwen Lloyd oedd yn gorffen ei thymor fel Llywydd ar y noson. Y Llywydd newydd yw Einir Williams.
Cafwyd newyddion da yn y Pwyllgor - roedd Rhanbarth Arfon wedi dod yn gyntaf yng nghystadleuaeth Celf a Chrefft Sioe Frenhinol Cymru. Cliciwch yma i weld y Tystysgrif a mwy o luniau o'r noson.
19:09:13 Datganiad i'r Wasg
Adroddiad Cyfarfod Cyntaf y Tymor - cliciwch yma
11:09:13 Noson Hwyliog
Cafwyd noson hwyliog iawn yng nghwmni Neville Hughes, cyn aelod o'r grŵp enwog Hogiau Llandygai. Roedd yn syndod faint o eiriau'r caneuon yr oedd bawb yn eu cofio! Roedd y bwffe yn flasus iawn - diolch i'r Pwyllgor am hynny, ac roedd yna hen sgwrsio a chwerthin dros baned wrth i bawb ddal i fyny ar ôl seibiant yr haf.
Cliciwch yma i weld y lluniau
01:09:13 Croeso i aelodau hen a newydd!
Cynhelir cyfarfod cyntaf y tymor yn festri Capel Cysegr nos Fercher Medi 11eg am 7.30.
Y gwr gwadd ar y noson fydd Neville Hughes (Hogia Llandegai). Bydd swper blasus a chroeso cynnes i bawb, aelodau hen a newydd dan lywyddiaeth Jen Roberts.
Mae rhaglen ddifyr wedi ei pharatoi fydd yn plesio pawb gobeithio, edrychwn ymlaen i’ch gweld.
24:08:13 Gŵyl Bethel
Diolch i Rita Williams am greu sgwar cant 'Mwydyn Merched y Wawr'. Rhwng gwerthu rhifau a gwerthu llyfrau ail law roedd Liz Watkin, Mair Price, Mair Williams a Mary Evans yn brysur iawn, a codwyd £125.65 i'r gangen! Diolch i Jen, Rita ac Anne am eu rhodd tuag at wobr y gem 'Mwydyn Merched y Wawr'.
Rhoddwyd £30 i Ŵyl Bethel am gael bwrdd yn y digwyddiad. Cliciwch yma i weld mwy o luniau
16:07:13 Un neu ddau o fanion
Cyfarfod sydyn rhwng Jen, Anne a Gwyneth cyn mynd ati i osod Rhaglen 2013-2014. Mwy o drafod ble i fynd i wledda na dim arall!
03:07:13 Y Pwyllgor newydd yn cyfarfod
Daeth y pwyllgor at ei gilydd yn y Cysegr i drafod Rhaglen 2013 - 2014.
Roedd Anne Elis (Ysgrifennydd) wedi bod yn brysur yn ffonio ac yn e-bostio unigolion a sefydliadau tra'r oedd Gwyneth Jones (Trysorydd) wedi bod yn sicrhau fod y gangen yn cael y pris gorau!
Dim ond un neu ddau o fylchau sydd eisiau eu llenwi cyn i Jennifer Roberts (Llywydd) fynd ati i greu y Rhaglen yn awr.
Hefyd trefnwyd pwy sy'n gwneud beth ar gyfer y lluniaeth ar y noson agoriadol ar Fedi 11fed - ond byddwn yn siwr o atgoffa pawb cyn Medi!
Diolch i rai o aelodau'r pwyllgor am gytuno i gymryd gofal o fwrdd Merched y Wawr yng Ngŵyl Bethel ar Awst 24.
Archif Lluniau Merched y Wawr Bethel
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu lluniau ac yn arbennig i Beti Owen ac Eirys Sharpe.
Cliciwch yma i weld ein lluniau
Newyddion
Amdanom
Gwybodaeth